Deiseb Cymreigio Cwmniau Ffôn Symudol: deiseb.cymdeithas.org

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Deiseb Cymreigio Cwmniau Ffôn Symudol: deiseb.cymdeithas.org

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 13 Ion 2009 11:50 pm

Delwedd

cymdeithas.org a ddywedodd:Deiseb: Cymreigiwn y Cwmniau Ffôn Symudol - http://deiseb.cymdeithas.org/

Wyt ti wedi danfon neges destun heddiw? Rhoi arian ar dy ffôn? Ymweld â siop ffôn symudol yn ddiweddar?

Ble mae'r Gymraeg?

Dyma ymgyrch i ddangos i gwmnïau ffôn symudol - unwaith ac am byth - ein bod yn mynnu eu bod yn parchu'r Gymraeg, ac yn darparu gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru yn syth!

Mae ymgyrchwyr yng Nghatalonia ac Iwerddon wedi sicrhau bod y Gatalaneg a Gwyddeleg yn cael eu cynnwys fel ieithoedd dewisol ar ffonau symudol, felly helpa ni i ddangos i'r cwmnïau yma ein bod yn mynnu fod yr un peth yn wir am y Gymraeg.

Ein targed yw casglu 1,000 o enwau cyn gynted â phosib. Arwydda'r ddeiseb yma - http://deiseb.cymdeithas.org/ - a danfona'r ddolen ymlaen at o leiaf 10 o'th gysylltiadau os gweli di'n dda.

Byddwn yn cyflwyno'r ddeiseb i brif weithredwyr cwmniau ffôn Vodafone, Orange, O2, T-Mobile a 3 ym mis Chwefror, a danfon copi i'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Deiseb Cymreigio Cwmniau Ffôn Symudol: deiseb.cymdeithas.org

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 15 Ion 2009 8:10 pm

:bwmp:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Deiseb Cymreigio Cwmniau Ffôn Symudol: deiseb.cymdeithas.org

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 16 Ion 2009 6:11 pm

Bron 1,000 wedi arwyddo eisoes, a dim ond yn fyw ers llai na wythnos. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron