LCO Iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 02 Chw 2009 10:16 pm

http://www.telegraph.co.uk/news/newstop ... Welsh.html
http://www.dailymail.co.uk/news/article ... y-law.html
http://www.newswales.co.uk/?section=Cul ... 1&id=16240
http://www.dailypost.co.uk/news/north-w ... -22832297/
http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... -22832306/
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7863542.stm
http://www.walesonline.co.uk/news/colum ... -22827366/
http://www.walesonline.co.uk/news/colum ... -22823599/
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7864362.stm

Mae ffurflen arlein i gysylltu gyda'ch Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad ar wefanCymdeithas yr Iaith a http://cymdeithas.org/2009/01/30/munud_ ... mraeg.html ac ar wefan Mudiadau Dathlu'r Gymraeg hefyd - http://www.dathlu.org/

Mae deiseb yn cefnogi'r LCO ar wefan Plaid Cymru - http://www.plaidcymru.org/content.php?n ... 1081;lID=2

Os ydych chi am ddanfon llythyr yn datgan mai Llywodraeth Cymru sydd â'r hawl moesol i ddeddfu ym maes y Gymraeg, mae'r manylion cysylltu isod -

Ysgrifennu at y Western Mail - readers@mediawales.co.uk
Ysgrifennu at y Daily Post - letterswales@dailypost.co.uk
Ysgrifennu at y South Wales Echo - ecletters@mediawales.co.uk
Ysgrifennu at y Wales on Sunday - wosmail@mediawales.co.uk?subject=Letters
Ysgrifennu at y South Wales Argus - letters@gwent-wales.co.uk
Ysgrifennu at y South Wales Evening Post - postbox@swwmedia.co.uk
Ysgrifennu at Golwg - golygyddol@golwg.com
Ysgrifennu at y Cymro - y-cymro@cambrian-news.co.uk

Efallai bydd y tudalennau yma o gymorth i chi tra'n llunio'r llythyr -
http://cymdeithas.org/2009/02/02/mesur_ ... cymru.html
http://cymdeithas.org/2009/02/02/a_comp ... wales.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 03 Chw 2009 9:31 am

Kez a ddywedodd:Wi'n ei gweld hi'n drist o fyd pan fo cymaint a 50% o bobol yn gwrthod rhoi hawl sylfaenol i garfan arall o gymdeithas fyw eu bywyd trwy ei ddewis iaith.


Ia, ond dydyn nhw ddim. 'Dan ni gyd yn gwbod bod 'na ddigon o nytars gwrth-Gymraeg yn y byd (wel, maen nhw i gyd ar flog Betsan Powys hyd y gwela i) ac mi fetia i unrhyw beth eu bod nhw'n mynd at i bleidleisio cymaint ag y gallan nhw i 'ennill' pleidlais amhwysig yn y WM ac annog eu bath i wneud hynny hefyd.

Nid bod Hedd yn gwneud hynny wrth gwrs ... :winc:

Ond o ddifri, mi ddywedwyd rhywbeth eitha call yn y WM heddiw, sef os ydi'r bobl ar ddau begwn y ddadl yn cytuno naill ai bod yr LCO yn mynd yn rhy bell neu nad yw'n mynd yn ddigon pell, yna debyg bod yna gyfaddawd digon teg wedi cael ei gyrraedd.

O'm rhan i, dwi'n fodlon ar yr LCO (o be dwi'n ei ddallt) ac mae'n well nag y bu i mi ddyfalu y byddai. Dyma'r peth cynta i'r glymblaid dwi'n gwbl gefnogol ohono ('blaw am barcio 'sbyty, handi iawn dros y Dolig).

Fodd bynnag dechrau'r broses ydyw, 'sdim dowt y daw gwrthwynebiad ac y bydd gwanhau o du Llundain. Am unwaith, nid bai'r glymblaid mo hynny, bai San Steffan yn gyfan gwbl y bydd, ac mi ddaw.

Un peth arall ddyweda i ydi ei bod yn ddiddorol gweld ymateb llugoer Ceidwadwyr Cymru at y cynigion. Diddorol yn yr ystyr ei bod yn profi y bu i'r rhan fwyaf ohonom weld drwy'r wyneb Cymreig ffals iddynt ei wisgo dros y blynyddoedd diwethaf.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Creyr y Nos » Maw 03 Chw 2009 5:30 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fodd bynnag dechrau'r broses ydyw, 'sdim dowt y daw gwrthwynebiad ac y bydd gwanhau o du Llundain. Am unwaith, nid bai'r glymblaid mo hynny, bai San Steffan yn gyfan gwbl y bydd, ac mi ddaw.


Rwy'n cytuno i raddau, ond pe bai'r glymblaid wedi gofyn am fwy (h.y. yr hawl i ddeddfu dros y sector breifat gyfan, nid rhannau ohoni) byddem yn fwy tebygol o gael rhywbeth hanner call ar ol i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig stwffio'i trwyne mewn a scrwtineiddio. Fel y mae, mae'n debyg y byddant yn gwneud eu gorau i'w wanhau, fel ti'n gweud, a chanlyniad hynny efallai fydd tynnu'r sector breifat ohono yn gyfan gwbwl.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: LCO yr Iaith

Postiogan aled g job » Mer 04 Chw 2009 8:41 am

Un elfen y mae'n rhaid i ymgyrchwyr iaith ei gofio fan hyn ydi bod holl natur y ddadl bellach wedi newid. Yr eironi ydi y gall yr elfen holl bwysig o drosglwyddo pwerau dros yr iaith o Lundain i Gaerdydd arwain at sefyllfa sy'n anoddach ar un ystyr. Gyda'r ymgyrchoedd iaith yn y gorffennol ,boed hynny dros arwyddion dwyieithog, sefydlu S4C, Deddf iaith 1993 ac ati, roedd modd manteisio ar anwybodaeth San Steffan am Gymru, a defnyddio dadleuon dros wneud yn iawn am gamwri hanesyddol y Wladwriaeth Brydeinig. Bellach wrth gwrs, mae angen dwyn perswad ar bobl sy'n byw yma yng Nghymru, ac nid ar chwarae bach y bydd hynny'n digwydd, yn enwedig hefo hyd at un rhan o dair o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru, a'r iaith hefyd yn rhywbeth eithaf anweladawy ac amherthnasol yn aml yng ngolwg trwch ein cyd-Gymry.

Mae angen fframio'r drafodaeth mewn modd cwbl newydd ar gyfer y gynulleidfa hon ; mae angen gosod y pwyslais ar genhadu, argyhoeddi a pherswadio a'r sgiliau hyn fydd angen eu meithrin dros y misoedd nesaf, rhagor na phrotestio, ac mi fydd hynny'n gofyn am newid yn holl ymagweddu'r mudiad iaith mewn gwirionedd. Na, tydi'r LCO ddim yn berffaith ond mae'r ymdrechion i gynnwys prif elfennau'r sector breifat yng Nghymru a sefydlu'r hawl i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle fel rhan o'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn gamau enfawr ymlaen yn hanes yr iaith. Dwi'n meddwl bod angen i Gymry ymwybodol geisio deall peth o ofnau a phryderon unigolion ynghylch oblygiadau'r mesur iaith, ac i raddau fe ellid dadlau bod angen creu disgwrs newydd ar gyfer cyfarfod a'r her arbennig hon. Dan ni'n symud i gyfnod hollol newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru, a does ond gobeithio y medrwn ni fel Cymry ymateb iddo'n greadigol.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 04 Chw 2009 6:39 pm

Rdw i'n hoofi "quick vote" na - dyna gwestiwn, uniaith Saesneg, yn gofyn am farn am ddeunydd Cymraeg.

Beth am yrru cwestiwn fel hyn, yn uniaith Gymraeg:-

A ddylai fod hawl gan neb i drafod eu busnes trwy gyfrwng y Saesneg?

Ni wyr y bigotiaid gwrth-Gymraeg y cawsant eu geni.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 04 Chw 2009 9:27 pm

Aelodau Pwyllgor Craffu yr LCO Iaith yn y Cynulliad:

Mick Bates, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Sir Drefaldwyn
Alun Davies, Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru
Lesley Griffiths, Llafur, Wrecsam
Mark Isherwood, Plaid Geidwadol Cymru, Gogledd Cymru
Darren Millar, Plaid Geidwadol Cymru, Gorllewin Clwyd
Leanne Wood, Plaid Cymru, Canol De Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Pendra Mwnagl » Gwe 13 Chw 2009 8:51 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Aelodau Pwyllgor Craffu yr LCO Iaith yn y Cynulliad:

Mick Bates, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Sir Drefaldwyn
Alun Davies, Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru
Lesley Griffiths, Llafur, Wrecsam
Mark Isherwood, Plaid Geidwadol Cymru, Gogledd Cymru
Darren Millar, Plaid Geidwadol Cymru, Gorllewin Clwyd
Leanne Wood, Plaid Cymru, Canol De Cymru


Mae'r pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad ar yr LCO:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/ ... letter.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 13 Chw 2009 8:54 pm

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethiol ar yr Iaith Gymraeg – Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhy’r Cyffredin yn derbyn tystiolaeth ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar yr Iaith Gymraeg sydd wedi ei gynnig. Mae’r cyfnod ymgynghori yn cau ar y 4ydd o Fawrth 2009. Gallwch gynnig tystiolaeth drwy yrru e-bost i welshcom@parliament.uk , neu drwy bost arferol i Pwyllgor Materion Cymreig, Ty’r Cyffredin, 7 Millbank, Llundain, SW1P 3JA.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad ar y GCD hefyd yn derbyn tystiolaeth. Mae’r cyfnod ymgynghorol yn cau ar yr 20fed o Fawrth 2009. Mae’n bwysig fod cymaint a phosib ohonom yn lleisio ein barn. Gallwch gynnig tystiolaeth (yn Gymraeg y tro yma) drwy yrru e-bost at swyddfadeddfwriaeth@cymru.gsi.gov.uk neu bost arferol; Pwyllgor Deddfwriaeth rhif 5, Swyddfa Deddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Chw 2009 11:04 pm

Y cam pwysig nesaf i'r Gorchymyn Iaith - e-bostia'r Pwyllgor Materion Cymreig

Mynnwch mwy i'r Gymraeg - Dyma'r cyfle olaf am ddegawd a mwy!

Y cam nesaf i'r Gorchymyn Iaith (LCO) yw iddo gael ei asesu gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sef 11 o Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Yn hanesyddol, mae rhai aelodau seneddol wedi bod yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg, ac yn sicr bydd rhai yn erbyn trosglwyddo'r pwerau llawn i'r Cynulliad, felly mae'n holl bwysig eu bod nhw'n clywed galwad pobl Cymru am hawlliau ieithyddol.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Materion Cymreig yw Mawrth y 4ydd. Llenwch y ffurflen arlein newydd, gyda neges parod i'w ddanfon at aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig, wrth bwyso ar y ddolen berthnasol ar y dudalen yma:

http://cymdeithas.org/2009/02/17/mynwch ... _rhan.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Chw 2009 4:06 pm

Cyfarfod 1af (go iawn) y Pwyllgor Craffu LCO yn y Cynulliad heddiw. Ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf

A phwyso ar:

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 (Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009)

Mae'n Awr a Hanner o hyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron