47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 29 Ebr 2009 7:43 am

A phwy ydym 'ni' felly? Y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg sydd o blaid deddfwriaeth newydd i sicrhau hawliau ieithyddol yng Nghymru? O'n i am roi ymateb digon cyflawn i'r rwtsh uchod ond beryg y byddai hynny'n fy ngwneud i'n xenophobic yn dy dyb di :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Progressive Welshman » Mer 29 Ebr 2009 7:55 am

Rwan rwan, mond yn rhoi safbwynt ymlaen oeddwn i. Digon hawdd i chi ei alw'n 'rwtsh'. Dyma'n union yr agwedd sydd yn bodoli yn ein gwlad ni y ddyddia yma. Just achos bod fi'n siarad cymraeg tydi hyn ddim yn cadarnhau bod ni yn rhannu'r un barn.

Pam ymosod ar rhywun yn y fath ffordd? Ofn y gwir efallai?
Progressive Welshman
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 29 Ebr 2009 7:15 am

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 29 Ebr 2009 8:15 am

Pa wir? Mae'r gwir rwyt ti'n ei arddel uchod yn taro tant efo Cymru degawdau'n ôl, ond y gwir plaen ydi tu allan i'r Wales on Sunday a'r blaid Lafur dydi'r 'gwir' hwnnw ddim yn bodoli mwyach.

Does neb, yn unman (na unrhyw bryd am wn i) wedi awgrymu nad ydi'r byd wedi'i lobaleiddio mwy. Efallai y gellir derbyn i raddau helaeth mai Saesneg ydi iaith busnes yn fyd-eang, ond does â wnelo hynny ddim â hawl Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg. O ran llywodraeth, mewn gwlad ddwyieithog dylid cael llywodraeth ddwyieithog - dwyt ti ddim wirioneddol yn arddel y gwrthwyneb i hynny?

Dwi ddim yn gwybod be ydi'r dyfodol 'progressive' ti'n credu ynddo i Gymru a'r Gymraeg - Cymraeg yn y capel a Saesneg i bopeth arall tybed? Os wyt ti o'r farn bod cadw dy iaith yn beth xenophoic i'w wneud, wel, be alla i ddweud am hynny rili?

Ac mae'n siwr bod y pol hwn sy'n dangos y gefnogaeth i'r Gymraeg hefyd 'ddim yn adlewyrchu'r gwir sefyllfa' chwaith, nac ydi?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Ray Diota » Mer 29 Ebr 2009 12:24 pm

Progressive Welshman a ddywedodd:Rwan rwan, mond yn rhoi safbwynt ymlaen oeddwn i. Digon hawdd i chi ei alw'n 'rwtsh'. Dyma'n union yr agwedd sydd yn bodoli yn ein gwlad ni y ddyddia yma. Just achos bod fi'n siarad cymraeg tydi hyn ddim yn cadarnhau bod ni yn rhannu'r un barn.

Pam ymosod ar rhywun yn y fath ffordd?



digon teg. ma ishe mwy o ystod o safbwyntiau ar y wefan 'ma... ond ga i jyst ofyn iti pam bod ti'n meddwl bod globaleiddio'n mynd yn erbyn diogelu ieithoedd 'llai'? sai'n gweld y berthynas o gwbwl fy hun...

a ga i hefyd dy longyfarch di am y ffugenw gwaethaf ar y we...? :lol: :winc:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 30 Ebr 2009 7:51 am

Pryd mae plant yng nghalon Cymru Gymraeg yn siarad a'i gilydd, mewn ysgolion Cymraeg, yn Saesneg yn anad dim, ymddengys fod y farn "Mae digon o ddeddfu dros y Gymraeg eisoes" yn un gam. Dim dwywaith, dim ots pa blaid wleidyddol sy dda gennych, mae barn PW yn un gam.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Progressive Welshman » Sad 13 Meh 2009 11:53 am

Ymddiheuriad am yr ymateb hwyr.

Wel, er ei fod yn beth anffodus fod plant Cymru yn defnyddio Saesneg yn fwy aml, fedrith mwy o deddfu ddim newid hyna. Cofiwch mae wlad rhydd ydi hi. Lle fydda ni'n stopio? Dwi'n cael hunllef o weld arwyddion ym mhob pentref 'SPEAK WELSH...OR DIE'
Progressive Welshman
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 29 Ebr 2009 7:15 am

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 15 Meh 2009 8:07 am

Progressive Welshman a ddywedodd:Dwi'n cael hunllef o weld arwyddion ym mhob pentref 'SPEAK WELSH...OR DIE'

Cymeraf fod ti heb glywed am y "Welsh Not" ynte?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron