Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 21 Chw 2009 3:22 pm

HuwJones a ddywedodd:Ffonais Menter Iaith Môn ynglyn a siop Iceland Llangefni. Gefais ateb wirioneddol siomedig.. "dydan ni ddim yn cael ein cylludio i fynd ar ol gwmniau mawrion, cyfrifoldeb Bwrdd yr Iaith ydy". Digon wir efallai, ond mae siop Iceland yn reit agos i swyddfa Menter Môn ac mae'n siwr bod rhai o'u staff yn cerdded heibio pob dydd... felly dim esgus o gwbl iddynt beidio a sylwi ar siop newydd sbon heb yr un arwydd Cymraeg a phasio'r ymlaen i'r Bwrdd os nad ydy rhan o'u swyddogaeth nhw.

Dweud wrth Methiant Iaith Mon rhywbeth fel "Dyfal donc a dyrr y garreg". "Ddim yn cael ein cylludio i fynd ar ol y cewri" - be?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan LLewMawr » Llun 23 Chw 2009 11:52 am

mae wastad yr un peth- cwmniau yn gorfod cael ei herio a gorfod gwneud niwsans o'ch hun er mwyn gwneud iddyn nhw gwrando!
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Ray Diota » Llun 23 Chw 2009 12:37 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
HuwJones a ddywedodd:Ffonais Menter Iaith Môn ynglyn a siop Iceland Llangefni. Gefais ateb wirioneddol siomedig.. "dydan ni ddim yn cael ein cylludio i fynd ar ol gwmniau mawrion, cyfrifoldeb Bwrdd yr Iaith ydy". Digon wir efallai, ond mae siop Iceland yn reit agos i swyddfa Menter Môn ac mae'n siwr bod rhai o'u staff yn cerdded heibio pob dydd... felly dim esgus o gwbl iddynt beidio a sylwi ar siop newydd sbon heb yr un arwydd Cymraeg a phasio'r ymlaen i'r Bwrdd os nad ydy rhan o'u swyddogaeth nhw.

Dweud wrth Methiant Iaith Mon rhywbeth fel "Dyfal donc a dyrr y garreg". "Ddim yn cael ein cylludio i fynd ar ol y cewri" - be?


'na be ti'n cal pan mai arian cyhoeddus sy'n cyllido popeth... pawb yn cachu brics... odd y boi siaradodd 'da ti yn llygad ei le, er mor siomedig yw hynny...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Duw » Llun 23 Chw 2009 7:12 pm

Fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, nid swydd MYI yw hynny. Mae busnese bychain yn mynd i elwa'n sylweddol o'u cymorth. Bydde'r arian (o ran amser) mae'n cymryd i ddelio gyda Iceland yn wastraff, yn enwedig pan fydd sefydliad gyhoeddus arall yn gyfrifol am hyn. Trueni mawr, ond dealladwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 25 Chw 2009 8:17 pm

Dyma'r hyn ges i oddi wrth Iadir:-

Dear Sion Morton,

Mae Iceland yn falch o’i Threftadaeth Gymreig. Agorwyd ein siop gyntaf yng Nghymru tros 30 mlynedd yn ôl ac mae gennym bellach 60 o siopau ar draws Cymru ynghyd â chanolfan cefnogi cenedlaethol, sy’n ein gwneud ni yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal. Rydym hefyd yn falch o noddi ‘Track Attack Cymru’, sef rhaglen beicio trac ar gyfer plant yng Nghymru.

Mae gennym nifer o weithwyr mewn siopau ar draws Cymru ac o fewn ein canolfan cefnogi yng Nglannau Dyfrdwy sy’n siarad Cymraeg. Rydym yn siarad â’n cwsmeriaid yn gyson er mwyn derbyn adborth ganddynt, ac maent yn fodlon gyda safon yr arwyddion a’r cyfathrebu a gynigir yn ein siopau. Byddwn yn parhau i fonitro hyn yn fanwl iawn. Un peth y gallwn ni ei gynnig yn ein siop yn Llangefni, o Ddydd Llun ymlaen, yw derbynebau dwyieithog i’n cwsmeriaid.

Kind regards
Dave JonesIceland Customer Care

Tybed fod 'na dipyn o gyfieithu amheus yma...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Hazel » Mer 25 Chw 2009 8:37 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:

Kind regards
Dave JonesIceland Customer Care



Angen ychydig o gymorth yma?

Cofion gorau oddi wrth
Dave Jones Iceland Gwasanaeth Cwsmer
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Wayne WPS » Iau 26 Chw 2009 3:52 am

Rwyf innau wedi cael yr un ymateb, gyda'r un geiriau ag yn y llythyr yr oedd rhywun arall wedi ei dderbyn. Felly, dyma fi'n ysgrifennu atynt unwaith eto.

"Dear Sir,

"Thank you for your stock reply! This is not a very considered but a purely standard excuse for an answer to my questions. It's exactly the same as one posted on a Welsh language website recently in answer to somebody else! I am understandly slightly unhappy with your response, therefore, and your failure to appreciate the issue here.

"You say that Iceland is very proud of its "Welsh Heritage". Opening a store in Wales 30 years ago does not, I am afraid, signify pride in the heritage of Wales and her language. Nor does your acquisition of 60 stores in the country over that period.

"If you are failing to respect the culture of a bilingual nation such as Wales in all 60 of your stores, then your ignoring Wales' linguistic heritage is in fact all the more reprehensible. It is also, certainly, no cause for jubilation on your part.

"By ignoring the ancient tongue of Wales on such a wide scale it is quite possible that you have contributed to the negativity over 30 long years that some people already have towards Welsh. For a language to survive it has to be visible, and I would like you to reconsider your anti-Welsh policy and adopt a more culturally aware, responsible and equitable approach on this important matter. In a thoroughly Welsh-speaking town like Llangefni this is extremely important. That Welsh has survived for so many hundreds of years alongside English is a miracle, and it is in need of all our support if Welsh speaking is to continue into the future. That should include the support of large employers in Wales. From your point of view, if you are to be seen as a credible Wales-based company, with genuine pride in your Welsh heritage, there is much that you can do to help.

"'Track Attack Cymru’ sounds like a very interesting project and one which I wish you well in, and I think it must be hailed as a welcome contribution to the life of young people in Wales.

"I wonder if you could make a similar commitment to the Welsh language, which is taught to all youngsters in Wales (from the age of 4 to 16) and is set to be a language of the future. Its survival is pretty much a major national concern today. It would set a wonderful example if Iceland could embrace the bilingual signage issue and think about the many, many ways in which you could take a lead among Welsh supermarkets and show the others the way forward!

"In my view you could gain a great deal of publicity on something like this.

Through a concerted campaign to be a leader in the community throughout Wales Iceland could really come to see how its present 'No Welsh' policy was a mistake.

"I look forward to hearing from you, paricularly if you can give consideration to introducing bilingual signage, everywhere in your stores, but as a matter of priority in the store in Llangefni, an area where over 80% speak Welsh as their first language."

Yours, ayyb.
Wayne WPS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 20 Chw 2009 1:00 am

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan kali » Sul 17 Mai 2009 1:45 pm

Yn anffodus, dydy hyn ddim yn fy synnu o gwbl. Ond yn fy marn i, dim ond un rheswm pam dylen ni osgoi rhoi pres i siopau mawr yw hwn. Ar wahân i'r ffaith bod "chainstores" mawr fel Icelend fel arfer yn cynnig gwasanaeth annigonol o ran arwyddion Cymraeg a ballu, mae siopau mawr fel hyn yn gwneud niwed yn eu hunain i gymunedau Cymraeg, a chymunedau lleol ar draws y byd. Erbyn hyn mae gan siopau fel Tesco digon o bres i gymeryd dros holl fasnach pentrefi a threfi, yn cynnig cynnyrch mor rhad bod y siopau annibynnol methu cystadlu. (Yn aml dydy siopau fel hyn ddim yn poeni rhyw lawer am roi pris teg i'r pobl sy'n cynhyrchu stwff iddyn nhw, na'r effaith mae'n cael ar yr amgylchedd, ond mae hynna'n stori gwahanol.) Mae cymeriad ein pentrefi a threfi yn diflannu, ac yn ei lle, mae adeiladau sydd i gyd yn edrych yr un fath ac yn gwerthu'r un pethau.
"Ond mae nhw'n creu swyddi!"
Go iawn? Beth am y swyddi sy'n cael eu colli?
"Ond dan ni isio gallu prynu pob dim dan ni isio yn yr un lle!"
Wel, dan ni isio popeth, dydan. Mae angen meddwl am ein blaenoriaethau, tra bod 'na ddewis gynnon ni. Mae'n teimlo fel bod gynnon ni ddim pŵer, a reit aml does gynnon ni ddim, ond mi ydan ni'n gallu dewis i bwy dan ni'n rhoi pres.
Rhithffurf defnyddiwr
kali
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 17 Mai 2009 12:42 pm
Lleoliad: Carmel/ Efrog

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan celt86 » Sul 17 Mai 2009 8:14 pm

kali a ddywedodd:Mae cymeriad ein pentrefi a threfi yn diflannu, ac yn ei lle, mae adeiladau sydd i gyd yn edrych yr un fath ac yn gwerthu'r un pethau.


Mae cymeriad ein pentrefi a threfi wedi diflanu ers talwm, nid oherwydd Tesco ayyb. Mae Tesco a siopa mawr yn dod a gwaith i'r ardal, ac yn yr awyrgylch ariannol yr ydym ynddi, mae hynny yn dda o beth.
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Dim Cymraeg mewn archfarchnad newydd sbon yn Llangefni

Postiogan Azariah » Sul 17 Mai 2009 8:38 pm

celt86 a ddywedodd:
kali a ddywedodd:Mae cymeriad ein pentrefi a threfi yn diflannu, ac yn ei lle, mae adeiladau sydd i gyd yn edrych yr un fath ac yn gwerthu'r un pethau.


Mae cymeriad ein pentrefi a threfi wedi diflanu ers talwm, nid oherwydd Tesco ayyb. Mae Tesco a siopa mawr yn dod a gwaith i'r ardal, ac yn yr awyrgylch ariannol yr ydym ynddi, mae hynny yn dda o beth.


Ac mae'r peiriannau hunan-wasanaeth yn gallu siarad Cymraeg :)
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron