Oes gennych chi dystiolaeth?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oes gennych chi dystiolaeth?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 13 Maw 2009 10:26 am

Mae'n debygol fod pob un ohonom wedi profi'r teimlad o rwystredigaeth rhywbryd oherwydd nad oes gwasanaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn y sector breifat.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgorau yn y Cynulliad a San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf, fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn Iaith, a rydym yn awyddus i gyflwyno eich profiadau chi fel rhan o'r dystiolaeth.

Danfonwch UNRHYW brofiadau personol rydych chi wedi ei cael dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos yr angen am ddeddfwriaeth newydd i roi hawliau sylfaenol ieithyddol i bawb yng Nghymru.

Gall hyn gynnwys esboniad tila gan fusnes preifat yn gwrthod cynnig gwasanaeth Cymraeg, siop fawr yn agor yn eich ardal heb unrhyw ystyriaeth o'r Gymraeg, neu eich profiadau o wasanaethau eilradd yn y Gymraeg gan Fanciau neu'r Swyddfa Bost leol, neu gan y sector gyhoeddus. Neu oes rhywun wedi awgrymu na ddylech chi siarad Cymraeg yn y gweithle?

Mae yna ddigon o enghreifftiau ar gael, ond rydym yn awyddus i gasglu tipyn ar frys i ddangos yr angen am Orchymyn Iaith gyda sgop eang a Mesur Iaith Cyflawn.

Danfonwch neges breifat os gwelwch yn dda gyda'ch tystiolaeth, neu ebostiwch hedd@cymdeithas.org, bydd y dystiolaeth yma yn cryfhau'r achos yn ddirfawr.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad ar 17 Mawrth 2009.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ar 23 Mawrth 2009.


Danfonwch eich ymatebion cyn hynny os gwelwch yn dda.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron