Tudalen 1 o 2

47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 02 Maw 2009 12:12 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 02 Maw 2009 12:14 pm
gan Hedd Gwynfor
Ac yn Saesneg - http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/7918403.stm

Oes modd gweld y data craidd yn eu cyfanrwydd yn rhywle?

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 11:37 am
gan MH
Mae'r data craidd ar gael yma:

http://www.icmresearch.co.uk/pdfs/2009_feb_bbcwales_poll.pdf

To what extent do you agree or disagree with the following statement:

There is a need to create new laws to help promote the Welsh language
and also to ensure that Welsh speakers have more opportunities to use
the language when using some services.


agree ... neither agree nor disagree ... disagree ... net margin agreeing

All Wales: 47% ... 23% ... 29% ... 18%

Male: 47% ... 21% ... 32% ... 15%
Female: 47% ... 25% ... 27% ... 20%

18-34: 55% ... 24% ... 21% ... 34%
35-49: 46% ... 26% ... 29% ... 17%
50+: 43% ... 21% ... 35% ... 8%

North Wales: 56% ... 20% ... 23% ... 33%
Mid & West Wales: 47% ... 25% ... 27% ... 20%
South East Wales: 42% ... 23% ... 35% ... 7%

Delwedd

Fluent in Welsh: 74% ... 15% ... 12% ... 62%
Speak Welsh, but not fluently: 60% ... 17% ... 23% ... 37%
Don't speak Welsh: 37% ... 27% ... 35% ... 2%



Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 11:50 am
gan sian
Felly, hyd yn oed yn y de ddwyrain ac ymhlith pobl sy ddim yn siarad Cymraeg, mae 'na fwy'n cytuno nag sy'n anghytuno.

Mae'n swnio'n well os ti'n dweud 18% yn anghytuno na 47% yn cytuno.

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:01 pm
gan MH
Na, mae 47% yn cytuno a 29% yn anghytuno. Y gwahaniaeth yw 18%.

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:25 pm
gan sian
MH a ddywedodd:Na, mae 47% yn cytuno a 29% yn anghytuno. Y gwahaniaeth yw 18%.


Wps. :wps: Wel, mae dweud mai 29% sy'n anghytuno'n swnio'n well na dweud bod 47% yn cytuno 'te.
Achos os ti'n dweud "Mae 47% yn cytuno" mae'n swnio fel bod 53% yn anghytuno.

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:32 pm
gan MH
Wi'n cytuno! :)

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:52 pm
gan sian
MH a ddywedodd:Wi'n cytuno! :)


Cytuno â fi neu cytuno bod angen creu deddfau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg? :lol:

Mae'r gwahaniaeth rhwng menywod a dynion yn ddifyr - run faint o blaid ond 5% yn fwy o ddynion yn erbyn.
Mae'r gwahaniaeth rhwng yr oedranne'n galonogol hefyd.

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 2:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Nesi feddwl bod y gwahaniaeth rhwng yr oedrannau hefyd yn galonogol iawn. Mae angen bod yn weddol ofalus o bolau fel hyn fel rheol ond mae'n ymddangos bod y sbred o bobl a holwyd yn weddol agos at y patrwm cenedlaethol (hyd y gwela i). Dwi hefyd fodd bynnag yn meddwl ei bod yn galonogol iawn iawn, er nad yn gwbl annisgwyl, bod bron i dri chwarter y Cymry Cymraeg a holwyd yn gefnogol.

Mae'n brawf o'r gefnogaeth gynyddol sydd i'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru - braf ydi hynny de :)

Re: 47%yn cefnogi mwy o ddeddfu yn achos yr iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 29 Ebr 2009 7:22 am
gan Progressive Welshman
Efallai fod 47% o'r pobl nath derbyn y pol opiniwn wedi cytuno, cofiwch hefyd tydi hyn ddim yn adlewyrchu y gwir sefyllfa. Beth bynnag.

Yn ol fy nhyb i dwi'm yn wir deall yr angen i roi mwy o deddf i'r iaith Gymraeg. Mae gennym ni ddigon o deddf i sicrhau fod y iaith yn parhau ond mae'n bwysig i ni beidio colli golwg ar y sefyllfa eang.

Da ni'n byw mewn 'globalised society' dyddia ma, a mae o'n hanfodol bwysig i ni dechrau derbyn fod Saesneg neu Mandarin fydd iaith busnes a llywodraeth.

Da ni mewn peryg mawr o edrych fel xenophobes os mae'r ymgyrchu ma yn parhau...a fysa fo'n well i buddsoddi mwy o arian i hybu economi'r wlad? Peryg iawn ydi aros mewn gorffenol pell a canu caneuon am Owain Glyndwr...ella gwell edrych at y dyfodol hogia?