LCO Iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: LCO yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 05 Maw 2009 9:53 pm

Delwedd

Mynnwch bod y pwerau deddfu llawn ym maes y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru drwy lenwi'r ffurflen arlein newydd yma - http://cymdeithas.org/lobi.php

Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor Deddfwriaethol wedi ei sefydlu yn y Cynulliad i dderbyn tystiolaeth wrth bobl Cymru i weld a oes angen datganoli'r pwerau dros y Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad yng Nghymru. Mae angen gymaint ag sy'n bosib i ddanfon yr e-bost hwn at y Pwyllgor i ddangos fod galw am y pwerau. - http://cymdeithas.org/lobi.php

Mae'r Gorchymyn fel ag y mae yn galluogi'r Cynulliad i roi rhai hawliau i bobl Cymru, ond mae cyfyngiadau sylweddol oherwydd nid yw gwasanaethau fel archfarchnadoedd wedi eu cynnwys fel rhan o'r pwerau. Ryddym ni'n gofyn am YR HOLL BWERAU DROS Y GYMRAEG i gael eu trosglwyddo i Gaerdydd. Fel y dywedodd Jenny Randerson AC, os ydyn ni eisiau cynnwys y sector breifat mewn Mesur Iaith yn y dyfodol, onid yng Nghymru y dylid gwneud y penderfyniadau hynny, nid Llundain?

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) gan Lywodraeth y Cynulliad, yn galw am ddatganoli grym dros ddeddfu ym maes y Gymraeg o'r Senedd yn Llundain i'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Nid yw'r LCO yn ddigon cryf, ac mae ofn mawr y bydd Aelodau Seneddol yn Llundain yn ceisio gwanhau'r pwerau a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad ymhellach.

Pwyswch yma - http://cymdeithas.org/lobi.php - i lenwi'r ffurflen arlein a fydd yn cael ei ddanfon at holl aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad yn ogystal â Rhodri Morgan AC (Prif Weinidog Cymru), Ieuan Wyn Jones AC (Dirprwy Brif Weinidog Cymru) a Alun Ffred Jones AC (Gweinidog Treftadaeth Cymru).

Y mwyaf o bobl fydd yn gwneud hyn, y mwyaf o bwysau fydd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli'r grymoedd yn llawn i'r Cynulliad, ac ar Lywodraeth y Cynulliad i roi Mesur Iaith Cyflawn i ni!

Mwy o Fanylion Yma:
http://cymdeithas.org/2009/03/05/dywedw ... mraeg.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Maw 2009 8:04 pm

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw.

Os chi am weld y drfodaeth, ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf -wedyn pwyswch ar Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5... 17 Mawrth.

On i'n meddwl fod Menna Machreth, Siân Howys a Sioned Haf yn arbennig o dda, ond byswn i'n dweud hynny! Roedd aelodau ar ran Mudiadau Dathlu'r Cymraeg yn cyflwyno tystiolaeth ar yr un pryd, ac roedd y Parchedig Pop a Ceri o Rhag yn arbennig o dda hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 18 Maw 2009 10:10 pm

Annwyl Gyfaill,

Diolch yn fawr iawn i'r sawl ohonoch chi wnaeth ymateb i'r neges ddiwethaf yn galw am dystiolaeth. Roedd yr ymateb yn syfrdanol, ac fe gafodd yr holl dystiolaeth ei gyflwyno i'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad heddiw.

OND - Mae rhai Aelodau yn y Cynulliad dal yn meddwl fod neb yn gweld eisiau gwasanaethau Cymraeg yn y sector breifat achos bod dim digon o siaradwyr Cymraeg yn cwyno.

Bydd Aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ar y 23ain o Fawrth (Dydd Llun nesaf) ac rydym am gyflwyno cymaint o dystiolaeth a phosibl yn ymwneud â'r sector breifat.

Byddwn felly yn gwerthfawrogi'n fawr iawn pe byddech chi'n gallu ymateb i'r 3 cwestiwn syml yma os gwelwch yn dda:

(a) Ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth Cymraeg yr ydych chi'n ei dderbyn gan gwmniau preifat yn gyffredinol yng Nghymru?

(b) A wnewch chi roi un neu fwy o enghreifftiau o gwmniau preifat yr ydych yn ymwneud â nhw yn gyson ac yn dymuno defnyddio gwasanaethau Cymraeg (e.e. siopau, banciau, archfarchnadoedd, Cwmniau trenau, bysiau, tai bwyta ayb) lle mae'r gwasanaeth Gymraeg yn is-raddol, neu ddim yn bodoli o gwbl o ran arwyddion, taflenni, llinell ffon, gwefan neu
mewn person.

(c) Ydych chi'n barod i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma, yn ogystal a'ch enw, fel rhan o dystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y 23ain o Fawrth.

Danfonwch eich tystiolaeth at hedd@cymdeithas.org

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,

Menna Machreth
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

ON. Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw. Os ydych chi am weld fideo o'r drafodaeth, ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf - wedyn pwyswch ar Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5... 17 Mawrth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 22 Maw 2009 7:04 pm

Os oes gyda chi enghreifftiau, plis danfonwch nhw ataf i cyn diwedd y nos heno.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Annwyl Gyfaill,

Diolch yn fawr iawn i'r sawl ohonoch chi wnaeth ymateb i'r neges ddiwethaf yn galw am dystiolaeth. Roedd yr ymateb yn syfrdanol, ac fe gafodd yr holl dystiolaeth ei gyflwyno i'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad heddiw.

OND - Mae rhai Aelodau yn y Cynulliad dal yn meddwl fod neb yn gweld eisiau gwasanaethau Cymraeg yn y sector breifat achos bod dim digon o siaradwyr Cymraeg yn cwyno.

Bydd Aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ar y 23ain o Fawrth (Dydd Llun nesaf) ac rydym am gyflwyno cymaint o dystiolaeth a phosibl yn ymwneud â'r sector breifat.

Byddwn felly yn gwerthfawrogi'n fawr iawn pe byddech chi'n gallu ymateb i'r 3 cwestiwn syml yma os gwelwch yn dda:

(a) Ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth Cymraeg yr ydych chi'n ei dderbyn gan gwmniau preifat yn gyffredinol yng Nghymru?

(b) A wnewch chi roi un neu fwy o enghreifftiau o gwmniau preifat yr ydych yn ymwneud â nhw yn gyson ac yn dymuno defnyddio gwasanaethau Cymraeg (e.e. siopau, banciau, archfarchnadoedd, Cwmniau trenau, bysiau, tai bwyta ayb) lle mae'r gwasanaeth Gymraeg yn is-raddol, neu ddim yn bodoli o gwbl o ran arwyddion, taflenni, llinell ffon, gwefan neu
mewn person.

(c) Ydych chi'n barod i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma, yn ogystal a'ch enw, fel rhan o dystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y 23ain o Fawrth.

Danfonwch eich tystiolaeth at hedd@cymdeithas.org

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,

Menna Machreth
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

ON. Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw. Os ydych chi am weld fideo o'r drafodaeth, ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf - wedyn pwyswch ar Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5... 17 Mawrth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Maw 2009 4:28 pm

http://www.parliamentlive.tv/Main/Video ... 759&rel=ok

Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yn trafod y mater nawr

Gol. Mae'n ymddangos fod rhywun wedi anghofio troi'r sain lan!!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 31 Maw 2009 10:16 am

cymdeithas.org a ddywedodd:Cwsmeriaid BT yn gorfod talu mwy am Wasanaeth Cymraeg

Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo BT a gwleidyddion sy'n dadlau yn erbyn Gorchymyn Iaith eang o rwystro'r ffordd i'r Gymraeg.

Fe ddaeth i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar bod BT yn codi mwy o arian ar gwsmeriaid yng Nghymru sydd yn dymuno derbyn gwasanaethau wrth y cwmni telegyfathrebu yn y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gr?p Deddf Iaith:

"Mae BT yn annog pawb i gael biliau ar-lein ar hyn o bryd sydd wrth gwrs i'w ganmol am resymau cynaliadwyedd. Ond pe bai cwsmeriaid am dderbyn biliau yn y Gymraeg, ni fyddai dewis ganddynt ond derbyn biliau papur, am gost o £1.23 y mis, am nad yw BT yn darparu biliau Cymraeg ar-lein. Enghraifft arall yw'r teclyn ateb 1571, sydd yn rhad ac am ddim yn Saesneg, ond os am recordio neges cyfarch yn Gymraeg, rhaid talu £1.47 am y fraint. Am y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yma yn Gymraeg, caiff y cwsmer ei gosbi £32.40 yn ychwanegol y flwyddyn gan BT."

Bydd BT yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth, yn galw am beidio â datganoli pwerau i ddeddfu ar y sector telegyfathrebu, a glynu at y trywydd gwirfoddol o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Ychwanegodd Bethan Williams:

"Mae Ann Beynon (cyfarwyddwraig BT yng Nghymru) a'r CBI yn brolio bod BT yn gwmni sy'n rhoi gwasanaethau sy'n gydradd â'r Saesneg, ac yn cwyno nad oes neb yn defnyddio'r gwasanaethau yma. Ond y gwir yw fod gwasanaethau Cymraeg yn anhygoel o brin, mae rhaid gwneud cais arbennig ar eu cyfer ac mae'n costio mwy i'w derbyn. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am Orchymyn Iaith eang sy'n cynnwys bob sector er mwyn i'r Cynulliad allu creu mesur sy'n rhoi hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg o safon."

Erthygl Daily Post
Golygyddol Daily Post
Erthygl Western Mail


BBC Wales phone-in tua 12pm heddi. "Should Welsh speakers be charged for Welsh language services?" :ofn:

Mae'n warth i ddweud y gwir mai dyma'r cwestiwn ma nhw'n gofyn. Ffoniwch mewn i ymateb - 03700 100 110 neu destun 81012.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 05 Meh 2009 12:22 pm

Bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi eu hadroddiad heddiw ar y Gorchymyn iaith. Dwi wedi gweld copi o'r datganiad i'r wasg ynglŷn a'r cyhoeddiad, ac mae'n ddiddorol iawn! :D Ni fydd yr adroddiad ei hunan ar gael i'w weld tan wedi 4pm heddiw o'r hyn dwi'n deall.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 05 Meh 2009 3:38 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 05 Meh 2009 3:43 pm

Blogiad da hefyd gan Vaughan Roderick hefyd.

Dim ar wefan Newyddion BBC Cymru yn Gymraeg eto. Golwg wedi ennill y ras unwaith eto! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: LCO Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 07 Gor 2009 8:59 pm

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y Gorchymyn Iaith wedi cael ei gyhoeddi heddi - http://www.publications.parliament.uk/p ... /34802.htm

Datganiad i'r Wasg gan y Pwyllgor yma - http://www.parliament.uk/parliamentary_ ... 09pn68.cfm

cymdeithas.org a ddywedodd:Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig ar y Gorchymyn Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg. Ond mae'r adroddiad yn dweud y byddai'r Pwyllgor yn dymuno trafod y Gorchymyn eto os oes newidiadau gan y Cynulliad, sy'n achosi pryder oherwydd nid oes angen llusgo traed a gwastraffu amser ymhellach yn y broses hon.

'Noda'r adroddiad y dylid cael gwared ar y rhestr o ddarparwyr gwasanaethau yn y Gorchymyn gan ffafrio egwyddorion am resymoldeb unrhyw fesur yn y dyfodol, ond nid ydym yn credu mai lle Gorchymyn sy'n trosglwyddo pwerau yw nodi hyn, ond penderfyniad y Cynulliad wrth lunio mesur.

'Noda'r adroddiad fod angen ailystyried y trothwy o £200,000 ar gyfer cyrff cyhoeddus, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gryf yn erbyn gosod trothwy oherwydd dylai'r holl bwerau dros bob sector mewn perthynas â'r iaith Gymraeg gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad. Rydym yn anghytuno ag ymgais y Pwyllgor i wanhau'r Gorchymyn drwy awgrymu y dylai taliadau unigol i gyrff llywodraeth, busnesau bach, ac elusennau gael ei ddileu o'r Gorchymyn.

'Cred y Pwyllgor nad oes angen gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu'n gryf fod rhaid gwneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol oherwydd y grym normaleiddio i adnabod ein hunain fel gwlad ddwyieithog ac am mai dyna'r trend Ewropeaidd o greu statws cyfartal i sawl iaith mewn un wlad.

'Dywed yr adroddiad ymhellach fod anghysondeb yn y rhestr o ddarparwyr, sef yn union beth rydym ni wedi bod yn ei ddweud oherwydd dylai bobl Cymru gael hawl i wasanaethau Cymraeg ar draws pob gwasanaeth; e.e. cynnwys trenau ond ni bysiau, telegyfathrebu ond nid banciau. Rôl y Cynulliad fydd pennu cyfrifoldebau Comisiynydd Iaith Gymraeg yn y broses o wneud mesur.'

Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen i unrhyw fesur iaith gael ei greu a'i drafod yma yng Nghymru; ac y dylai gwmpasu'r sector breifat yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru.

Ychwanegodd Menna Machreth:

'Rydym yn llongyfarch aelodau o'r Pwyllgor, o bob plaid, am roi dyfodol y Gymraeg o flaen gwleidyddiaeth bleidiol. Er ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad hwn rhaid sicrhau ei fod yn cael ei weithredu yn syth ac nad ydy'r Llywodraeth yn llusgo'u traed. Mae pobl Cymru wedi gorfod gwneud y tro â gwasanaethau Cymraeg tocenistig os o gwbl yn ddigon hir, mae'n bryd rhoi hawl i'r Gymraeg i'r rheiny sydd am fyw drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn creu sefyllfa fwy cyfartal i'r iaith yng Nghymru.'
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai