cymdeithas.org a ddywedodd:Deiseb: Cymreigiwn y Cwmniau Ffôn Symudol - http://deiseb.cymdeithas.org/
Wyt ti wedi danfon neges destun heddiw? Rhoi arian ar dy ffôn? Ymweld â siop ffôn symudol yn ddiweddar?
Ble mae'r Gymraeg?
Dyma ymgyrch i ddangos i gwmnïau ffôn symudol - unwaith ac am byth - ein bod yn mynnu eu bod yn parchu'r Gymraeg, ac yn darparu gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru yn syth!
Mae ymgyrchwyr yng Nghatalonia ac Iwerddon wedi sicrhau bod y Gatalaneg a Gwyddeleg yn cael eu cynnwys fel ieithoedd dewisol ar ffonau symudol, felly helpa ni i ddangos i'r cwmnïau yma ein bod yn mynnu fod yr un peth yn wir am y Gymraeg.
Ein targed yw casglu 1,000 o enwau cyn gynted â phosib. Arwydda'r ddeiseb yma - http://deiseb.cymdeithas.org/ - a danfona'r ddolen ymlaen at o leiaf 10 o'th gysylltiadau os gweli di'n dda.
Byddwn yn cyflwyno'r ddeiseb i brif weithredwyr cwmniau ffôn Vodafone, Orange, O2, T-Mobile a 3 ym mis Chwefror, a danfon copi i'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.