Agweddau pobl eraill

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 17 Ion 2009 3:32 am

O wel, bydd y pobl yma ddim yn byw am byth,

Cywir...ond eu plant...be amdanynt? Bydden nhw'n tyfu mewn yr un naws o anwybodaeth. Ddarfu'r bobl y waharddodd yr iaith am y tro cyntaf blynyddoedd yn ôl yn yr oesoedd canol, ond eto mae rhai heddiw yn rhannu'r un barnau.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan adamjones416 » Sad 17 Ion 2009 1:21 pm

Wel i ddweud y gwir dwi wedi bod yn aros i hyn godi ers sbel, Mae'n hen bryd ein bod ni'n sefyll lan i'r pobl hiliol yma. Dwi ddim yn dweud bod y Cymry Cymraeg yn hollol ddiniwed achos dwi'n un sydd wedi sarhau siaradwyr Saesneg a oedd yn beirniadu ac yn tanseilio'r iaith. Ond dwi erioed wedi dechrau ffynhonnell i gynorthwyo dadl gwrth-Seisnig.

Roeddwn i'n aelod brwd o Walesonline, Yn cyfrannu bob dydd yn yr Adran Gymraeg ac yn yr adran Saesneg. Ond dim ond dadleuon gwrth gymreig can cyfrannwyr megis, EW, Bob, Cardifftaffia etc. Roedd eu dadlau nhw yn wan ac yn unllygeidiog iawn. Roedden nhw'n ceisio dweud fy mod i'n arbrawf gwleidyddol a dyna oedd yr unig rheswm bod y Gymraeg yn iaith gyntaf ac yn briod iaith i mi. Does dim Cymhariaeth gyda Chymraeg ag unrhyw iaith geltaidd arall am un rheswm mae'r Cymraeg yn gryf o lawer i gymharu a nhw. Ond Dwi'n cydnabod bod pobl yn enwedig yn Iwerddon yn ceisio tanseilio'r iaith tro ar ól tro. Wel roeddwn i wedi cael llond bol o ymateb nol gyda'm ffeithiau a doedd dim byd synhwyrol ganddynt i ddweud yn ol. Dim ond casineb a chelwyddau.

Roedd yr un yn wir am ddadleuon datganoli ac Annibyniaeth i Gymru, Onid yw'n rhyfedd bod y cenedlaetholwyr sydd yn dadlau o blaid annibyniaeth gyda syniadau pendant ac ystadegau/ffigyrau/ffeithiau i gefnogi ei ddadl. Ond gyda'r unoliaethwyr dim ond rwts . Oes rhyfedd bobol bod ein gwlad fel mae hi? Gyda rhain yn rhedeg ein llywodraeth?
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Kantorowicz » Sul 18 Ion 2009 4:58 am

Oes 'na rywun sydd wedi casglu enghreifftiau o'r agweddau lled-hiliol yma (os "lled-" o gwbl)? Byddai medru crynhoi enghreifftiau er mwyn gwneud asesiad rhesymol (a medru eu dangos nhw am yr hyn ydyn nhw, sef ystrydebau cul) yn fanteisiol iawn.

Rwyt ti'n iawn Adamjones416 - mae rhaid medru wynebu'r agweddau yma, a'u hwynebu mewn ffordd bwrpasol. Mae'n bosibl iawn y daw diwrnod pan fydd lot mwy na jyst dadl mewn chatroom yn dibynnu ar fedru gwrthbrofi'r nonsens yma - a'i wneud yn glir ac yn derfynol. Cofiwn fod rhyw 30% o bobl na chafodd eu geni yng Nghymru, ac wn i ddim beth yw'r canran nad ydynt yn deall sefyllfa ieithyddol a gwleidyddol y wlad - on'd yw hi'n berygl y caiff pobl eu dylanwadu gan y nonsens yma (ac nid yn unig eu plant)?

Ond wrth sôn am blant... ble mae'r addysg? Faint o gyngor sy'n cael ei roi i blant ysgol am sut i ddelio gyda dwyieithrwydd? Mae pawb yn cael dysgu am gydraddoldeb yng nghyd-destun rhyw, hil, rhywioldeb, crefydd, ac ati, ond oes digon o sylw yn cael ei roi yn y sylabwl i ddwy- / aml-ieithrwydd? Rwy'n cofio dysgu yn yr ysgol am sut i groesi'r heol, bod rhaid cau clwydi yng nghefn gwlad, sut i gael rhyw diogel, sut i beidio â chael damwain yn y gegin, etc., ond dydw i ddim yn cofio neb yn fy ngwahodd i feddwl unwaith am sut i fihafio mewn grwp lle mae un neu ragor yn siarad iaith arall neu dim ond un iaith (sydd dipyn yn fwy cymhleth na gweithio ma's sut i ddefnyddio condom!).
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Duw » Sul 18 Ion 2009 12:29 pm

Oes unrhywun wedi meddwl taw'r ffordd ore i dawelu'r penne bach ma yw eu hanwybyddu'n llwyr - nid ymateb o gwbl i'r fforymau? Mae rhai'n cymryd dileit wrth ddadle a chythruddo Welshies. Os oedd neb yn ymateb, bydde'r dileit yn diflannu'n go gyflym a bydde'r post hiliol yn sefyll mas fel rhywbeth cywilyddus. Cofiwch dwi dim ond yn son am y fforymau trafod arlein di-werth nawr, nid rhywbeth pwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 18 Ion 2009 3:20 pm

TI gyda pwynt eitha teg fan yna. Sut wyt ti yn mynd i ddelio gyda nhw tybed ? Wyt ti yn herio eu agweddau neu peidio cymeryd sylw? Wel mae'n dibynnu pwy sydd yn dweud a ble mae'n cael ei ddweud. Dwim yn boddran hefo fforwm IC Wales achos mae na bobl yna sydd eisiau creu trwbl ac mae na ddigon yna ar y llaw arall i herio nhw. Be dwi'n wneud weithiau yw gwneud hwyl ar eu pennau neu jesd weindio nhw fyny hefyd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Kantorowicz » Maw 20 Ion 2009 1:25 am

Digon teg, ond ydych chi'n siwr taw ar yr ochr "gyfiawn" y mae'r mwyafrif o etholwyr? H.y. petasai dadl gyhoeddus yn y cyfryngau neu yn y dafarn hyd yn oed, adeg y refferendwm (arfaethedig), ai cadw'n dawel fyddai'r peth gorau? Fyddai'r gynulleidfa i gyd yn bownd o gytuno â ni, y rhai tawel?
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 20 Ion 2009 10:56 pm

Dywedir i bobl ffafrio crogi, y punt, gadael yr UE ac ati - dw i ddim mor siwr. Dim pawb sy'n darllen - ac mae llawer sy'n darllen heb dderbyn y syniadau - y Daily Wail, Excess, Sin, Torygraph ac ati.

Am gadw'n dawel mewn tafarn, gofyn i Ddafydd ap Gwilym...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 23 Ion 2009 10:13 am

Dyma barn rhywun buasech yn gallu ymateb i:
"Welsh - A Waste of Time"
Welsh Language Policy
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan Duw » Gwe 23 Ion 2009 4:35 pm

Cytuno gyda Mad, stim pwynt gwastraffu amser ar fforymau fel IC. Os odd rhywun yn dweud rhywbeth yn y tafarn, yn anffodus, gyda'm gwallt coch, byddwn yn siwr o fod yn trio rhoi werlad i'r ffycar :ffeit:. Mae'n dibynnu ar ble a phwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Agweddau pobl eraill

Postiogan celt86 » Sul 12 Gor 2009 2:08 pm

ICWALES neu WALESONLINE...Am ffocin' lle afiach, hiliol, llawn cojars dros ei 60au yn malu cachu am sut mae Cymru mor crap a sut mae Lloegr more brilliant...
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai