http://www.cylchgrawnbarn.info/index.ph ... &Itemid=92
Dyma sydd gan Gwion lewis i'w ddweud ynglyn a pha gwmniau y dylid eu cynnwys mewn Mesur Iaith cychwynnol yn ei farn ef:
Fy awgrym i fyddai canolbwyntio yn y mesur iaith newydd ar y pum is-sector preifat sy’n ymwneud fwyaf â’r cyhoedd yn uniongyrchol: telathrebu, bancio, trafnidiaeth, archfarchnadoedd a’r gwasanaethau cyhoeddus (nwy, trydan, d?r). I roi un enghraifft ym mhob un o’r is-sectorau hyn, byddai hynny’n golygu bod y gyfraith am y tro cyntaf yn disgwyl pethau pendant o safbwynt y Gymraeg gan Orange, HSBC, Virgin Trains, Morrisons a Scottish Power. Ni allai’r un o’r cwmnïau hyn ddadlau’n synhwyrol nad yw’r adnoddau ganddynt i gynhyrchu llythyrau nac arwyddion na gwasanaethau ar-lein Cymraeg. Dyma is-sectorau sydd bellach yn hanfodol i ni oll os ydym am gyfranogi’n llawn o fywyd cyfoes, ac felly ni ellir byw’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg os nad ydynt yn rhoi lle teilwng i’r iaith.
ac mae'n gwrthwynebu'r syniad y dylai lleoliad y cwmni oddi fewn i Gymru fod yn ystyriaeth:
Mae dy lythyr yn awgrymu y gellid ystyried y sector preifat ar lefel ranbarthol, yn hytrach na chenedlaethol, yn unol â chryfder y Gymraeg mewn ardal arbennig, ond os ydym o ddifrif am greu Cymru wirioneddol ddwyieithog, ac yn derbyn y syniad fod angen cynllunio ar gyfer cryfhau ieithoedd llai eu defnydd, nid oes angen i’n gorwelion fod mor gul â hyn. Nid yw sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg yn tramgwyddo unrhyw un, ond mae ei habsenoldeb yn y sector preifat yn awgrymu’n feunyddiol i’r rhai sy’n ei siarad nad yw eu hunaniaeth ieithyddol yn werth ei pharchu.
Adolygiad o lyfyr Gwion Lewis gan Dafydd Trystan hefyd ar wefan Barn:
http://www.cylchgrawnbarn.info/index.ph ... &Itemid=95
Llongyfarchiadau i Dyfrig ar wefan newydd Barn hefyd