Arolwg Bwrdd yr Iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Arolwg Bwrdd yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Ebr 2009 9:44 pm

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 019424.stm

Roedd 76% yn credu bod cwmnïau'n hysbysebu eu gwasanaeth neu gynnyrch yn ddwyieithog yn bwysig.
Roedd 82% yn dweud fod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.
Dywedodd 81% eu bod yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig.

Newyddion gwych, a dim ond 11% o'r sawl a holwyd oedd yn rhugl yn y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Arolwg Bwrdd yr Iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 28 Ebr 2009 7:51 am

Mae hwn yn newyddion da ond ga'i ddweud pa mor wirioneddol ddig ydw i bod straeon fel hyn yn cael eu hanwybyddu'n llwyr gan BBC Wales. Roedd hwn yn brif stori ar BBC Cymru am hanner ddoe, ond does 'na ddim cyfeiriad ati o gwbl ar yr hafan Saesneg. Byddai rhai yn dadlau nad ydi straeon o'r fath mor bwysig i'r Cymry di-Gymraeg ond o ystyried canfyddiadau'r arolwg....

:x
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Arolwg Bwrdd yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 28 Ebr 2009 8:57 am

Cytuno'n llwyr Hogyn! Ond pan wnaeth y BBC arolwg yn gofyn "Should businesses be FORCED to use Welsh" gyda canran lot llai o blaid y gosodiad nôl yn 2007, roedd yn brif stori ar ei gwefan - http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/6256142.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Arolwg Bwrdd yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 30 Ebr 2009 8:11 am

Yw'r data llawn o'r arolwg ar gael yn rhywle? Nid oeddwn i'n gallu gweld unrhyw beth ar wefan Bwrdd yr Iaith. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron