Cymedrolwr: gronw
Kantorowicz a ddywedodd:Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.
Prysor a ddywedodd:Kantorowicz a ddywedodd:Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.
Mae gen i brosiect hirdymor - llyfr yn cynnwys yr holl engreifftiau (sylwadau blog, erthyglau gan golofnwyr fel Dan O'Neill a David Banks, Paul Starling ac eraill, llythyrau yn y wasg, sylwadau gan wleidyddion etc) - ac mi ydw i'n mynd i'w alw fo'n 'Language of Hatred'. Dyna oedd hoff benawd y wasg am y GYMRAEG pan oedd rhywun yn cyfeirio at y mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg, er engraifft. Felly dwi'n troi hwnnw ar ei ben a dangos yn union lle mae'r casineb dyddiol yn erbyn siaradwyr Cymraeg.
Unoliaethwyr, Saeson imperialaidd ac aelodau Real Wales yw llawer ohonynt, ond i fod yn onest, mae'r mwyafrif - a'r rhai mwyaf gelyniaethus a gwenwynig - yn aelodau o'r Blaid Lafur Gymreig.
*gyda llaw, dwi'n cytuno efo Macsen a Madrwydd etc i raddau helaeth (bron yn llwyr) - anwybyddu nhw fydda i fel arfer, mae nhw'n colli, so be di'r pwynt. Mae'r llyfr yn mynd i fod yn gofnod hanesyddol o'r agweddau a wynebwyd gan y Cymry wrth geisio amddiffyn eu treftadaeth, ac o ran hynny mae'n werth ei gyhoedi
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Syniad da iawn. Disgwyl 'mlaen i ddarllen hwn Prysor. oes gyda ti rhyw ddyddiad cyhoeddi mewn meddwl??
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai