Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 17 Meh 2009 11:23 am

HuwJones a ddywedodd:Da iawn Golwg - plis gwn ni fwy o 'reportio', 'binjio', 'jobs', 'safio', 'fflio' etc etc.. Os mae'r heddlu purdeb iaith yn 'winjio' rhaid ichi fod yn wneud rhywbeth yn iawn :D :D :D :D

Er mod i'n siomedig gyda'r holl broblemau technegol gyda Golwg360, o leiaf mae pwy bynnag yn Golwg sydd wedi dewis y geiriau yno yn trio sgwennu Cymraeg boblogaidd.

Dwi'n gweithio gyda chwmni argraffu sy'n gwneud lot fawr o stwff dwyieithog ac mae'n hollol amlwg o'r ymateb rydan ni'n cael gan y cyhoedd bod y mwyafrif mawr o siaradwyr Cymraeg yn troi'n syth at y fersiwn Saesneg gan gwyno bod lefel y Gymraeg mae cyfieithwyr yn ei defnyddio'n rhy anghyfarwydd o gymharu a'u hiaith lafar pob dydd.

Pwrpas Y Byd, Y Cyngor Llyfrau, Golwg a'r arian cyhoeddus 'ma ar gyfer Golwg360 yw i hybu'r arferiad o ddarllen yn Gymraeg.

Felly cwestiwn i 'Hogyn o Rachub' ac eraill sydd wedi cwyno...
... sut fasech chi fynd ati i wneud y Gymraeg ar gyhoeddiadau / gwefannau yn fwy boblogaidd a derbyniol i bobl sy'n llai hyderus o'u Cymraeg na chi?


Clywch clywch Huw!
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 17 Meh 2009 11:42 am

Asu tyd 'laen, dydan ni ddim yn bod yn 'heddlu purdeb iaith' yn y lleiaf. Dydi gwneud rhywbeth yn ddealladwy i bobl ddim o gwbl yn meddwl defnyddio bratiaith - dydi'r Cymry Cymraeg ddim yn dwp sti, maen nhw'n gwybod be 'di 'hedfan' neu 'oryfed' neu 'swyddi'.

Y pethau bach y mae Golwg yn ei wneud yn rong sy'n gwylltio fi - fel y nododd rhywun uchod (methu ffendio'r enghraifft fy hun) 'sgwennu 'buddugoliaeth' fel 'biddigoliaeth' neu rywbeth tebyg. Mae 'na ddigon o enghreifftiau, a dyna'r math o bethau fydda rhywun yn disgwyl i Golwg gael yn iawn (er tegwch mae pethau i'w gweld yn gwella rhywfaint).

Mae rhai sefydliadau fel Y Ganolfan Byd Gwaith yn enghraifft dda o sut y gellir llunio dogfennau a thaflenni sy'n ddealladwy ond eto'n safonol. O'm mhrofiad i, fel rheol dwi'n meddwl bod pa mor ddealladwy ydi Cymraeg ar unrhyw ddogfen yn dueddol o adlewyrchu pa mor ddealladwy ydi'r Saesneg - ond mae hynny'n bwnc arall.

Dwi'n derbyn hefyd y gall cyfieithwyr a phobl sy'n delio efo iaith yn ddyddiol fynd i 'fyd iaith berffaith' weithiau a cholli golwg ar y gynulleidfa sy am ddarllen beth bynnag maen nhw'n ei wneud. Ond yn bersonol dwi'n meddwl dylia Golwg wneud yn well o ran iaith o ystyried eu bod nhw'n gael £200,000 y flwyddyn i 'sgwennu erthyglau.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Mer 17 Meh 2009 12:46 pm

Mae hon yn ddadl gymhleth ac mae'n bwysig iawn i ddyfodol yr iaith.
Dim amser i fynd iddi'n fanwl ond cwpwl o bwyntiau:

1) rai wythnosau nôl roedd stori ar Golwg360 am bysgod wedi'u dwyn o bwll yn Llanrug. Roedd y pwll "wedi ei gyfro gyda rhwyd" - does dim esgus am beth felly. Beth sy'n rong â "roedd rhwyd dros y pwll" ?
2) Slawer dydd, yn nyddiau Sulyn, dwi'n cofio siarad â chriw o Gymry Cymraeg naturiol nad oedd yn arfer darllen llawer o Gymraeg ac roedden nhw'n dweud eu bod yn cael trafferth i ddarllen Sulyn am fod yr iaith yn anghyfarwydd - bod iaith y papurau bro yn fwy naturiol.

Mae sgrifennu iaith naturiol, llithrig a dealladwy yn gamp a hanner.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Mer 17 Meh 2009 1:08 pm

Falle bod e'n gamp, ond bois bach, ma G360 wedi derbyn arian i sicrhau llwyddiant. Pa lwyddiant a fydd os ydy'r iaith yn chwerthinllyd? Gallwch glywed y Sais yn cwyno, "Why are we funding a company to produce pidgin-English? Let them publish proper English".

Pam ydy'r Cymry pob amser yn saethu eu hun yn y troed? Embaras a shambls. Dwi'n gwingo pob tro dwi'n gweld arwydd neu ddogfen â gwallau erchyll (neu fratiaieth) - sut ddiawl gwnaiff Cymraeg fy mhlant ddatblygu gyda bwlsitio o'r fath? Mae blydi CJD ar y diawled sofft.

Cymraeg Boblogaidd? Beth yw hwwna? Cyfle i fod yn ddiog a lledu bratiaieth. Newyddiadurwyr proffesiynol yw'r rhain i fod. Dwi'n gallu gweld newyddiadurwyr yr Independent yn troi at fratiaieth (plis - os ydych yn ffeindio rhai, peidiwch â'u postio er mwyn cread - IDGAF). Dylai fod digon o hunanbarch gan y bobl 'ma i gyflwyno Cymraeg safonol, dealladwy i'r cyhoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Mer 17 Meh 2009 1:29 pm

Dw i ddim yn disgwyl yr un fath o iaith ar Golwg360 - nac yn Golwg o ran hynny - ag wyt ti'n gael yn Barn neu Taliesin - ond dw i yn disgwyl iddo fe fod yn gywir ac yn Gymreig.
Fel soniais i, dydi geiriau fel riportio - neu hyd yn oed binjio - ddim yn fy mhoeni i gymaint â'r gystrawen.
Dw i newydd ddarllen 5 neu 6 o straeon Golwg 360 yn sydyn a wela i ddim byd mawr i boeni amdano - ambell i gamdreiglad - ond mae (bron) pawb yn gwneud hynny! Mae'n darllen yn ddigon slic.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 17 Meh 2009 2:03 pm

Mae geiriau fel'na wir yn fy ngwylltio i (yn ysgrifenedig o leiaf). Efallai mai fater o farn ydi hynny? Wn i ddim. Fel ti'n ei ddweud bydd yr iaith ei hun yn wahanol i rywbeth fel Barn, sy'n ddigon teg. Mae cydbwyso safon efo Cymraeg bachog yn anodd, ond mae'n rhaid o hyd cynnal y safonau. Dwi'n siwr mai chdi ddywedodd rhyw bryd stalwm mewn edefyn o oes pys nôl 'na un peth sy gynnon ni ddim yn Gymraeg ydi iaith newyddiadurol benodol, sydd wrth gwrs yn ei gwneud hi'n haws ei beirniadu o sawl safbwynt.

Ond dwi'n cytuno efo ail ran dy neges ond dwi'n siwr y gall rhywun ddadlau yn bur hawdd os ydi rhywun yn cael ei dalu i ddelio efo iaith (fel cyfieithwyr, newyddiadurwyr ac ati), yn enwedig drwy arian cyhoeddus, dylia mân wallau fel treigliadau ddim fod yno - dylia pethau gael eu gwirio cyn eu gosod fyny. O safbwynt golygyddol oni ddylai hynny fod yn beth naturiol i'w wneud? :?

Wn i nad Golwg yn unig sy'n euog o hynny o bell ffordd, ond dydi hynny ddim yn esgus, chwaith.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Mer 17 Meh 2009 2:22 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n siwr mai chdi ddywedodd rhyw bryd stalwm mewn edefyn o oes pys nôl 'na un peth sy gynnon ni ddim yn Gymraeg ydi iaith newyddiadurol benodol, sydd wrth gwrs yn ei gwneud hi'n haws ei beirniadu o sawl safbwynt.


Rhywun yn cofio be dwi'n ddweud :D :D :D Dw i'n cofio pan o'n i'n gweithio i'r Herald Cymraeg slawer dydd am £2 yr awr, y golygydd yn dweud ei bod yn rhaid i ni "greu" iaith newyddiadurol Gymraeg - a finne'n dweud nad o'n i am greu unrhyw iaith am £2 yr awr.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:... os ydi rhywun yn cael ei dalu i ddelio efo iaith (fel cyfieithwyr, newyddiadurwyr ac ati), yn enwedig drwy arian cyhoeddus, dylia mân wallau fel treigliadau ddim fod yno - dylia pethau gael eu gwirio cyn eu gosod fyny. O safbwynt golygyddol oni ddylai hynny fod yn beth naturiol i'w wneud? :?

Wn i nad Golwg yn unig sy'n euog o hynny o bell ffordd, ond dydi hynny ddim yn esgus, chwaith.


Dim esgusodi iaith wallus ydw i - ond mae gwallau treiglo'n rhywbeth y galli di ddod drosto fe. Sgrifennu mewn iaith nad yw hi'n tynnu sylw ati ei hunan yw'r gamp. Hyd y gwela i, dŷn nhw ddim wedi dal yr erchyllbeth "wedi'w" wrth y BBC eto!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan HuwJones » Mer 17 Meh 2009 2:35 pm

Sori.. Hogyn o Rachub trio 'weidio' chi gyd fyny oeddwn i yn dweud 'heddlu purdeb iaith' !!!

A dwi'n cytuno'n llwyr am ochr dechnegol/dyluniad y wefan yn drychineb.

Ond buaswn croesawu unrhyw ymdrech drio cyrraedd pobl sydd ddim mor hyderus gyda'u Cymraeg. Felly os mae Golwg360 neu unrhywun arall yn defnyddio geiriau cyfarwydd fel "Ffitio, Plîs, Ffansio, Dreifio, Tisio" - pob lwc iddyn nhw... da iawn am drio. Gret bod rhywun yn mentro yn hytrach na jyst troi allan yr un stwff sydd yn methu gyda rhan mawr o'r poblogaidd.

....Gallwch glywed y Sais yn cwyno, "Why are we funding a company to produce pidgin-English? Let them publish proper English"".

Yn bendant iawn dyw'r un obsesiwn am "Safon" a "Phurdeb" iaith DDIM yn cael eu gorfodi ar Saesneg.
Dychmyga Golygydd y Sun yn gwrthod defnyddio pennawd "Gotcha" (penawd enwoca'r papur) ei fod ddim yn "proper English"
... Wnaeth asiantaethau hysbysebu ddim poeni bod rhai o'r sloganau mwya llwyddiannus yn hanes fel "Beanz Meanz Heinz" neu "Milk's gotta lotta bottle" yn "pidgin-English"
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Mr Gasyth » Mer 17 Meh 2009 3:06 pm

Hyd y gwela i, dŷn nhw ddim wedi dal yr erchyllbeth "wedi'w" wrth y BBC eto!


Yn tydi hi'n rhyfedd fel mae 'gwallau' ieithyddol sy'n gwylltio yn amrywio o un person i'r llall. I mi, mae wedi'w yn enghraifft o esblygiad organic yr iaith Gymraeg ac yn rywbeth i'w groesawu fel arwydd fod yr iaith yn fyw (dim ond ieithoedd marw sydd ddim yn newid) tra fo defnyddio geiriau fel riportio, binjio ac ati jest yn ddefnydd diog o eiriau Saesneg ble mae yna rai Cymraeg iawn i'w cael ac o'r herwydd yn annerbyniol

Jets yn dangos fel na fedrwch chi fyth blesio pawb tydi debyg
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Mer 17 Meh 2009 3:32 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Jets yn dangos fel na fedrwch chi fyth blesio pawb tydi debyg


Pa jets yw'r rheiny? Y rhai sy'n fflio'n isel?

Mae penawdau'n broblem yn y Gymraeg - chi'n gallu stwffio lot o eiriau Saesneg at ei gilydd heb eiriau bach i'w cysylltu nhw.

"Youth binge problem raises head"
"Problem goryfed achlysurol ymhlith ieuenctid yn codi ei phen"
Dim yr enghraifft orau - ond mae'n rhoi syniad.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron