gan Kantorowicz » Sul 18 Ion 2009 4:58 am
Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.
Rwyt ti'n iawn Adamjones416 - mae rhaid medru wynebu'r agweddau yma, a'u hwynebu mewn ffordd bwrpasol. Mae'n bosibl iawn y daw diwrnod pan fydd lot mwy na jyst dadl mewn chatroom yn dibynnu ar fedru gwrthbrofi'r nonsens yma - a'i wneud yn glir ac yn derfynol. Cofiwn fod rhyw 30% o bobl na chafodd eu geni yng Nghymru, ac wn i ddim beth yw'r canran nad ydynt yn deall sefyllfa ieithyddol a gwleidyddol y wlad - on'd yw hi'n berygl y caiff pobl eu dylanwadu gan y nonsens yma (ac nid yn unig eu plant)?
Ond wrth sôn am blant... ble mae'r addysg? Faint o gyngor sy'n cael ei roi i blant ysgol am sut i ddelio gyda dwyieithrwydd? Mae pawb yn cael dysgu am gydraddoldeb yng nghyd-destun rhyw, hil, rhywioldeb, crefydd, ac ati, ond oes digon o sylw yn cael ei roi yn y sylabwl i ddwy- / aml-ieithrwydd? Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol am sut i groesi'r heol, bod rhaid cau clwydi yng nghefn gwlad, sut i gael rhyw diogel, sut i beidio â chael damwain yn y gegin, etc., ond dydw i ddim yn cofio neb yn fy ngwahodd i feddwl unwaith am sut i fihafio mewn grwp lle mae un neu ragor yn siarad iaith arall neu dim ond un iaith (sydd dipyn yn fwy cymhleth na gweithio ma's sut i ddefnyddio condom!).