Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Hyd 2008 10:06 am

Bydd Sioned Haf, ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn cymryd rhan ar raglen 'Richard Evans Phone' ar Radio Wales rhwng 12pm a 1pm heddiw, yn ymateb i sylwadau'r CBI a David Davies sy'n ymosod ar y syniad o ddeddfwriaeth ieithyddol sy'n effeithio ar y sector breifat:

http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... -21988230/

Dwi'n siwr bydd tipyn o eithafwyr gwrth-Gymreig yn cymryd rhan ar y rhaglen heddiw, felly ffoniwch mewn os chi'n gallu (oni bai eich bod yn eithafwr gwrth-Gymraeg wrth gwrs! :winc: )

Dwi ar ddeall y byddant hefyd yn trafod datganoli.

Ffôn: 03700 100110
Neges Destun: 81012
Ebost: richardevans@bbc.co.uk

Mae modd gwrando ar Radio Wales yn fyw arlein yma: http://www.bbc.co.uk/radio/aod/radiowales.shtml
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Hyd 2008 11:37 am

Bydd y drafodaeth ymlaen rhwng tua 12.45pm a 1.20pm dwi'n credu.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Llefenni » Mer 08 Hyd 2008 12:59 pm

Sut aeth y drafodaeth tybed? Nesi'm cael siawns i wrando arno - mor negyddol â'r disgwyl tybed, neu rhywbeth i'r edefnyn "Newyddion calonogol parthed yr iaith"?!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 08 Hyd 2008 2:00 pm

"Welsh is being shoved down our throats" "Waste of money" "Nobody wants these translations anyway" "It's not a proper European language" "there's only 10%/2000 of you" (squeeze me? WTF?!)

Y.A.W.N :rolio:

Os ma Rosser yn meddwl y bydd y costau o roi gwasanaeth call drwy gyfrwng y Gymraeg gan gwmniau sydd efo trosiant ac, yn bwysicach, elw mawr fel sydd ganddyn nhw yn mynd i effeithio ar filiau mewn ffordd andwyol yna mae o angen mynd nôl i goleg i neud ei radd cyfrifyddeg. David, it's like a Wren's piss in the sea, de cont. Ac os ma'n poeni gymaint dylai na gymal fod yn y ddeddf nad yw hi'n bosib i gwmniau drosglwyddo'r costau hyn i filiau. Ydi costau newid adeiladau ar gyfer y DDA yn cael eu pasio mlaen i'r cwsmer? Hoffwn i wybod.

Mae o (a'r Western Mail) hefyd yn cymysgu'r ddadl eto, ar bwrpas, gan sôn am fod yn erbyn gorfodi busnesau bychan yn yr erthygl, pan fo'n eithaf clir na fydd y rhan fwyaf o fusnesau bychain a gorfodaeth i wneud llawer o ddim! Ma'r myth o Siop Jips yn Sir Fynwy yn gorfod cyflogi staff Cymraeg yn parhau, fatha rhyw zombie anfarwol* erchyll.

Fethish i'r dechrau. Oedd na aelod Cynulliad yno? Calling Alun Ffred? Rhywun o BYIG?



(*Rhywun isio gneud ffilm zombie Cymraeg o'r enw "Yr Anfarwolion"? :) )
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 08 Hyd 2008 2:18 pm

O ran diddordeb pwy felly oedd yn siarad ar ochr "wrth-Gymraeg" y ddadl? Ai rhywun penodol oedd yno neu ai pobl gyffredin oedd yn ffonio i mewn ac yn gwneud y fath sylwadau; y silent majority honedig 'ma 'lly? Wn i ddim p'un ag oes mwyafrif neu leiafrif gyda barn o'r fath i fod yn gwbl onest, ond p'un bynnag ydynt maen nhw'n nhw'n bell o fod yn ffycin silent.

Llwyddais i ddim gwrando yn anffodus, ond gobeithio bod rhywun heblaw am aelod o CYIG (heb unrhyw amharch o gwbl) yn gwneud y ddadl o blaid deddf iaith newydd, rhywun o'r Bwrdd neu'r Llywodraeth er enghraifft, gan eu bod yn llawer mwy tebygol o ennyn cefnogaeth ymhlith y bobl sy'n amheus nac aelodau o fudiadau cenedlaetholgar fel y Gymdeithas.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Blewyn » Mer 08 Hyd 2008 2:32 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Blewyn » Mer 08 Hyd 2008 2:59 pm

R'oedd y Tori yn dda, siarad fel gweinidog tadol caredig doeth heb ffwdan, ag yn cocsho dadlau o blaid yr iaith. Roedd dadleuon yr hogan o CYI yn gryf ond mi fyswn innau wedi licio clywed mwy am sut mae'r iaith yn mynd i roi pres ym mhocedi y Cymry a llai am hawliau dynol.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Chickenfoot » Mer 08 Hyd 2008 3:44 pm

Mi fethais i'r sgwrs heddiw, ond 'roedd un tebyg amser yr Eisteddfod a 'roedd yn eithaf teg i ddweud y gwir. 'Roedd nifer o Gymry di-Gymraeg yn gefnogol i'r iaith, a rhai negyddol. 'Swn i ddim yn synnu tasa'r sioe yma wedi dilyn yr un patrwm.

Mae'n rhaid i bobl sydd yn ymgyrchu o blaid yr iaith sylweddoli y bydd pobl fel hyn yn lleisio'u safbwyntiau ar yr awyr, a mae'n peth da bod cael y cyfle i wneud o ran "free speech". Byddwch chi byth yn gallu newid safbwyntiau'r rhan helaeth o'r rhai sydd yn erbyn y Gymraeg, felly 'does dim pwynt trio gwneud. Roedd amser lle baswn i di gwylltio hefo pobl fel hyn - yn rhyfedd iawn, 'swn i gwylltio'n fwy pan nad oeddwn i'ngallu siarad Cymraeg - ond mae'n rhaid ymlacio braidd.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 08 Hyd 2008 6:36 pm

Y 2 oedd yn cael eu holi oedd Sioned Haf ar ran Cymdeithas yr Iaith, a David Rosser ar ran y CBI. Roedd trawsdoriad teg o'r rhai o blaid ac yn erbyn mesur iaith (er bod y rhai a oedd yn erbyn mewn un clwstwr ar ddiwedd yr eitem), ond roedd y rhai yn erbyn yn defnyddio'r hen ddadleuon blinedig sydd wedi rhestru uchod yn anffodus. Roedd David Rosser yn ceisio bychanu, ond mi ymatebodd Sioned yn dda. Un peth wnaeth codi fy nghalon i oedd y gyrwr lori o'r de ddwyrain oedd yn frwd o blaid y Gymraeg, a mesur iaith, a cafodd David Rosser hi'n llawer anos ceisio bychanu ef na'r 'usual suspects' gyda enwau eithafol fel Sioned a Hywel :rolio:

Dadl Rosser yn y bôn oedd nad oedd neb eisiau gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai busnesau yn gadael Cymru petasai gorfodaeth arnynt i gynnig gwasanaeth o'r fath, neu byddai biliau pobl Cymru llawer yn fwy na rhai pobl mewn rhannau eraill o Brydain. Hyn er bod Sioned wedi dweud wrtho ei bod hi wedi cael gwybod gan Dwr Cymru, fod cynnig gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid yn swm mor fach, fel nad yw'n ystyriaeth o gwbwl pan maent yn penderfynnu ar gost eu gwasanaeth i gwsmeriaid yng Nghymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Radio Wales Phone-in - 12pm Heddiw, Mesur Iaith + Datganoli

Postiogan Creyr y Nos » Mer 08 Hyd 2008 8:05 pm

Yr erthygl yn y western mail yn dweud y byddai biliau am wasanaeth cyfrwng cymraeg go iawn yn cael ei drosglwyddo i'r cwsmeriaid - hyn tra'n siarad am gwmnioedd ynni sydd yn dal i wneud elw anferth er bod pobl methu fforddio cynhesu tai! Yn y bon mi newn nhw ddefnyddio unrhyw esgus i geisio peidio cynnig y gwasnaeth, hyd yn oed esgus poeni am les cwsmeriaid pan ma nhw yn amlwg yn eu blingo nhw.

Fy hoff ddarn o'r sgwrs oedd - 'all welsh language literature should be a matter of choice', - cymeres i bach o amser i sylweddoli mai ffurflenni ac nid Barddas oedd da'r fenwy dan sylw.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron