Cymedrolwr: gronw
Neges gan gymdeithas yr Iaith a ddywedodd:Ydych chi'n sylweddoli nad yw'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac nad oes gennych chi unrhyw hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich bywyd bob dydd?
Mynnwch bod y pwerau deddfu llawn ym maes y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru! Pwyswch yma i ddanfon ebost at eich Aelodau Cynulliad ac Aelod Seneddol. http://cymdeithas.org/lobi.php
Bydd ond yn cymryd munud o’ch amser, ond Gweithred Fechan x Pawb = Gwahaniaeth mawr i'r Gymraeg! Dewiswch eich etholaeth, rhowch eich enw, cyfeiriad ebost a chyfeiriad a gwasgwch ar ‘Anfon' i ddanfon y neges rhagosodedig. http://cymdeithas.org/lobi.php
Mae Llywodraeth y Cynulliad newydd gyhoeddi Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) yn galw am ddatganoli grym dros ddeddfu ym maes y Gymraeg o'r Senedd yn Llundain i'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Pwyswch yma i wylio’r fideo 'Beth yw LCO Iaith?' http://cymdeithas.org/2009/01/30/munud_ ... mraeg.html
Ond nid yw'r LCO yn ddigon cryf, ac mae ofn mawr y bydd Aelodau Seneddol yn Llundain yn ceisio gwanhau'r pwerau a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad ymhellach. Pwyswch yma i ddarllen a Gwylio ym ateb Cymdeithas yr Iaith i’r LCO - http://cymdeithas.org/2009/02/02/mesur_ ... cymru.html
Danfonwch neges ebost at eich Aelod Seneddol a'ch Aelodau Cynulliad i'w hannog i beidio â gwanhau'r pwerau dros y Gymraeg sy'n symud i Gaerdydd ac i sicrhau fod gwneud y Gymraeg yn swyddogol, rhoi hawliau diamod i bobl Cymru a sefydlu Comisiynydd Iaith yn rhan o unrhyw fesur yn y dyfodol. Llenwch y ffurflen arlein - http://cymdeithas.org/lobi.php
Y mwyaf o bobl fydd yn gwneud hyn, y mwyaf o bwysau fydd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli'r grymoedd yn llawn i'r Cynulliad, ac ar Lywodraeth y Cynulliad i roi Mesur Iaith Cyflawn i ni!
Diolch am eich Cefnogaeth!
=====
Cysylltu: http://cymdeithas.org/cyswllt/
Ymaelodwch - http://cymdeithas.org/ymuno/
Hedd Gwynfor a ddywedodd:It smacks of bully boy Gwynfor Evans who said, "give me what I want or I will go on hunger strike".
aled g job a ddywedodd:Un cwestiwn cyn gorffen. Beth sy'n digwydd i'r LCO os y caiff etholiad cyffredinol ei alw cyn ei weithredu? Ydi'r holl broses yn gorfod cychwyn o'r cychwyn, yntau ydi'r LCO yn gallu cael ei drosglwyddo i'r weinyddiad newyd yn san steffan?
Hedd Gwynfor a ddywedodd:aled g job a ddywedodd:Un cwestiwn cyn gorffen. Beth sy'n digwydd i'r LCO os y caiff etholiad cyffredinol ei alw cyn ei weithredu? Ydi'r holl broses yn gorfod cychwyn o'r cychwyn, yntau ydi'r LCO yn gallu cael ei drosglwyddo i'r weinyddiad newyd yn san steffan?
O'r hyn ddeallaf, bydd rhaid i'r holl broses cychwyn o'r cychwyn, a dwi'n siwr felly y bydd yr AS'au Llafur a Cheidwadol yn ceisio oedi'r broses cymaint a phosibl. Yn ol Betsan Powys ar newyddion BBC amser cinio, mae hi'n rhagweld y bydd y broses o ddatganoli'r grymoedd a fydd yn galluogi'r Cynulliad i ddeddfu ym maes y Gymraeg yn para tan ddiwedd y flwyddyn!
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Falle bydd rhai ohonoch chi eisiau pleidleisio yma - http://www.walesonline.co.uk/
QUICK VOTE:
Should people have the right to conduct their official business in Welsh?
Yes 50.0%
No 50.0%
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai