Hogyn o Rachub a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r holl fusnes yn troi yn ffars erbyn hyn, fetia i unrhyw beth os ceir LCO Iaith, sy ddim 100% yn bosib, y bydd mor wan fel na fydd fawr pwynt ei gael yn y lle cynta
Unwaith mae mewn lle, bydd posib ei chryfhau wedyn? Yn yr un modd ag y mae'r cynulliad yn raddol cryfhau ei phwerau.
Posib, ond annhebyg y daw'r fath gyfle am ddegawd am mwy eto, pa lywodraeth bynnag sydd wrth y llyw, ac o ystyried difaterwch y prif bleidiau ar yr iaith, a fyddai'n mynd rhagddo beth bynnag?
Gallai fod yn ergyd farwol i LCO Iaith o sylwedd os mae'r cynsail wedi'i greu gyda'r LCO Tai (sef bod gan Ysgrifennydd Cymru feto ar LCOs, yn ôl fy nealltwriaeth o'r sefyllfa), wedi'r cyfan mae'n ddigon annhebyg y bydd unrhyw Ysgrifennydd o blaid y Gymraeg heb sôn am gael cenedlaetholwr yn y swydd!
Mae gan ysgrifennydd Cymru feto ar un darn arbennig o'r pwerau sy'n cael eu datganoli i Gymru o ran yur LCO Tai, sef cael gwared ar yr hawl i brynu yn gyfangwbwl. Petasai'r Cynulliad eisiau deddfu i gael gwared ar hawl i brynu yn gyfangwbwl, yn hytrach na gwahardd yr hawl i brynu dros dro mewn ardal penodol, byddai'r ysgrifennydd yn gallu atal hyn.Nid oes gan yr Ysgrifennydd unrhyw hawli ymyrryd mewn unrhyw agwedd arall o'r pwerau sydd wedi datganoli yn sgil yr LCO yma.
O ran yr LCO Iaith, yn dilyn yr LCO yma, yr unig ffordd o ddatganoli mwy o bwerau yn ymwneud â'r iaith i'r Cynulliad o San Steffan yw trwy ddrafftio LCO arall (neu yn sgil refferendwm wrth gwrs) a dwi ddim yn gweld LCO iaith arall yn cael ei gynnig am amser hir iawn. O'r hyn ddeallaf, mae'r LCO sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Plaid/Llafur y Cynulliad yn un weddol wal beth bynnag, felly rhaid mynnu fod Llywodraeth y Cynulliad yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw ymgais gan Aelodau Seneddol Llafur a Cheidwadol yn San Steffan i'w wanedu ymhellach.