A wnewch chi sbario munud i helpu ... yn arbennig unrhywun yn ardal Llangefni
Mae Iceland (y cwmni bwyd 'di rhewi nid y Wlad) yn agor siop newydd sbon bore fory yn Llangefni.
Does na ddim un gair o Gymraeg ar unrhyw arwydd neu hysbys yno!
Dwi newydd pigo allan amser cinio yma a ges i gyfle i gael gair gydag un o'r rheolwyr - wnaeth gadarnhau doedd dim bwriad defnyddio dim Cymraeg ar arwyddion yn y siop. Roeddwn cwrtais iawn ond roedd y boi yn eitha 'rattled' wrth gael ei herio...
Plis Plis.. os wyt o gwmpas Llangefni y dyddiau nesaf - galw mewn a siarad efo un o'r bosys (nid y staff ar y tils pechod) i gwyno. Bydd tipyn o bosys o gwmpas y dyddiau cyntaf mae'n siwr.. cyfle da felly. DIOLCH
Mae pencadlys cwmni Iceland yn Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.. dwi wedi eu ffonio i gwyno a phwyntio allan bod cwmniau o bell tu hwnt i Gymru yn defnyddio'r Gymraeg a does dim esgus iddyn nhw ddim. Hefyd mae eu siop newydd ar safle yr hen CoOp ac roedd llwyth o Gymraeg i'w gweld yno. Ges i gwrandawiad cwrtais ond dim ymateb arall.
Taswn i ddiolchgar iawn petai pawb yn gallu anfon atynt. https://www.iceland.co.uk/feedback - Llawer o ddiolch
Wnai gysylltu a CyrIG a Bwrdd yr Iaith nes ymlaen pnhawn ma