Rali Calan Hen
2pm, Dydd Sadwrn, Ionawr 10fed
Cofgolofn Aneurin Bevan, Heol y Frenhines, Caerdydd
Caryl Parry Jones, Morgan Hopkins, Bethan Williams, Catrin Dafydd, Pibydd Cymreig, Y Fari Lwyd + mwy!
Cymedrolwr: gronw
Hen Galan – Agwedd Ieithyddol Newydd
Yn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:
"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau. Hyd yn hyn does fawr ddim gwelliant wedi'i weld o gwbl."
Fe aeth Cymdeithas yr Iaith a'u neges at y busnesau gan orymdeithio drwy Stryd y Frenhines cyn symud ymlaen i'r Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays, i gyflwyno llythyr i Alun Ffred, y gweinidog â goruchwyliaeth dros y Gymraeg.
Ymysg aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y rali roedd Caryl Parry Jones, Morgan Hopkins, Catrin Dafydd a Bethan Williams yn annerch a grŵp gwerin y Fari Lwyd yn cynnig adloniant.
Fel rhan o'u hymgyrch mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn am dri phrif beth sef statws cyflawn i'r iaith Gymraeg, creu swydd Comisiynydd Iaith a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau.
Ychwanegodd Bethan Williams:
"Mae busnesau yn y sector breifat yn dal i sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg ac mae'n hen bryd i'r Llywodraeth sylweddoli hyn ac ymateb drwy sicrhau y bydd y Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn un cynhwysfawr fydd yn sicrhau hawliau unigolion. Heb sicrhau statws, hawliau a chreu Comisiynydd iaith yn mesurau iaith i ddilyn mi fydd ymdrechion i gywiro anghyfartaledd ieithyddol yng Nghymru yn methu."
Dywedodd Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn dilyn y Rali:
"Rydym ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth i'r Rali gan drigolion Caerdydd heddiw. Fe wnaeth dros 300 o aelodau'r Gymdeithas ynghyd a thrigolion lleol oedd yn ein cefnogi anfon neges glir i'r Llywodraeth ein bod ni o ddifri am fynnu hawliau i gael defnyddio'r Gymraeg ym mhob sffer o'n bywydau. Wrth orymdeithio i lawr Heol Y Frenhines a phasio'r holl gwmniau a siopau mawr fel Orange a Vodafone sy'n dominyddu ein bywydau cawsom ein hatgoffa o'r newydd, bod yn rhaid i unrhyw Orchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol fydd yn trosglwyddo pwerau i Gaerdydd fod yn ddigon eang i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu o blaid hawliau i siaradwyr Cymraeg yn y sector gyhoeddus A'R sector breifat, gan mai'r sector breifat sydd yn dominyddu ein bywydau o ddydd i ddydd erbyn heddiw."
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai