Agweddau pobl eraill

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 12 Gor 2009 10:00 pm

Dw i ddim yn gyfarwydd a'r seits hynny - a dweud y gwir, byddai enw fel "ICWALES" neu "WALESONLINE" yn tueddu gwneud i mi feddwl "Wel, efallai na". Oes na seit yng Nghymru o'r enw "mywelsh.com"? Be fyddai eich barn amdani petai?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan celt86 » Mer 15 Gor 2009 6:15 pm

Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Prysor » Mer 22 Gor 2009 7:48 pm

Kantorowicz a ddywedodd:Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.


Mae gen i brosiect hirdymor - llyfr yn cynnwys yr holl engreifftiau (sylwadau blog, erthyglau gan golofnwyr fel Dan O'Neill a David Banks, Paul Starling ac eraill, llythyrau yn y wasg, sylwadau gan wleidyddion etc) - ac mi ydw i'n mynd i'w alw fo'n 'Language of Hatred'. Dyna oedd hoff benawd y wasg am y GYMRAEG pan oedd rhywun yn cyfeirio at y mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg, er engraifft. Felly dwi'n troi hwnnw ar ei ben a dangos yn union lle mae'r casineb dyddiol yn erbyn siaradwyr Cymraeg.

Unoliaethwyr, Saeson imperialaidd ac aelodau Real Wales yw llawer ohonynt, ond i fod yn onest, mae'r mwyafrif - a'r rhai mwyaf gelyniaethus a gwenwynig - yn aelodau o'r Blaid Lafur Gymreig.

*gyda llaw, dwi'n cytuno efo Macsen a Madrwydd etc i raddau helaeth (bron yn llwyr) - anwybyddu nhw fydda i fel arfer, mae nhw'n colli, so be di'r pwynt. Mae'r llyfr yn mynd i fod yn gofnod hanesyddol o'r agweddau a wynebwyd gan y Cymry wrth geisio amddiffyn eu treftadaeth, ac o ran hynny mae'n werth ei gyhoedi
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Kez » Mer 22 Gor 2009 9:14 pm

Pan own i yn y Coleg - ac ma hyn yn mynd nol flynydda nawr- roedd rhywun yn gwneud Phd ne rwpath tebyg ynglyn ag agweddau gwrth-gymraeg yn y wasg gyfredol. Own i'm yn gweld pwynt iddo fe ar y pryd, a gwed y gwir - ond erbyn hyn, fi'n ei gweld hi'n gofnod hanesyddol sydd raid wrth ei nodi, ac fi'n meddwl bo nodi'r peth a'i deall hi yn bwysig - felly fi wedi newid meddwl.

Anwybyddu nhw sydd ora ond ma'r diawl yndo i yn lico cyfrannu at eu sgwrsiau o bryd i'w gilydd. Bwrw pen yn erbyn wal wyt ti - ond wrth gymeryd y pish mas o'nhw, swn i'n lico meddwl bod pobol eraill yn diall bo nhw'n wancars - a'r ffordd orau o neud hwnna yw cytuno a nhw yn y ffordd mwya hiliol, stiwpid a di -reswm. Wrth gwrs, ma amall i idiot yn dal i gytuno a nhw wedi 'ny - ond sdim gobith i'r rhain :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 22 Gor 2009 9:20 pm

Prysor a ddywedodd:
Kantorowicz a ddywedodd:Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.


Mae gen i brosiect hirdymor - llyfr yn cynnwys yr holl engreifftiau (sylwadau blog, erthyglau gan golofnwyr fel Dan O'Neill a David Banks, Paul Starling ac eraill, llythyrau yn y wasg, sylwadau gan wleidyddion etc) - ac mi ydw i'n mynd i'w alw fo'n 'Language of Hatred'. Dyna oedd hoff benawd y wasg am y GYMRAEG pan oedd rhywun yn cyfeirio at y mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg, er engraifft. Felly dwi'n troi hwnnw ar ei ben a dangos yn union lle mae'r casineb dyddiol yn erbyn siaradwyr Cymraeg.

Unoliaethwyr, Saeson imperialaidd ac aelodau Real Wales yw llawer ohonynt, ond i fod yn onest, mae'r mwyafrif - a'r rhai mwyaf gelyniaethus a gwenwynig - yn aelodau o'r Blaid Lafur Gymreig.

*gyda llaw, dwi'n cytuno efo Macsen a Madrwydd etc i raddau helaeth (bron yn llwyr) - anwybyddu nhw fydda i fel arfer, mae nhw'n colli, so be di'r pwynt. Mae'r llyfr yn mynd i fod yn gofnod hanesyddol o'r agweddau a wynebwyd gan y Cymry wrth geisio amddiffyn eu treftadaeth, ac o ran hynny mae'n werth ei gyhoedi


Syniad da iawn. Disgwyl 'mlaen i ddarllen hwn Prysor. oes gyda ti rhyw ddyddiad cyhoeddi mewn meddwl??
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Prysor » Mer 22 Gor 2009 9:41 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Syniad da iawn. Disgwyl 'mlaen i ddarllen hwn Prysor. oes gyda ti rhyw ddyddiad cyhoeddi mewn meddwl??


Na, dim dyddiad pendant, ond fydd hi'n ddwy flynedd o leiaf. Steddfod 2011??? Dyna fyddai amseru da!

Gyda llaw - erbyn meddwl, byddai'n help petai pobl yn gallu gyrru unrhyw wybodaeth/scans o erthyglau a llythyrau etc i mi.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan celt86 » Iau 23 Gor 2009 10:16 am

Diddorol Prysor. Dilyn ymlaen o 'Neighbours from hell' mewn ffordd.

Mae'n hen amser i Unoliaethwyr 'Cymraeg/di-Gymraeg' yng Nhgymru dod dan y lach. Mae nhw mwy wrth-Cymreig na'r Saeson sydd yn dod yma i fyw. Hen cojars dros ei 60au sydd eisiau cael gwared or Cynulliad, S4C, yr Eisteddfod ar iaith Gymraeg. Mae nhw yn 'obsessed' efo Plaid Cymru! Mae nhw yn cwyno, cwyno, cwyno a cwyno am bopeth mae'r cynulliad yn ei wneud. Os mae'r cynulliad wedi creu swyddi, mae'r uniolaethwr yn rhoi spin ar y stori er mwyn creu agwedd sarhaus. Mae nhw wastad yn dweud mae y rheswm fod Cymru yw'r rhanbarth mwyaf tlawd yn y DU yw oherwydd y cynulliad. Cyn 1997 roedd Cymru yn baradwys, pawb efo swydd, gwasanaeth addysg a iechyd y gorau yn y byd :rolio: :rolio: Pob 'opinion poll' sydd yn dod allan sydd yn dangos cefnogaeth i datganoli, mae'r Unoliaethwyr 'Cymraeg' yn rhoi spin a dweud bod o ddim yn wir, ac mae 'conspiracy' Plaid Cymru yw'r cyfan. Eisiau Cymru fod yn rhan o Loegr yn gyfrinachol, ond yn gwybod na allynt ddod allan a dweud hyn oherwydd mi fyddai hyd yn oed y Saeson yn chwerthin ar eu pennau!
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 27 Gor 2009 7:22 pm

Prysor yn cytuno gyda fi. Wêl ddâts â ffŷrst!

Wel ia, ti gyda lot o hen lafurwyr yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae nhw yn gweld y byd mewn ffordd dra wahanol i’r genedlaethau ifancach. Mae hunaniaeth dosbarth gweithiol yn bwysig iawn i nhw ac wedi'w gysylltu i hawliau economeg a chymdeithasol (hawl i weithio ayb). Unrhyw beth sydd yn tanseilio’r ‘workers solidarity’ fel iaith a hunaniaeth wladol angen cael cael ei ddinistrio. Ond ti’n iawn, mae’r gwleidyddiaeth ‘hunaniaeth dosbarth’ bron a marw erbyn hyn.

Dwi fy hyn, fel rhyddfrydwr, yn gweld y byd ar sail yr unigolyn a phwysigrwydd i barchu eu unigolrwydd boed lliw croen, crefydd neu fel Rhyddfrydwr Cymraeg, yr iaith mae nhw’n siarad.

Credaf yn bersonol sydd yn cwyno am faint o bobl sydd yn cwyno am fait y gwareir ar yr iaith Gymraeg yw’r un bobl sydd yn cwyno bobl dramor sydd jwmpio’r llinell i tai cyngor,sydd yn cwyno am mewnfudiad neu yn ymosod ar rheoliau UE.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron