Theatr Arad Coch - perfformiad Susnag yn Llangefni

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Theatr Arad Coch - perfformiad Susnag yn Llangefni

Postiogan m.c.macrall » Iau 15 Ion 2009 4:55 pm

Sori ond mae o'n fy nharo fi'n od fod cwmni Cymraeg, yn perfformio ddrama Gymraeg, mewn ardal Gymraeg, mewn ysgol Gymraeg yn Saesneg.

Ti'n gwyno fod Cymru Cymraeg yn anobeithiol am ddefnyddio'r Gymraeg (dwi'n cytuno heb son am fod yn weithredol yn gymunedol) ond pam dwi'n cwestiynu pan nad oes sioe Gymraeg, mewn ysgol Cymraeg mewn ardal Gymraeg dwi’n cael fy meirniadu am geisio sicrhau gweithgaredd yn Gymraeg ac fod yn gul a gwrth Saesneg?!

Mae "stwff Saesneg" hoffa fo neu beidio wedi, yn ac yn mynd i danseilio'r Gymraeg. Ffaith. Shifft ieithyddol mae nhw'n galw fo. Felly mae'n gynyddol pwysig fod "stwff Cymraeg" yn gael ei gynnig.

Be oedd ar le ar gael y ddrama yn Gymraeg ? Er bach yw ei effaith, oeliaf buasai'n effaith adeiladol. Ni fedri di wadu hynna.

Nid beirniadaeth ar y Cwmni yw hwn ond Awdurdod Addysg / Cyngor Sir Ynys Mon ( Nhw ofynodd cael hwn yn Seasneg) sydd llawn di-faterwch pam mae'n dod i faterion y Gymraeg, i ystyried natur ieithyddol y Sir. Mae huna yn ffeit werth ei ennill. Ella fod un ddrama ar ben ei hyn ddim yn neud uffar o wahaniaeth ond pan mae o’n symptom o system sydd ddim yn cymeryd ei gyfrifoldeb tu ag at y Gymraeg o ddifri. Ac dros amser mae huna yn cael effaith negyddol hir dymor gwirioneddol.

Dwi'n ama fyddai rhy brysur i ymateb i unrhyw sylwadu pellach gan fy mod yn mynd i busoddi mwy o fy amser mewn fod yn gymunedol weithredol.
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron