Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Postiogan Rhods » Mer 21 Ion 2009 6:52 pm

Ma hwn fath a styc record..mae yn mynd yn boring. Rhyfedd gweld bod y deinosor yma yn cyfeirio at siaradwyr cymraeg fel cenedlaetholwyr, fel bod POB siaradwr Cymraeg yn genedlaetholwr . Y gwirionedd yw fod yna gymysgedd o siaradwyr Cymraeg sydd yn genedlaetholwyr (sydd yn pleidlesio Plaid Cymru etc) a rai hefyd nad sydd yn genedlaetholwyr ac yn pleisleiso/cefnogi pleidiau prydeinig - toris, llafur, rhyddfrydwyr etc . Mae yn eglwys eang. (er rhaid dweud, dwi'n chwerthin ar ei ddisgrifad o 'WAG' a'n gwleiydyddion yn y Bae - ffyni, 'let's take that with a pinch of salt' fel dywed y sais :lol: :winc:

Beth bynnag, digon nawr ar roi sylw i'r deinosariad gwrth-Gymraeg yma. Gawn ganolbwyntio yn lle ar sicrhau ddyfodol llewyrchus ir Gymraeg, er o ran deddfu, y sion dwi yn ei glywed yw bod y ddeddf yn mynd i fod yn un wan, fel ma pawb di amau - ergyd arall i hawliau siaradwyr Cymraeg gan Llywodraeth Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 21 Ion 2009 10:14 pm

Wel, fi wedi sgwennu ond yn amau fydd y Country & Western Mail yn ei hargraffu. Dim son am yr LCO mae'n ddrwg gen i, ond yn dangos fod Pedr Rhyd yn genedlaetholwr rhonc (ond, wrth gwrs, dim yn un Cymru). Pwy sy'n ymosod ar bethau wna eraill yn ei gymundeb nad da ganddo ond rhyw fath o hilydd?

Mae "dewis am beidio" yn red herring. Ysyried hyn: mae'n haws - a rhatach - i bawb ddanfon stwff dwyieithog nag i gadw rhestr o'r rhai sy eisiau Iaith X yn unig neu Iaith Y yn unig. Ac mae pawb ond yr ychydig hilwyr fel Pierre Reed yn ddigon hapus efo hyn.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Postiogan Duw » Iau 22 Ion 2009 1:28 am

Mae'n ychydig o siom i mi bod pobl dal yn teimlo 'outrage' i'r fath hyn o seiclops. Twll tin y twlsyn. Angen profocio yw ei ddileit. Does dim ennill dadl fel hon. Falle'n well bydde cael prifathro Ysgol y Fro i hala gwahoddiad iddo fynd i'r ysgol ac i rannu' r ddiwylliant. Nid yw dadl papur newydd byth yn newid agwedd y ffyliaid hyn, er efalle mae'n gwneud rhai o ni deimlo'n well gan wyntyllu ac i edrych yn fwy eithafol. :seiclops:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Postiogan Kantorowicz » Iau 22 Ion 2009 4:43 am

Nid lladd ar y boi ma yw'r peth i'w wneud yn yr achlysur yma, yn fy marn i, ond lladd ar y Western Mail am beidio â mentro cael dadl synhwyrol o fewn ei dudalennau. Onid y peth call i'w wneud mewn sefyllfa fel hyn, lle mae'r un hen nonsens yn codi ac yn ail-godi, yw cael trafodaeth agored a synhwyrol. Arbenigwyr, pobl call, pobl blaenllaw a dadl resymegol. Dangos pa mor warthus o rag yw hi y mae'r Western Mail wrth wneud hyn - ond, yn anffodus, yn dangos hefyd ba mor warthus yw safon newyddiaduraeth a'r drafodaeth ar y cyfan yng Nghymru.

Ond, am linellau gwych! - "stwffio'r iaith i lawr fy nghorn gwddf" - fel pe na bai ffordd troi i ochr arall y daflen, neu daflu'r papur Cymraeg i'r bin ailgylchu ... a'r un gorau yw bod dwyieithrwydd yn "lladd y blaned"! :D Perlau!
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Llythyr gwrth-Gymraeg yn y Western Mail

Postiogan Ffrinj » Sad 14 Chw 2009 6:39 pm

Ifan Saer a ddywedodd:Mae Cymru'n wlad ddwyieithog - rhaid iddo dderbyn hynny, neu fel arall 'optio allan' drwy, wel, ffwcio oma.


Haha, yn union.
Dwi'n cytuno bod o'n wastraff o ddeunyddiau ond dio'm yn 'difetha'r blaned' o bell ffordd.
Ac mae'n gas genna'i clywed pobl yn dweud bod y Gymraeg yn cael ei sdwffio lawr 'u gyddfe nhw. Yn hanesyddol, Saesneg oedd yn neud hynna i'r Cymry, de?
Grrr.
Twitter
Adfywio Iaith Cumbria (Angen Cymry Cymraeg!)
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron