Dwi'n postio am y tro cynta ers sbel fawr ar maes-e i ymateb i hwn, ac yn anffodus mae gen nifer fawr o gwestiynau:
iolopjones a ddywedodd:Y ffaith ydi nad oes un ceiniog o'r £200k, na'r £600k wedi mynd ar y dechnoleg. Noddiant cwmnïau masnachol fel Golwg Cyf, Tinopolis, Telesgop a fy nghwmni i, TV Everywhere, sydd wedi bod yn talu am ddatblygu'r dechnoleg. Aeth y grant ar newyddiadurwyr.
Pam a phwy benderfynodd hyn? Ti ddim yn meddwl fod hyn yn gamgymeriad dychrynllyd ar gyfer busnes masnachol? Oedd yna gymalau yn y cais am y grant yn golygu nad oedd unrhyw arian i'w wario ar ddatblygu'r wefan? Ydi'r cynulliad wedi creu eliffant gwyn gyda £600,000 o arian cyhoeddus? Pam ei fod wedi cymeryd blwyddyn i gael y wefan i'w sefyllfa presennol? Ydi e'n cael ei wneud yn amser sbar datblygwyr Tinopolis? Pam nad yw'r gwaith cael ei drin fel unrhyw wefan arall sy'n derbyn arian y Cynulliad (dwi'n gyfarwydd iawn a datblygu gwefannau o'r fath a'r broses sy'n cael ei ddilyn).
Fel gŵr busnes dwi'n siwr dy fod yn sylweddoli fod angen denu cymaint o ddefnyddwyr a phosib i wefan er mwyn denu hysbysebwyr heb sôn am gyfiawnhau yr arian cyhoeddus. Roedd angen creu gwefan glân, syml, deniadol a mae digon o dalent yng Nghymru i wneud hynny.
iolopjones a ddywedodd:Hyd y gwn i, nid oes prosiect arall yn y byd yn defnyddio AJAX ac yn caniatáu defnyddwyr i adeiladu (pan mae'n gweithio, wrth gwrs) eu gwefan newyddion eu hunain a chyfrannu yn y modd yma. A dyma ond ddechrau..
Dwi wedi gweld syniadau tebyg ar nifer o wefannau. Beth yw'r pwynt defnyddio technoleg pan nad yw'n gweithio? Dim ond er mwyn ymffrostio eich bod wedi gwneud rhywbeth gyda AJAX? Os nad oes ganddoch chi unrhyw arian i'w ddatblygu, pam cymlethu pethe? Pam ddim cadw pethe yn syml nes i chi brofi fod cynulleidfa a felly yn gallu neilltuo arian i ddatblygiad pellach? Wnaethoch chi unrhyw ymchwil i'r farchnad? Ydych chi'n sylweddoli nad fyddai 95% o ddefnyddwyr cyffredin eisiau nac yn defnyddio technoleg o'r fath am ei fod yn rhy gymleth?
Wnes i brofi'r wefan gyda fy nhad (sy'n darllen gwefannau newyddion BBC/Guardian/Times/Telegraph bob dydd heb drafferth). Doedd e ddim yn deall y pwynt o addasu'r hyn sy'n cael ei ddangos nac yn deall sut i wneud. Pam ddim caniatau pobl i deipio eu côd post neu enw tref i fewn i flwch (fel gwefan tywydd BBC) a dangos newyddion lleol yn seiliedig ar hynny?
iolopjones a ddywedodd:Fy aneliad personol oedd adeiladu rhywbeth allwn ni Gymru fod yn falch ag e o ran dechnoleg, ochr yn ochr a gwefannau y BBC, CNN a'r NYT, gyda eu hadnoddau di-ri.
Mae'n siwr dy fod ti'n gyfarwydd a'r egwyddor KISS - keep it simple stupid. Os nad oes ganddoch chi adnoddau y BBC a CNN, pam trio cystadlu? Gwnewch rhywbeth syml sy'n gweithio ac adeiladwch ar hynny. Mae e braidd yn ffuantus cwyno am ddiffyg cyllid. Gofynna i unrhyw ddatblygwr gwe gwerth ei halen a fe allen nhw fod wedi creu gwefan llawer gwell am ychydig bach o arian ac o fewn ychydig fisoedd. Dwi'n gwneud hynny drwy'r amser ar gyfer cwmnïau bach yng Nghymru sydd a chyllid pitw. Mi fase wedi bod yn syniad defnyddio CMS oddi ar y silff er mwyn cael sylfaen cadarn i weithio arno.
Dwi'n siwr fod tîm Golwg wedi ymroddi'n llwyr i greu tîm newyddiadurol cryf fydd yn gystadleuaeth go-iawn i wasanaethau BBC Cymru a Trinity Mirror. Mae'n biti felly fod eu gwaith wedi ei lesteirio gan ddiffyg arbenigedd a phrofiad o adeiladu gwefan syml, effeithiol a hawdd i'w ddarllen.