Pa mor bwysig yw hi bod gan rhai pobl agweddau at y Gymraeg y byddai rhai ohonom ni'n eu hystyried yn waddol hen ganrifoedd?
Ces sioc wrth alw heibio ar hap i flog Betsan Powys, a gweld uffach o ffrae yn digwydd rhwng dwy garfan o gyfranwyr, rhai yn mynnu parch at y Gymraeg, a rhyw 10 o bobl yn atgas ddatgan bod y "cenedlaetholwyr" yn "nazis" a'r Gymraeg yn "language in a time-warp" a fyddai'n cadw Cymru yn y Canol Oesoedd petai'n cael tyfu.
Dyma'r ddolen (yn y sylwadau mae'r cig): http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters ... lists.html.
Fel y dywedais i: ces i sioc. Eto, mae'n bosibl taw rhywbeth beunyddiol i rai yw profi gwenwyn fel hyn (un o dramor ydw i). Tybed.