Cysylltu gyda Orange a Vodafone - Angen cymorth

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cysylltu gyda Orange a Vodafone - Angen cymorth

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 20 Tach 2008 12:20 am

Targedau mis Tachwedd a Rhagfyr 2008 ymgyrch 'Gweddnewid y Sector Breifat' Cymdeithas yr Iaith yw Orange a Vodafone. Cefndir yr ymgyrch...

Gelli di gefnogi'r ymgyrch trwy gymryd pum munud i lunio llythyr/ebost o gwyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol. Mae llythyr enghreifftiol y gelli di ei ddefnyddio ar gael yma - http://cymdeithas.org/rtf/llythyr-ffonsymudol.rtf

Cofia nodi os wyt ti'n gwsmer iddynt, gan y bydd hyn yn ychwanegu mwy o bwys i'r alwad. Cofia nodi dy enw a chyfeiriad hefyd. Mae croeso i ti gysylltu gyda'r amryw o gwmniau ffon symudol eraill hefyd os wyt ti'n dymuno! Danfona unrhyw ymatebion rwyt ti'n eu derbyn at sioned.haf@cymdeithas.org

Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon y gwyn wedi'u nodi isod:

ORANGE
* http://www1.orange.co.uk/mobilecontactu ... tacustomer - Olaf.Swantee@orange.co.uk
* Orange Customer Care, Orange UK Plc, PO Box 486, Rotherham, S63 5ZX

VODAFONE
* arun.sarin@vodafone.com - http://vodafone.co.uk/
* Customer Care, Vodafone House, The Connection, Newbury, Berkshire, RG14 2FN.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cysylltu gyda Orange a Vodafone - Angen cymorth

Postiogan HuwJones » Iau 20 Tach 2008 10:59 am

Wnai sgewnnu atynt pan gai gyfle dros y penwythnos.
Dwi'n methu'n lan deall pam 'dyw mwy o siaradwyr Gymraeg ddim yn mynnu bod cwmniau maent yn talu eu ceinigau prin ddim yn cydnabod eu hiaith.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Cysylltu gyda Orange a Vodafone - Angen cymorth

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 20 Tach 2008 6:52 pm

Dyna pam fod ymgyrchoedd fel hyn mor bwysig Huw. 5 munud mae'n cymryd, ond os oes lot o bobl yn cymryd rhan gall wneud gwahaniaeth mawr. Dadl y CBI a'r sector breifat o hyd ydy nad oes galw am wasanaethau Cymraeg, felly profwch fod y galw yn bodoli!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cysylltu gyda Orange a Vodafone - Angen cymorth

Postiogan HuwJones » Sul 23 Tach 2008 9:17 pm

... dyna fo .... wedi gwneud. Un llythyr cwrtais i Orange yn Rotherham ac un reit snoti i Alun Ffred.
Yn y post peth cynta'r bore
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron