Theatr Arad Coch - perfformiad Susnag yn Llangefni

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Theatr Arad Coch - perfformiad Susnag yn Llangefni

Postiogan Lorn » Llun 15 Rhag 2008 5:46 pm

m.c.macrall a ddywedodd:Nei di ddarllen be dwi wedi sgwennu cyn mynd dros ben llestri. O ni ddim yn wirioneddol feddwl dy fod yn aelod o Education First,


Roedd gan fy ymateb i'r pwynt yma fwy i'w wneud a'r meddylfryd oedd yn ymddangos tu ol i bwnynt Sioni - bod person sydd ddim yn feirniadol o un sioe Saesneg yn Llangefni mewn rhywffordd yn dod o cred gwleidyddol hollol wahanol i rhywun sydd mewn rhyw ffordd yn gefnogol i'r iaith.

Pam fod cynnal pethau yn Gymraeg yn cael ei weld fel wbath gwrth "Saesneg", neu yn erbyn dwyieithrwydd ? Tria ddallt.


Tydw i'm yn credu hynny o bell ffordd. Gweld yn dy ddadleuon di ydw mae gwraidd trafferthion yr iaith Gymraeg mewn ardal fel Llangefni ydy stwff Saesneg - h.y. "Pa hawl sydd gan sioe Saesneg i ddod i rhywle Cymraeg fel Llangefni?", a'r ffaith mae pethau fel hyn bydd yn arwain at ddirywiad yn yr iaith.

I mi dadl gwan ydy hwn. Wrth reswm mae'n bwysig bod digonedd o gyfleoedd a rheini'n rai naturiol i ddefnyddio'r Gymraeg yn Llangefni a mewn rhannau eraill o Gymru a byddwn i'n llwyr gefnogol i hynny a dwi wedi trefnu gweithgareddau er mwyn sicrhau hyn yn y gorffenol. Ond, nai ddim dadlau bod rhaid i sioe fod yn un Gymraeg bod yn Llangefni neu unrhyw ran arall o'r byd. Hurt bost bydde rhywbeth o'r fath. Dwi'n gwbod ffaith bod sioeau Cymraeg yn cael eu cynnal yn Llangefni felly dio ddim fel bod ar yr adeg prin bod sioe yn dod i'r dre mai Saesneg ydy cyfrwng y sioe hwnnw.

A gallaf dy sicerhau di does ddim "comfort zone" nunlla yng Nghymru lle mae dyfodol y Gymraeg yn y cwestiwn. Dyna'r pwynt.


Felly piga ffeit sydd werth ei hennill parthed yr iaith neu cynorthwya i drefnu bod y sioe nesa sy'n dod i'r ardal yn un Cymraeg, neith cwyno am Arad Goch yn dod a sioe Saesneg I Langefni ddim lladd yr iaith a neith o'm daioni iddi chwaith.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Theatr Arad Coch - perfformiad Susnag yn Llangefni

Postiogan m.c.macrall » Iau 15 Ion 2009 4:55 pm

Sori ond mae o'n fy nharo fi'n od fod cwmni Cymraeg, yn perfformio ddrama Gymraeg, mewn ardal Gymraeg, mewn ysgol Gymraeg yn Saesneg.

Ti'n gwyno fod Cymru Cymraeg yn anobeithiol am ddefnyddio'r Gymraeg (dwi'n cytuno heb son am fod yn weithredol yn gymunedol) ond pam dwi'n cwestiynu pan nad oes sioe Gymraeg, mewn ysgol Cymraeg mewn ardal Gymraeg dwi’n cael fy meirniadu am geisio sicrhau gweithgaredd yn Gymraeg ac fod yn gul a gwrth Saesneg?!

Mae "stwff Saesneg" hoffa fo neu beidio wedi, yn ac yn mynd i danseilio'r Gymraeg. Ffaith. Shifft ieithyddol mae nhw'n galw fo. Felly mae'n gynyddol pwysig fod "stwff Cymraeg" yn gael ei gynnig.

Be oedd ar le ar gael y ddrama yn Gymraeg ? Er bach yw ei effaith, oeliaf buasai'n effaith adeiladol. Ni fedri di wadu hynna.

Nid beirniadaeth ar y Cwmni yw hwn ond Awdurdod Addysg / Cyngor Sir Ynys Mon ( Nhw ofynodd cael hwn yn Seasneg) sydd llawn di-faterwch pam mae'n dod i faterion y Gymraeg, i ystyried natur ieithyddol y Sir. Mae huna yn ffeit werth ei ennill. Ella fod un ddrama ar ben ei hyn ddim yn neud uffar o wahaniaeth ond pan mae o’n symptom o system sydd ddim yn cymeryd ei gyfrifoldeb tu ag at y Gymraeg o ddifri. Ac dros amser mae huna yn cael effaith negyddol hir dymor gwirioneddol.

Dwi'n ama fyddai rhy brysur i ymateb i unrhyw sylwadu pellach gan fy mod yn mynd i busoddi mwy o fy amser mewn fod yn gymunedol weithredol.
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron