Lorn a ddywedodd:
Dwi'n dod o deulu sy'n falch iawn o'n Cymreictod ond dwi'n yn prynnu dim ond miwsig Cymraeg, ond yn gwylio S4C a ond yn gwylio sioeau Cymraeg. Dwi ddigon clyfar i ddallt pethau yn y ddwy iaith ac yn dewis gwneud pethe yn y ddwy iaith yne, a dwi'n siwr dy fod ti hefyd! Dwi hefyd yn poeni am yr iaith ond does dim frwydr iw hennill ble mae cwmni yn deiws dangos un sioe yn Saesneg yn Llangefni. Pe bai ond mor hawdd a hynny bydde Cymru'n le lot gwell i fyw ynddo!
Ti'n iawn, nid fydd hwn ei hyn yn hoelen arch y Gymraeg, ond dyna'r pwynt de, does fawr ddim un digwyddiad unigol yn gyfrifol am dirywiad y Gymraeg, mae o fel dominos. Penderfyniadau bach dyddiol sydd yn gwanhau'r iaith, dyna yw cymdeithaseg iaith. Ond buasai cael y ddrama yn Gymraeg yn ddylanwad adeiladol yn lle negyddol.
Ti'n son fod modd i ni ddewis neud pethau trwy'r Gymraeg neu Saesneg. Digon gwir. Ond wrth i fwy a fwy o bethau ar gael trwy'r Saesneg mae'n annatod fod ein hunaniaeth ni fel siaradwyr Cymraeg yn cael ei dadwreiddio. Cyn ti'n gwybod mae'r Gymraeg yn ail iaith, neu ddim yn iaith o gwbwl. Dyna pam mae'r Gymraeg yn iaith lleiafrifol. Mae'r broses yma wedi bod ar waith ers canrifoedd ac yn parhau. Bron yn anweledig. Difaterwch sydd yn caniatau hyn i ddigwydd.
Felly mae'n hanfodol mewn ardaloedd Cymraeg a Saesneg fod pethau fel hyn yn cael ei gynnig yn Gymraeg ac ia weithiau yn Gymraeg yn unig. Does ddim llawer o pwynt cael dewis o bopeth yn y ddwy iaith. Saesneg fydd yn ennill. Os yw'r Gymraeg am goroesi mae rhaid iddo allu cynnig profiadau tu allan i be sydd yn bosib trwy Saesneg.
Felly mae penderfyniad Awdurdod Addysg i ofyn i Theatr Arad Coch i perfformio yn Susnag ac Susnag yn unig yn un rhyfedd.