gan Kantorowicz » Llun 12 Ion 2009 2:26 am
Diolch, Madrwyddygryf a'r Mabafradlon am yr awgrymiadau. Ar y cyfan, casineb hollol afresymol sydd yno, mae'n ymddangos, er bod i'r ddadl trethi ryw fymryn o reswm efallai (hyn yn oes os yw hynny'n rheswm "Thatcheraidd" amhleserus). Diddorol gweld y grwp Facebook yna - mae'n drueni fod rhai ethaf ifanc yn fodlon ymuno yn yr atgasedd twp (yn lle bod y cyfan yn perthyn i do hen fydd yn diflannu mewn ychydig flynyddoedd, fel a welir, rwy'n credu, ar y BBC).
Rhyfeddach serch hynny imi, gan ystyried (er un enghraifft yn unig) yr holl ffys a dderbyniodd y tywysog Harri yn ddiweddar am iddo ddefnyddio'r gair "paki", yw bod y trafodaethau hyn yn gallu mynd yn eu blaenau heb unrhyw sylw 'swyddogol'. Efallai na fydd barn y bobl hyn o bwys o gwbl yn y pen draw, ond eto mae'n anodd gen i gredu tasai carfan o bobl - ta pa mor fechan eu niferoedd - yn poeri atgasedd fel hyn am yr anabl, yr Iddewon neu'r duon (etc.), prin iawn na welid ymgyrch yn y cyfryngau yn sôn am hiliaeth annerbyniol yn torri i'r wyneb.
Mae'n fy atgoffa o'r swasticas ac arwyddion gwrth-iddewig eraill a welir yn graffiti yng ngwledydd dwyrain Ewrop. Nid yw hyn o reidrwydd yn arwydd bod mudiadau ffasgaidd o bwys yn bodoli yno - does dim Iddewon ar ôl yn y rhan fwyaf o'r llefydd hyn ta beth - ond yn hytrach yn dangos bod pobl yn cydio yn symbolau (unrhyw symbolau) er mwyn mynegi rhyw angst di-ffocws.
Mae'r gymhariaeth â'r Alban yn ddiddorol, Sionaidh - addysg o ryw fath sydd ei angen, dywedwn i, i ddangos nad yw'r natur "in yer face" yma yn fygythiad. Ond er mwyn hyn, bydd angen i'r cyfryngau Saesneg eu hiaith (a'r gymuned Saesneg ei haith yn gyffredin) ddechrau cymryd tipyn yn rhagor o ddiddordeb ym materion (a bodolaeth) yr iaith.