Ceir hyn yn un enghraifft ddiweddar ar y byrddau 'trafod' ar flog Betsan Powys:
The three Welsh language officers employed by my local authority to enforce the Welsh Language Policy (I repeat, in this English-speaking area) signed up to in 2006, are probably costing in the region of £150k. Some of our street lighting is being cut off to save £200k. Draw your own conclusions.......
Oes rhywun yn gwybod a oes rhestr o ffigyrau ar gael yn rhywle sy'n rhoi crynodeb (neu fanylion hyd yn oed) o'r arian cyhoeddus (o un math neu'i gilydd) a gaiff ei wario ar yr iaith Saesneg ym Mhrydain (neu yng Nghymru)? Neu hyd yn oed gwariant ar "ddiddordebau ymylol/lleiafrifol neu ddiwylliannol" eraill (megis grantiau i'r opera/llyfrgelloedd/chwaraeon)?
Yn lle yn unig dadlau rhywbeth megis 'ond mae'r Gymraeg yn iaith leiafrifol ac mae'n haeddu gwariant', byddai'n neis medru taro'n ôl gyda phastwn o'r un pren - gan hefyd roi ffigyrau.