Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 14 Chw 2009 4:38 am

Hyd yn oed os ti'n llwyddo gwrthwynebu pwyntiau nhw efo ystadegau ac ati, fydd 'na rhesymau newydd mor hurt yfory.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan y mab afradlon » Sad 14 Chw 2009 1:31 pm

Kantorowicz a ddywedodd:Eto - ymm - mae fy nghyfrifiannell innau'n anghytuno eto:

40/3 = 13.3 (h.y. tair punt ar ddeg y pen). (?)


:wps:

Rhaid bod fy matri yn fflat ne rwpeth...!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan Kantorowicz » Sad 14 Chw 2009 7:39 pm

Sgwennais at Fwrdd yr Iaith yn holi am hyn, ond doedden nhw ddim yn gallu helpu, mwy na hala fi at wefannau'r llywodraeth, y BBC a'r Bwrdd ei hunan.

Halais oriau yn chwilio'r rheiny'n barod heb fedru deall beth oedd beth. Peth cymhleth ydi cyllido, sbo.

Felly, y tro nesaf y bydd rhywun yn gofyn imi faint sy'n cael ei wario ar hyn a hyn yn y Gymraeg dywedaf: "dim hanner digon, cont!!" Enilla' i ddim dadleuon fel'ny, ond daw dwyieithrwydd i Gymru beth bynnag, on'd daw?
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Gwario cyhoeddus ar y Gymraeg

Postiogan y mab afradlon » Mer 25 Chw 2009 11:05 pm

Kantorowicz a ddywedodd:Un o'r pastynau cynnil a ddefnyddir yn aml gan y carfannau gwrth-Gymraeg yw cwyno am faint o "arian cyhoeddus" gaiff ei wario arni.

Ceir hyn yn un enghraifft ddiweddar ar y byrddau 'trafod' ar flog Betsan Powys:

The three Welsh language officers employed by my local authority to enforce the Welsh Language Policy (I repeat, in this English-speaking area) signed up to in 2006, are probably costing in the region of £150k. Some of our street lighting is being cut off to save £200k. Draw your own conclusions.......



Buais i'n siarad gyda swyddog Cymraeg un o gynghorau Sir De Ddwyrain Cymru neithiwr, a dwedodd e wrtho'i taw dim ond un swyddog sydd yn cael ei rannu gan gyngor Torfaen / Sir Fynwy (nid 3 fel yr honnir gan Legendary Avocet). Mae'r swydd wedi bod yn wag ers rhyw 3 mis, er bod y cyngor yn bwriadu cyflogi rhywun yn fuan.

Mae'n anodd dadlau gyda chelwyddau noeth!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron