Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Dewin » Gwe 15 Mai 2009 6:16 pm

Ma potensial i hyn:

http://www.cachu360.com/
Dewin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Gwe 23 Ion 2004 11:59 am

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan iolopjones » Gwe 15 Mai 2009 7:33 pm

Dyma fi'n rhoi'n llaw i fyny. Fy mai i yw 'cachu360' (da iawn, bois!) - mae'n derm dwi'n ei haeddu heddiw - ond dwi'n gobeithio fydd y prosiect yn ychydig mwy o Deflon (h.y. non-stick).

Ac yn sicr nid yw'n rywbeth mae tim Golwg, sydd wedi mentro llawer mwy na mae neb yn gwybod ar y fenter hon, yn gyfrifol amdan.
Peidiwch a barnu ymgais i wneud gwahaniaeth mawr ar sail y dechnoleg yma, fydd wedi ei sortio yn o fuan.

Y tristwch mwyaf i mi yw darllen y brwdfrydedd ar ben y post yma yn troi - yn digon deg - i fod yn feirniadaeth hallt ar ei waelod. Y ffaith ydi nad oes un ceiniog o'r £200k, na'r £600k wedi mynd ar y dechnoleg. Noddiant cwmnïau masnachol fel Golwg Cyf, Tinopolis, Telesgop a fy nghwmni i, TV Everywhere, sydd wedi bod yn talu am ddatblygu'r dechnoleg. Aeth y grant ar newyddiadurwyr.

Ac dydi o ddim yn brosiect ysgol.

Hyd y gwn i, nid oes prosiect arall yn y byd yn defnyddio AJAX ac yn caniatáu defnyddwyr i adeiladu (pan mae'n gweithio, wrth gwrs) eu gwefan newyddion eu hunain a chyfrannu yn y modd yma. A dyma ond ddechrau..

Fy aneliad personol oedd adeiladu rhywbeth allwn ni Gymru fod yn falch ag e o ran dechnoleg, ochr yn ochr a gwefannau y BBC, CNN a'r NYT, gyda eu hadnoddau di-ri. Duw a wŷr faint o'u £400,000,000 mae'r BBC yn gwario ar /cymru ond rhaid cofio fod y rhan helaeth o'n newyddion yn dod o Loegr ac yn cael ei gyfieithu yng Nghaerdydd ar sail treth ar bob un ohonom, fwy neu lai.

Ond, da'chi’n iawn. Heddiw, fe wnes i fethu yn fy aneliad a gadael tim Golwg i lawr.

Yfory fe awn ati eto...

O ddifri, ac o galon, diolch am eich diddordeb, eich barn, a'ch cyfraniad. Mae'n cadw'r pwysau arnom i wneud yn well. Fel cymuned wnawn wahaniaeth i esblygiad ein diwylliant ac mae'r 'printout' o 'cachu360' yn mynd ar fy wal i’m hatgoffa o’r dyletswydd yma.
iolopjones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Iau 27 Maw 2008 9:00 pm

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 15 Mai 2009 9:53 pm

"golchu360"...newydd gael m'atgoffa nad ydw i ddim wedi ymweld a "mygaelic.com" am sbel. Pam? Wel, dechreuodd honno mewn ffanffer o gyhoeddusrwydd, daeth lot ohonom ni sy a diddordeb yn yr Aeleg yn aelodau ond, ar ol efallai 2 fis, doedd na ddim lot yn mynd ymlaen ar y wefan. Ond mae pethau'n dal i ddigwydd ar, e.e., "foramnagaidhlig.net" ac "abairthusa.ning.com", sy ddim yn ein cosbi dim.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Geraint (un arall) » Gwe 15 Mai 2009 9:54 pm

Chwarae teg i ti am dy onestrwydd Iolo ond un cwestiwn sydd yn fy mhoeni i fwy nag un arall; pam nad oedd y problemau technegol yma wedi eu gweld wrth i'r wefan gael ei phrofi yn y cyfnod beta. Dwi'n deall nad oes odd rhagweld rhai pethau nes fod y wefan yn fyw ond mae lefel y camgymeriadau technegol yn ddychrynllyd o uchel. Mae'r ffaith dy fod yn cydnabod eich bod wedi gorfod adeiladu system newydd yn fy mhoeni i hefyd; oedd na ddim system i gael yn barod oedd yn cwblhau'r briff? Os nad oedd na dwi'n poeni fod y fenter yn ceisio cerdded cyn cropian. Dwi wedi siarad efo nifer o bobl heddiw a mae'r farn wedi bod yn unfrydol. Efallai mai'r sylw mwyaf damniol oedd 'dydi o ddim hyd yn oed yn edrych fatha gwefan'. Oes posib gwneud ambell beth ar fyrder -

1. Sicrhau bod modd cyrraedd yn ol i'r hafan (un ffordd fyddai drwy glicio ar yr icon Golwg360),
2. Galluogi'r wefan i weithio gyda RSS
3. Gwneud yn siwr fod y wefan yn edrych yr un peth ar borwyr gwahanol. Mae'n edrych fel dau safle gwahanol ar Safari a Firefox. Ac ar Safari mae'r penawdau i gyd yn goch.
4. Sortio allan y lluniau - mae cymaint o luniau low res fel eu bod nhw'n edrych wedi eu dwyn o rhywle.

Dwi am ddyfalbarhau efo'r wefan achos dwi'n credu y gallai hwn fod yn adnodd gwych i'r Gymry Gymraeg (yng Nghymru a thu hwnt) ond dyw fy amynedd i ddim yn ddi-ddiwedd. A dwi'n rhedeg allan o wallt i'w dynnu allan mewn rhwystredigaeth a mi faswn i'n licio cadw'r hyn sydd gen i ar ol!!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan iolopjones » Gwe 15 Mai 2009 10:17 pm

Digon teg, Geraint. Mae pawb a'u barn am ddyluniaeth a hystwyth, felly wnai i ddim son mwy am hyn....

Dim ond un problem 'bach' sydd yn achosi y problemau technegol i gyd (a ddyliai hyn fod wedi ei ddatrys nawr, dros dro, feth bynnag..) - fe brofon yn helaeth ar sustem ddatblygu ac roedd a sustem fyw yn wahanol. Yn anffodus roedd hyn allan o'm rheolaeth ar sail gytundebau a wnaethwyd cyn i mi ymuno a'r tim....

Diolch am dy adborth a dy gefnogaeth...
iolopjones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Iau 27 Maw 2008 9:00 pm

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 16 Mai 2009 12:13 am

Diolch yn fawr am ymateb yma Iolo. Mae'r ffaith dy fod yn barod i ateb cwestiynau yma yn arwydd da iawn. Mae dal sawl peth i weld nad sy'n gweithio. E.e. fe wnes i geisio agor cyfrif i gychwyn is-wefan ar gyfer Cymdeithas yr Iaith, ond nid oedd modd cofrestru, ond gobeithio bydd y problemau yma yn cael eu datrys yn fuan.

Byddai ychwanegu adran tywydd yn ychwanegiad da hefyd. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan snuggles » Sad 16 Mai 2009 3:03 am

A
R
L
O
E
S
I

Rhywun o Plaid Cymru plîs - preferably Rhodri Glyn Thomas neu Adam "Arloesi" Price - i ddweud sut mae hyn yn well defnydd o arian cyhoeddus na Y Byd.
snuggles
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 8:29 pm

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Dr Strangelove » Sad 16 Mai 2009 7:45 am

Dewin a ddywedodd:Y sgandal mwya' yw'r llun a'r datganiad sy'n disgrifio'r lansiad: 4 hen ddyn sy'n gwybod dim am dechnoleg yn llongyfarch eu gilydd am osod Golwg360 ar sylfaen broffesiynnol.


:lol:
we'll never, never play the harp, and we'll stick like sick on the stars
Dr Strangelove
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 60
Ymunwyd: Gwe 19 Hyd 2007 9:13 am
Lleoliad: europe, america, winterland

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Sad 16 Mai 2009 8:23 am

Methu â chysylltu ag e o gwbl. Ydy'r safle lawr? Methu â chysylltu â golwg.com 'chwaith. Un peth arall sy'n fy mecso i yw'r adeiledd y ffolderi/htaccess. Mae'r cyfan yn y Saesneg. E.e. golwg.com/UI/News... Os oedd cwmni wedi cael eu talu i gynhyrchu'r wefan o'r cychwyn (heb ddefnyddio apps fel WP neu phpBB), pam ydy'r ffolderi neu 'rhithffolderi' yn ymddangos yn y Saesneg?

O ystyried sylwadau pawb uchod, dwi'n synnu bod cwmni sy wedi codi £20000 wedi creu cymaint o lanastr. Bydd yn rhaid bod 'track record' gan y cwmni, portffolio o wefannau cynt i'w harddangos eu harbenigedd. A oedd y cwmni wedi'i osod lan i ddelio â holl gofynion y brîff?

Mae ffontiau anghyson yn swnio fel adeiledd shodi iawn i mi, er posib bod y CMS mae tim golygu golwg yn ei ddefnyddio'n eu caniatau i ddfnyddio ffontiau o'u dewis.

Mae'r esboniad bod y safle wedi'i threualu ar weinydd gwahanol yn warthus. Dyle cwmni sydd wedi ennill £20000 o'r cynulliad (arian cyhoeddus felly) fod wedi adeiladu safle dymi ar y gweinydd go iawn i'w brofi'n gyntaf. Stim esgus am hyn. Os ydy gwefan yn mynd yn fyw ac yn shambls - ni fydd pobl yn hyderus ei fod o werth. Dyle Golwg hawlio'r arian (efallai'n rhannol) yn ôl. Yn fy marn i, nid yw £20000 yn llawer o arian i wario ar safle gyhoeddus gydag awch. Yn anffodus, mae e'n affach lot o arian i wario ar safle 'safonol' a fydde ond yn cyhoeddi storiau, fideo, rss ac ati. Fel cafodd ei ddweud mae WordPress (dwi 51% trwy ei gyfieithu ar hyn o bryd!) yn gwneud hyn i gyd ac mae'n rhad ac am ddim. Pwy bynnag (Iolo?) oedd y rheolwr prosiect - dylai gonsidro ei swydd. Anfaddeuadwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Sad 16 Mai 2009 9:30 am

Mae'n edrych yn debyg bod y wefan i lawr bore 'ma. Gobeithio y bydd pethe'n well pan ddaw nôl.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron