Cymedrolwr: gronw
Annwyl Gyfaill,
Diolch yn fawr iawn i'r sawl ohonoch chi wnaeth ymateb i'r neges ddiwethaf yn galw am dystiolaeth. Roedd yr ymateb yn syfrdanol, ac fe gafodd yr holl dystiolaeth ei gyflwyno i'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad heddiw.
OND - Mae rhai Aelodau yn y Cynulliad dal yn meddwl fod neb yn gweld eisiau gwasanaethau Cymraeg yn y sector breifat achos bod dim digon o siaradwyr Cymraeg yn cwyno.
Bydd Aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ar y 23ain o Fawrth (Dydd Llun nesaf) ac rydym am gyflwyno cymaint o dystiolaeth a phosibl yn ymwneud â'r sector breifat.
Byddwn felly yn gwerthfawrogi'n fawr iawn pe byddech chi'n gallu ymateb i'r 3 cwestiwn syml yma os gwelwch yn dda:
(a) Ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth Cymraeg yr ydych chi'n ei dderbyn gan gwmniau preifat yn gyffredinol yng Nghymru?
(b) A wnewch chi roi un neu fwy o enghreifftiau o gwmniau preifat yr ydych yn ymwneud â nhw yn gyson ac yn dymuno defnyddio gwasanaethau Cymraeg (e.e. siopau, banciau, archfarchnadoedd, Cwmniau trenau, bysiau, tai bwyta ayb) lle mae'r gwasanaeth Gymraeg yn is-raddol, neu ddim yn bodoli o gwbl o ran arwyddion, taflenni, llinell ffon, gwefan neu
mewn person.
(c) Ydych chi'n barod i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma, yn ogystal a'ch enw, fel rhan o dystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y 23ain o Fawrth.
Danfonwch eich tystiolaeth at hedd@cymdeithas.org
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,
Menna Machreth
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
ON. Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw. Os ydych chi am weld fideo o'r drafodaeth, ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf - wedyn pwyswch ar Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5... 17 Mawrth.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Annwyl Gyfaill,

cymdeithas.org a ddywedodd:Cwsmeriaid BT yn gorfod talu mwy am Wasanaeth Cymraeg
Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo BT a gwleidyddion sy'n dadlau yn erbyn Gorchymyn Iaith eang o rwystro'r ffordd i'r Gymraeg.
Fe ddaeth i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar bod BT yn codi mwy o arian ar gwsmeriaid yng Nghymru sydd yn dymuno derbyn gwasanaethau wrth y cwmni telegyfathrebu yn y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gr?p Deddf Iaith:
"Mae BT yn annog pawb i gael biliau ar-lein ar hyn o bryd sydd wrth gwrs i'w ganmol am resymau cynaliadwyedd. Ond pe bai cwsmeriaid am dderbyn biliau yn y Gymraeg, ni fyddai dewis ganddynt ond derbyn biliau papur, am gost o £1.23 y mis, am nad yw BT yn darparu biliau Cymraeg ar-lein. Enghraifft arall yw'r teclyn ateb 1571, sydd yn rhad ac am ddim yn Saesneg, ond os am recordio neges cyfarch yn Gymraeg, rhaid talu £1.47 am y fraint. Am y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yma yn Gymraeg, caiff y cwsmer ei gosbi £32.40 yn ychwanegol y flwyddyn gan BT."
Bydd BT yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth, yn galw am beidio â datganoli pwerau i ddeddfu ar y sector telegyfathrebu, a glynu at y trywydd gwirfoddol o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Ychwanegodd Bethan Williams:
"Mae Ann Beynon (cyfarwyddwraig BT yng Nghymru) a'r CBI yn brolio bod BT yn gwmni sy'n rhoi gwasanaethau sy'n gydradd â'r Saesneg, ac yn cwyno nad oes neb yn defnyddio'r gwasanaethau yma. Ond y gwir yw fod gwasanaethau Cymraeg yn anhygoel o brin, mae rhaid gwneud cais arbennig ar eu cyfer ac mae'n costio mwy i'w derbyn. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am Orchymyn Iaith eang sy'n cynnwys bob sector er mwyn i'r Cynulliad allu creu mesur sy'n rhoi hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg o safon."
Erthygl Daily Post
Golygyddol Daily Post
Erthygl Western Mail
cymdeithas.org a ddywedodd:Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig ar y Gorchymyn Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg. Ond mae'r adroddiad yn dweud y byddai'r Pwyllgor yn dymuno trafod y Gorchymyn eto os oes newidiadau gan y Cynulliad, sy'n achosi pryder oherwydd nid oes angen llusgo traed a gwastraffu amser ymhellach yn y broses hon.
'Noda'r adroddiad y dylid cael gwared ar y rhestr o ddarparwyr gwasanaethau yn y Gorchymyn gan ffafrio egwyddorion am resymoldeb unrhyw fesur yn y dyfodol, ond nid ydym yn credu mai lle Gorchymyn sy'n trosglwyddo pwerau yw nodi hyn, ond penderfyniad y Cynulliad wrth lunio mesur.
'Noda'r adroddiad fod angen ailystyried y trothwy o £200,000 ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gryf yn erbyn gosod trothwy oherwydd dylai'r holl bwerau dros bob sector mewn perthynas â'r iaith Gymraeg gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad. Rydym yn anghytuno ag ymgais y Pwyllgor i wanhau'r Gorchymyn drwy awgrymu y dylai taliadau unigol i gyrff llywodraeth, busnesau bach, ac elusennau gael ei ddileu o'r Gorchymyn.
'Cred y Pwyllgor nad oes angen gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu'n gryf fod rhaid gwneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol oherwydd y grym normaleiddio i adnabod ein hunain fel gwlad ddwyieithog ac am mai dyna'r trend Ewropeaidd o greu statws cyfartal i sawl iaith mewn un wlad.
'Dywed yr adroddiad ymhellach fod anghysondeb yn y rhestr o ddarparwyr, sef yn union beth rydym ni wedi bod yn ei ddweud oherwydd dylai bobl Cymru gael hawl i wasanaethau Cymraeg ar draws pob gwasanaeth; e.e. cynnwys trenau ond ni bysiau, telegyfathrebu ond nid banciau. Rôl y Cynulliad fydd pennu cyfrifoldebau Comisiynydd Iaith Gymraeg yn y broses o wneud mesur.'
Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen i unrhyw fesur iaith gael ei greu a'i drafod yma yng Nghymru; ac y dylai gwmpasu'r sector breifat yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru.
Ychwanegodd Menna Machreth:
'Rydym yn llongyfarch aelodau o'r Pwyllgor, o bob plaid, am roi dyfodol y Gymraeg o flaen gwleidyddiaeth bleidiol. Er ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad hwn rhaid sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn syth ac nad ydy'r Llywodraeth yn llusgo'u traed. Mae pobl Cymru wedi gorfod gwneud y tro â gwasanaethau Cymraeg tocenistig os o gwbl yn ddigon hir, mae'n bryd rhoi hawl i'r Gymraeg i'r rheiny sydd am fyw drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu sefyllfa fwy cyfartal i'r iaith yng Nghymru.'
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai