Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Kantorowicz » Sad 07 Chw 2009 5:36 pm

Un o'r pastynau cynnil a ddefnyddir yn aml gan y carfannau gwrth-Gymraeg yw cwyno am faint o "arian cyhoeddus" gaiff ei wario arni.

Ceir hyn yn un enghraifft ddiweddar ar y byrddau 'trafod' ar flog Betsan Powys:

The three Welsh language officers employed by my local authority to enforce the Welsh Language Policy (I repeat, in this English-speaking area) signed up to in 2006, are probably costing in the region of £150k. Some of our street lighting is being cut off to save £200k. Draw your own conclusions.......


Oes rhywun yn gwybod a oes rhestr o ffigyrau ar gael yn rhywle sy'n rhoi crynodeb (neu fanylion hyd yn oed) o'r arian cyhoeddus (o un math neu'i gilydd) a gaiff ei wario ar yr iaith Saesneg ym Mhrydain (neu yng Nghymru)? Neu hyd yn oed gwariant ar "ddiddordebau ymylol/lleiafrifol neu ddiwylliannol" eraill (megis grantiau i'r opera/llyfrgelloedd/chwaraeon)?

Yn lle yn unig dadlau rhywbeth megis 'ond mae'r Gymraeg yn iaith leiafrifol ac mae'n haeddu gwariant', byddai'n neis medru taro'n ôl gyda phastwn o'r un pren - gan hefyd roi ffigyrau.
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan 7ennyn » Sul 08 Chw 2009 10:24 am

Gwariant cyhoeddus ar y Saesneg = Pob gwariant cyhoeddus namyn be sy'n cael ei wario ar y Gymraeg.

Nid "diddordeb ymylol diwyllianol" ydi'r Gymraeg gyda llaw, mae'n rhan annatod o fywyd pob dydd i gannoedd o filoedd o drethdalwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Kantorowicz » Sul 08 Chw 2009 8:02 pm

7ennyn a ddywedodd:Gwariant cyhoeddus ar y Saesneg = Pob gwariant cyhoeddus namyn be sy'n cael ei wario ar y Gymraeg.

Nid "diddordeb ymylol diwyllianol" ydi'r Gymraeg gyda llaw, mae'n rhan annatod o fywyd pob dydd i gannoedd o filoedd o drethdalwyr.


Na, nid pob gwariant cyhoeddus o bell ffordd - dydy gwario ar gyffuriau i ysbytai, neu lanhau'r strydoedd, codi goleuadau traffig, adeiladu pontydd, lladd gwair mewn parciau, clirio'r bins, etc., etc. ddim yn ieithyddol o gwbl.

A diddordeb hollol ymylol yw'r Gymraeg i nifer fawr o bobl y mae eu harian yn talu amdani. Fy mhwynt ydy fod neb yn lladd ar yr opera neu'r ballet, etc. hanner cymaint ag y^n nhw'n lladd ar y Gymraeg, serch y ffaith nad yw'r pethau diwylliannol hynny o ddiddordeb ond i nifer fechan o bobl.

(Un ddadl amlwg fyddai bod yr opera, etc. ar gael 'i bawb sy'n dewis mynychu', tra mae'r Gymraeg yn 'gaeedig', ar gael ond i'r rheiny sy'n medru'r iaith; ond dadl arall yw honno).
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 08 Chw 2009 10:04 pm

Wel i gychwyn buasai o ddim yn £150k o bellffordd. Buaswn ni yn meddwl bod o'n fwy i treuan o hynny.

Fe cyfrifais yn ddiweddar faint mae'r Cynulliad yn gwario ar y Gymraeg (cyfieithu, Bwrdd yr Iaith et al). Roedd y ffigwr yn taro £40 miliwn.
Nawr cymharwch hynny gyda faint mae nhw yn gwario ar Iechyd. Blwyddyn diwethaf fe wariwyd £5.7 biliwn ar Iechyd allan o cyllid CCC o £14.5 billion. Mewn canrannau, mae Cynulliad yn gwario 39.1% ar Iechyd ac 0.02% ar y Gymraeg.

Ar sail pob pen, mae'r Cynulliad £1965 ar Iechyd ar gyfer pob person yng Nghymru, 7c yw faint mae nhw yn gwario ar y Gymraeg (50c yw faint rydym yn gwario ar y Teulu Brenhinol)
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan y mab afradlon » Llun 09 Chw 2009 1:12 pm

Ymmm,

£40 milliwn / 3 milliwn person = £1.33 y pen ar fy nghyfrifiannell i...

gyda llaw, rhennir y swyddogion yn Nhorfaen gyda sir Fynwy mae'n debyg, felly gellid hanneri'r gost yn syth!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 09 Chw 2009 1:27 pm

ew ti'n iawn!

Sgwnni lle ces i 7c na'? Nai edrych ar y ffigyrau eto. :wps:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Kantorowicz » Llun 09 Chw 2009 4:45 pm

diolch am yr holl syniadau ynghylch y ffigyrau.

Eto - ymm - mae fy nghyfrifiannell innau'n anghytuno eto:

40/3 = 13.3 (h.y. tair punt ar ddeg y pen). (?)

Ar lefel Brydeinig byddai'r ffigur yn agosach i 70c y pen: 40/60 = 0.67 (ai o'r ffigwr yma y daeth y 7c?).
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Duw » Llun 09 Chw 2009 7:19 pm

Mae'n ddiddorol y bod rhai'n mynnu targedu'r iaith Gymraeg. Hoffwn weld lle mae cynghorau'n wir gwastraffu arian. Beth yw cyllid cyngor a faint ydy £50K (cyflog 3 person a awgrymir cynt) fel canran ohono? Hyd yn oed cymryd y £150K fel ffaith, faint ydy hyn fel rhan y cyllid? Cyflog y pobl ma yw'r prif wariant ar y Gymraeg dwi'n cymryd? Beth am gostiau argraffu a dylunio?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Pendra Mwnagl » Llun 09 Chw 2009 9:11 pm

7ennyn a ddywedodd:Gwariant cyhoeddus ar y Saesneg = Pob gwariant cyhoeddus namyn be sy'n cael ei wario ar y Gymraeg.

Nid "diddordeb ymylol diwyllianol" ydi'r Gymraeg gyda llaw, mae'n rhan annatod o fywyd pob dydd i gannoedd o filoedd o drethdalwyr.


Yn hollol. Does neb byth yn gofyn faint sy'n cael ei wario ar y Saesneg! Y gost o wneud rhywbeth ydy'r gost o wneud hynny yn ddwyieithog.
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Shon » Maw 10 Chw 2009 5:51 pm

Dwi bob tro'n synnu pan mae rhywun yn codi'r enghraifft yma fel esiampl o 'wastraff arian', dwi wedi ei weld ganwaith dros y blynyddoedd a'i glywed hefyd. Ond mae bob tro yn berwi lawr i'r un peth...arian. Yn berffaith syml dyna mae nhw'n ei weld, arian yn mynd o'u pocedi eu hunain, diawl o ots am yr effaith ar gymunedau Cymreig.
Fel arfer yr ail frawddeg mewn post o'r fath fuasai:

"I don't mind them speaking it, as long as they pay for it themselves."

Dim ots fod y siaradwyr Cymraeg yn Gymry fel hwy, dim ots fod efallai yno deulu gonest mewn rhyw gongl fechan o Gymru yn gorfod talu trethi uwch, dim ond am eu bod wedi eu geni a'u magu mewn ardal Gymreig. Dim ots am eu hawliau i ddefnyddio eu iaith gyntaf yn eu gwlad eu hunain. Ond tydyn nhw ddim eisiau gwybod am fywydau a phroblemmau pobl eraill, gyn belled a'i bod nhw'n arbed eu 7c/£1.33/£13.33 y mis!

Un engraifft arall o fod yn uffernol o hunanol a di-feddwl, hen agwedd ffiaidd.
Shon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 26 Medi 2008 10:11 am

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron