Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360

Postiogan Ray Diota » Gwe 03 Gor 2009 4:34 pm

jiw, ma fe di newid beh wmbreth - be ma pobol yn feddwl?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360

Postiogan sian » Gwe 03 Gor 2009 4:46 pm

Ray Diota a ddywedodd:jiw, ma fe di newid beh wmbreth - be ma pobol yn feddwl?


Dw i'n meddwl bod y prif lun yn well ar y chwith ond mae'r ffont braidd yn wan (ond dydw i ddim yn deall dylunio).
Ydyn nhw'n gwastraffu lot o le yn yr is-adrannau newyddion? - dim ond cael y pennawd a "mwy" a lot o le gwag

Oes 'na ryw fath o archif heblaw am y lle chwilio bach?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 03 Gor 2009 7:18 pm

Ddim yn siwr am y lliw gwyrdd 'lime' :? ond mae tipyn o welliannau wedi cael eu gwneud i'r wefan o ran pa mor rhwydd yw e i'w ddefnyddio. Gobeithio bydd lot mwy o welliannau yn yr wythnosau nesaf, gan gychwyn gyda RSS, a chynnwys crynodeb o straeon + dyddiad yn y categoriau e.e. Gwleidyddiaeth a Pêl Droed. Hefyd, dylai pwyso ar y logo 'golwg360' fynd a chi nol at yr hafan. A ma' wir angen newid ffont y testun i rhywbeth sy'n rhwyddach ar y llygad.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360

Postiogan dafydd » Gwe 03 Gor 2009 7:26 pm

Mae'r diwyg newydd yn amlwg ychydig yn well (heblaw y ffontiau mawr) ond doedd dim llawer yn bosib gyda'r wefan fel mae hi. Dwi'n meddwl mai newidiadau bach nawr ac yn y man fyddan nhw'n gwneud nawr - ffordd rhyfedd iawn o ddatblygu gwefan. Mae datblygiad 'hyblyg' parhaus yn gallu gweithio os oes gennych chi raglennwyr gorau'r byd a dylunwyr da (fel Google/Youtube/Facebook/Twitter) ond i gwmni bach sy'n dibynnu ar swm penodol o arian cyhoeddus mae'n wallgo.

Mae dal problemau mawr gyda 'isadeiledd gwybodaeth' y wefan sef rhywbeth roedd rhaid meddwl amdano reit o'r cychwyn. Dwi'n rhagweld nhw'n parhau i ail-ddylunio/ail-drefnu y wefan am fisoedd i ddod - ond mae e fel trio ail-addurno stafell tra'n gwisgo menig paffio - proses anodd, rhwystredig ac aneffeithiol iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Golwg360

Postiogan Duw » Gwe 03 Gor 2009 7:38 pm

Ti dal yn mentro yna Daf? Dwi wedi pwdu a thaflu'm teganau allan o'r pram diarhebol. Dwi'n gwrthod mynd nol tan eu bod yn sortio'u hunain allan. Na'i ddim annog fy nisgyblion i fynd 'na 'chwaith.

Pa mor anodd a fyddai i symud i blatfform newydd? Mae'r holl ddata mewn cronfa beth bynnag (dwi'n gobeithio!). Faint fyddai'n costio i gael makeover, gan ddefnyddio pecyn fel MovableType neu hyd yn oed WordPress/Joomla ac ati? O be dwi'n gallu gweld, stim ishe dim byd hudol - jest rhywle i gofnodi erthyglau a chyfrwng.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 03 Gor 2009 7:45 pm

Duw a ddywedodd:Ti dal yn mentro yna Daf? Dwi wedi pwdu a thaflu'm teganau allan o'r pram diarhebol. Dwi'n gwrthod mynd nol tan eu bod yn sortio'u hunain allan. Na'i ddim annog fy nisgyblion i fynd 'na 'chwaith.

Pa mor anodd a fyddai i symud i blatfform newydd? Mae'r holl ddata mewn cronfa beth bynnag (dwi'n gobeithio!). Faint fyddai'n costio i gael makeover, gan ddefnyddio pecyn fel MovableType neu hyd yn oed WordPress/Joomla ac ati? O be dwi'n gallu gweld, stim ishe dim byd hudol - jest rhywle i gofnodi erthyglau a chyfrwng.


Mae'n werth rhoi cyfle arall iddyn nhw Duw. Mae nhw wedi datrys y broblem 'gyda'r cwcis beth bynnag, gweler blogiad diweddaraf Dafydd...

Daflog a ddywedodd:Mae nhw wedi cael gwared o’r gallu i ddewis ychwanegu adrannau a dewis rhanbarth. Efallai fod hyn dros dro tra fod gwaith yn cael ei wneud i’w ddiwygio, ond mae hyn yn datrys ar unwaith y broblem o ddefnyddwyr yn gweld adrannau’n diflannu. Dim mwy o glirio cwcis!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 03 Gor 2009 7:52 pm

Dyma beth sydd gan bobl i ddweud am Golwg360 ar twitter - http://twitter.com/search?q=golwg360
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 03 Gor 2009 8:02 pm

Dwi'n meddwl bod y dyluniad newydd yn ok - swn i ddim yn ei ddewis o'n hun, ond mae'n well.

Y broblem ydi bod y dudalen flaen yn edrych yn wag. Swn i'n deud bod na fwy o storiau ar y dudalen flaen nag sydd ar un y Guardian (y wefan i anelu ati). Petaen nhw'n rhoi crynhoad o'r straeon o dan y pennawd, sa petha'n well.

Ond wrth gwrs, fedran nhw ddim rhoi 10-20 gair o grynodeb dan y teitl tra bod y straeon eu hunain mor fyr a thila.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Golwg360

Postiogan Duw » Gwe 03 Gor 2009 10:19 pm

Cywir Hedd. Llawer gwell. I stand corrected (mor belled).

//golygu

Wel, wrth edrych yn gyntaf mae'n well, er beth sy lan gyda'r 'teasers' sy jest yn bawdluniau a 'mwy...' Holl bwynt rhain yw bod cetyn stori i denu person mewn. Wylle na'i aros mis bach arall cyn gwatraffu mwy o'm amser.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360

Postiogan Prysor » Llun 06 Gor 2009 12:26 pm

Duwcs yndi, lot gwell chwarae teg. Mi ddatblygith petha fel ffontia a ballu yn naturiol rwan. Dim ond drwy drio all unrhyw un weld ynde.

Dal i weld yr erthyglau'n fyr a braidd yn ddisylwedd, a'r 'features' am y celfyddydau etc jysd yn grynodeb o'r stori, efo troednodyn yn eich annog i ddarllen y stori lawn yn y cylchgrawn Golwg. Dwi'n siwr na roddwyd arian cyhoeddus i sefydlu gwefan hybu gwerthiant menter fasnachol sydd eisoes yn bodoli. Sefydlu gwasanaeth newyddion Cymraeg newydd oedd o i fod, shwrli?

Ac ers pryd mae 'diagnosio' yn air Cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron