Tudalen 1 o 32

Golwg360

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 8:22 am
gan Hedd Gwynfor
Dyna'r enw newydd fydd ar wefan newyddion (h.y. y £200,000) newydd golwg. Mae'n swnio'n ddiddorol iawn. Am y tro 1af bydd gyda ni newyddion o Gymru A'R BYD yn Gymraeg ar y we! Gobeithio bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson, a bod y wefan nid yn unig yn ail adrodd straeon ffynonellau eraill ond yn gwneud bach o waith newyddiadurol ymchwiliol. Mae wir angen hyn arno ni yng Nghymru.

Mae'r elfen o rhyngweithioldeb hefyd yn un diddorol, gyda'r opsiwn i fudiadau, grwpiau, cylchoedd, bandiau ayb greu is-wefannau yn rhada c am ddim.

Disgwyl 'mlaen i'r lansiad ar y 15fed o Fai.

Hwn fydd y cyfeiriad mwy na thebyg - http://www.golwg360.com/

golwg360.jpg
golwg360.jpg (27.14 KiB) Dangoswyd 14736 o weithiau


Mae cloc ar wefan Golwg yn cyfri lawr tan y dyddiad - http://www.golwg.com/

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 6:05 pm
gan Hedd Gwynfor
Bydd hwn yn fyw am 12 o'r gloch heno felly???

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:05 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae screenshots gan http://www.metastwnsh.com

Delwedd

Delwedd

Mae fod i fynd yn fyw am 9am bore fory. Dyma beth sydd gan Dafydd Tomos i ddweud ar metastwnsh:

Blwyddyn o waith datblygu a degau o filoedd yn ddiweddarach a dyw e ddim yn edrych fel petai unrhyw ddylunydd wedi bod yn agos at y wefan yma. Gewn ni weld beth yw safon y newyddiaduraeth ond o berspectif datblygu gwefannau mae’r wefan yma yn mynd a ni nôl i oes yr arth a’r blaidd.


Dyma'r ddolen - http://www.golwg360.com/

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 8:34 am
gan Hedd Gwynfor
Be chi'n meddwl te?

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 10:36 am
gan sian
Rhywun arall yn cael trafferth â hwn?
Roedd e'n iawn bore 'ma.

Methu mynd i'r hafan nawr.
Stribyn yn dweud :
Celf | Celf Gweledol | Criced | Gwleidyddiaeth | Rygbi |
a dyna'i gyd!
Dw i'n gallu mynd i'r straeon unigol o hwnnw ond dim nol i'r Hafan.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 11:20 am
gan sian
Mae'n gweithio'n well ar Firefox nag ar Safari ond dwi'n dal yn methu mynd i'r Hafan - hyd yn oed trwy roi'r cyfeiriad yn y bar ar dop y sgrin.
Dwi mod yn cael newyddion Cymru (heblaw am y Pab) nawr a Newyddion a Calendr ar y top

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 12:00 pm
gan llygoden fach lwyd
Di bod yn cael yr un broblem - hefyd does dim adran pennawdau newyddion hyd y gwela i, dim ond adrannau pwnc penodol

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 12:05 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'm isio rhoi dampnar ar bethau ond oes rhywun arall yn meddwl bod ymddangosiad y wefan yn edrych yn, wel, amaturaidd? :?

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 12:10 pm
gan sian
A dw i wedi methu cofrestru.
Ac ar yr adegau prin dwi'n gallu mynd i'r Hafan mae'r fideo felltith 'na'n dechrau chware heb i mi ofyn iddo.
A does dim ffordd i weld o gysylltu â nhw.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 12:16 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'm isio rhoi dampnar ar bethau ond oes rhywun arall yn meddwl bod ymddangosiad y wefan yn edrych yn, wel, amaturaidd? :?

Wedi disgwyl gwell Byd Cymraeg?