Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan bed123 » Sad 16 Mai 2009 10:01 am

Methu gweld dim ond 4 teitl ar top yr tudalen. Dwi'n gwydbod fod hi'n dyddiau cynnar ond bobl bach sut mae hyn mor gymaint of shambls?

Sut mae'r £200,000 wedi creu cymaint o lanastr?

Ddaru rwyn feddwl am brofi'n safle yn gyntaf y ffanfer mawr am ddoe?

Mae'n flin i mi ddweud oherwydd dwi isio y peth i lwyddo ond mae'r holl beth yn edrych yn amaturaidd iawn.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Creyr y Nos » Sad 16 Mai 2009 10:06 am

All rhywun esbonio pam nad yw'r wefan yn gadael i chi fynd nol at yr hafan o bob tudalen arall? Ar hyn o bryd, pan dwi'n mynd at 'Lle Pawb' er engrhaifft, dyw'r opsiynau o fynd nol at yr hafan, neu i fynd at newyddion neu be bynnag, ddim yn ymddangos.

Yn anffodus, ar hyn o bryd mae'r problemau technolegol yn atal unrhyw werthfawrogiad o'r cynnwys ei hunan, sy'n edrych yn ok.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Cardi Bach » Sad 16 Mai 2009 10:26 am

Ma fan hyn tamed bach fel powlen pysgodyn aur, a phawb am y gorau i gwyno.
Rhowch gyfle bobl.

Mae'n fenter newydd gyda lot o raglenni newydd sy'n treial cael eu creu o'r newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg i gystadlu gyda darparwyr newyddion sydd ag adnoddau anferthol, fel BBC NEWS.

Rwy'n derbyn fod nifer yn dal i fod yn ddug ynghylch Y Byd, ac y dylid fod wedi cael gwared o'r problemau yma cyn lawnsio, ond mae pethau fel hyn o hyd yn digwydd wrth lawnsio rhywbeth newydd, agor rhywle newydd, yn enwedig pan fo amserlen tynn yn cael ei osod gan yr arianwyr, a hynny oherwydd amgylchiadau gwleidyddol sydd ddim yn cyd fynd ag anghenion busnes preifat.

Byddai busnes preifat sydd yn rheoli gwariant ac amser y gwariant hwnnw byth yn lawnsio rhywbeth cyn eu bont 100% yn barod (ag eithrio digwyddiadau na ellir eu rhagweld), ond pan fo cyfyngder amser yn cael ei osod gan wleidyddion, yna mae pethau fel hyn yn digwydd. Nid esgus mo hyn, mond mod i wedi bod mewn sefyllfa cyffelyb ambell i waith ac yn cydymdeimlo a Chriw Golwg.

Mae beirniadaeth adeiladol o hyd yn fuddiol, ond mae llid a bytheirio am fethianau yn gynamserol. Dylid cadw ein llid tan ar ol 6 mis, gan roi cyfle i'r fenter ennill ei phlwy a phrofi ei hun yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Sad 16 Mai 2009 10:29 am

Creyr y Nos a ddywedodd:All rhywun esbonio pam nad yw'r wefan yn gadael i chi fynd nol at yr hafan o bob tudalen arall? Ar hyn o bryd, pan dwi'n mynd at 'Lle Pawb' er engrhaifft, dyw'r opsiynau o fynd nol at yr hafan, neu i fynd at newyddion neu be bynnag, ddim yn ymddangos.


Ray Diota a ddywedodd::
dwi'n dipyn o gretin ar y we a wy'n lico mynd nol i'r hafan yn weddol amal... dyw hynna ddim i'w weld yn bosib...?

Macsen a ddywedodd:Dyna un o'r problemau technegol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Boring iawn

Postiogan HuwJones » Sad 16 Mai 2009 10:43 am

Mae'r holl beth yn drist ofnadwy. Ar ol clywed am yr arian mawr oedd i fynd ar y brosiect roeddwn edrych ymlaen at rywbeth cyffroes a 'cutting edge' ar y we yn Gymraeg.

Gallai maddau nhw am eu system yn crasio ar y diwrnod cyntaf, mae hynny wedi digwydd i lwyth o wefannau yn cynnwys cwmniau mawrion. Mae unrhywun sydd wedi delio efo lansio system compiwters newydd yn gallu cydymdeimlo a chriw Golwg. Dwi'n siwr eu bod wedi gweithio'n wyllt i gael y peth ar-lein eto.

Y peth olaf dwisio gwneud y rhoi halen ar y briw.. eisiau cefnogi pethe Cymraeg ydwi..

ond sori.. nawr mae'r wefan i'w weld ...mae'r holl beth yn edrych fel rhwybeth o ddyddiau cyntaf y we.. fel oedd gwefannau 15 mlynnedd yn ôl cyn oes Flash/YouTube etc..

Pechod mawr. :(
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Josgin » Sad 16 Mai 2009 12:41 pm

Dwi'n sylwi nad oes neb yn son am y cynnwys , o ran pa mor ddiweddar yw'r newyddion , neu a oes agwedd wahanol i gymharu gyda gwefan y BBC ayb.
Dim pawb sy'n defnyddio'r we sy'n 'Geek' , cofiwch. Rhowch gyfle i'r bobl yma, da chi.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Duw » Sad 16 Mai 2009 1:37 pm

JEEEEEEEEZYS CREIST!

Dwi wedi cael golwg arno am y tro cyntaf. Shit. Sori pawb sy'n dweud pwyllwch, cefnogi'r Gymraeg a hwnna'i gyd.

Bolycs.

Shit yw shit, stim ots pa iaith mae e mewn.

Pwy ddiawl a wnaeth dylunio'r rwtsh na? Mae fy myfyrwyr dylunio gwe yn yr ysgol wedi cynhyrchu gwell. Os yw'r cynnwys yn ffantastig, caiff ei danseilio gan y mes ffiaidd a yw'r rhyngwyneb 'na.

A oedd rheolwyr Golwg wedi cymryd diddordeb byw mewn datblygiadau? Nid wrth edrych arno. Pwy sy'n gyfrifol am y gwastraff arian cyhoeddus?

//GOLYGU

OMG: wrth edrych ar y llananstr mewn 'source view' ar y porwr dwi wedi gweld bod rhannu o'r dudalen wedi'i chreu mewn Microsoft Word. Edrych fel bod y system ddim yn caniatau CMS dechau chwaith.

Mae e'n mess uffernol
Dyma snippit:
Cod: Dewis popeth
</noscript> <!-- End -  Site: Golwg360 Zone: BANER --></td>
        </tr>
    </tbody>
</table></html></span>
                   
</div>
                </div>

Ni fydde'r tudalen hon yn pasio unrhyw brawf safonol ar sut i gynhyrchu gwefannau. Anghreadadwy. Cywilyddus.

Fel mae'n digwydd:

Dyma'r blaendudalen:

Errors found while checking this document as XHTML 1.0 Transitional!
Result: 140 Errors, 1 warning(s)
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Creyr y Nos » Sad 16 Mai 2009 2:47 pm

Josgin a ddywedodd:Dwi'n sylwi nad oes neb yn son am y cynnwys , o ran pa mor ddiweddar yw'r newyddion , neu a oes agwedd wahanol i gymharu gyda gwefan y BBC ayb.
Dim pawb sy'n defnyddio'r we sy'n 'Geek' , cofiwch. Rhowch gyfle i'r bobl yma, da chi.


Creyr y Nos a ddywedodd:
Yn anffodus, ar hyn o bryd mae'r problemau technolegol yn atal unrhyw werthfawrogiad o'r cynnwys ei hunan, sy'n edrych yn ok.


Dwi'n cytuno i raddau gyda ti Josgin, - mae'r cynnwys yn edrych yn ddiddorol. Mae mwy o elfen ryngwladol arno na gwefan BBC Cymru, ac mae'r syniad o Lle Pawb yn ddiddorol. Yn anffodus mae'n anodd ei werthfawrogi ar hyn o bryd oherwydd bod hi'n anodd symud o un elfen i'r llall. Gobeithio y gwnaiff hyn gael ei sortio'n fuan, - wedyn allwn ni fwynhau'r wefan yn llawn. Mae'r dyluniad yn fater arall - mater o farn a chwaeth unigol falle.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Macsen » Sad 16 Mai 2009 3:36 pm

Dw i wedi bod yn cael cwpwl o awgrymiadau drwyodd ynglyn a sut i wella'r wefan ac ati ond yn anffodus mae nifer ohonyn nhw'n deillio o ganlyniad i broblemau technegol yn hytrach na penderfyniadau bwriadol gan y bobol oedd yn gyfrifol am y wefan. Dwi'n gwybod hyn o fod wedi defnyddio'r hen wefan cyn y lansio ac ati.

Yn gyntaf, mae yna linc i fod i'r Hafan ar bob tudalen a mae clicio ar y logo Golwg 360 hefyd i fod i fynd a chi nol yno. Os ydi'r Hafan yn diflannu, problem technegol sy'n gyfrifol.

Dylai'r rhestr o adrannau ymddangos ar bob tudalen hefyd, hydynoed Lle Pawb ac ati. Os mae'n diflannu y probelmau technegol melltith sy'n gyfrifol.

Dyw'r ffont ddim i fod i droi yn lliwiau amrywiol a diddorol fel coch a glas ac ati.

Dylai'r hysbysebion na sy'n awgrymu i chi gysylltu gyda ni gynnwys linc i'n e-bost.

Mae llun anferth o Chris Bryant sydd ar yr hafan ar y funud yno'n bwrpasol. :P

Dwi'n deall eu bod nhw'n cael eu trwsio felly gobeithio bydd pethau'n edrych yn well yn reit fuan. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dafydd » Sad 16 Mai 2009 3:57 pm

Dwi'n postio am y tro cynta ers sbel fawr ar maes-e i ymateb i hwn, ac yn anffodus mae gen nifer fawr o gwestiynau:

iolopjones a ddywedodd:Y ffaith ydi nad oes un ceiniog o'r £200k, na'r £600k wedi mynd ar y dechnoleg. Noddiant cwmnïau masnachol fel Golwg Cyf, Tinopolis, Telesgop a fy nghwmni i, TV Everywhere, sydd wedi bod yn talu am ddatblygu'r dechnoleg. Aeth y grant ar newyddiadurwyr.


Pam a phwy benderfynodd hyn? Ti ddim yn meddwl fod hyn yn gamgymeriad dychrynllyd ar gyfer busnes masnachol? Oedd yna gymalau yn y cais am y grant yn golygu nad oedd unrhyw arian i'w wario ar ddatblygu'r wefan? Ydi'r cynulliad wedi creu eliffant gwyn gyda £600,000 o arian cyhoeddus? Pam ei fod wedi cymeryd blwyddyn i gael y wefan i'w sefyllfa presennol? Ydi e'n cael ei wneud yn amser sbar datblygwyr Tinopolis? Pam nad yw'r gwaith cael ei drin fel unrhyw wefan arall sy'n derbyn arian y Cynulliad (dwi'n gyfarwydd iawn a datblygu gwefannau o'r fath a'r broses sy'n cael ei ddilyn).

Fel gŵr busnes dwi'n siwr dy fod yn sylweddoli fod angen denu cymaint o ddefnyddwyr a phosib i wefan er mwyn denu hysbysebwyr heb sôn am gyfiawnhau yr arian cyhoeddus. Roedd angen creu gwefan glân, syml, deniadol a mae digon o dalent yng Nghymru i wneud hynny.

iolopjones a ddywedodd:Hyd y gwn i, nid oes prosiect arall yn y byd yn defnyddio AJAX ac yn caniatáu defnyddwyr i adeiladu (pan mae'n gweithio, wrth gwrs) eu gwefan newyddion eu hunain a chyfrannu yn y modd yma. A dyma ond ddechrau..


Dwi wedi gweld syniadau tebyg ar nifer o wefannau. Beth yw'r pwynt defnyddio technoleg pan nad yw'n gweithio? Dim ond er mwyn ymffrostio eich bod wedi gwneud rhywbeth gyda AJAX? Os nad oes ganddoch chi unrhyw arian i'w ddatblygu, pam cymlethu pethe? Pam ddim cadw pethe yn syml nes i chi brofi fod cynulleidfa a felly yn gallu neilltuo arian i ddatblygiad pellach? Wnaethoch chi unrhyw ymchwil i'r farchnad? Ydych chi'n sylweddoli nad fyddai 95% o ddefnyddwyr cyffredin eisiau nac yn defnyddio technoleg o'r fath am ei fod yn rhy gymleth?

Wnes i brofi'r wefan gyda fy nhad (sy'n darllen gwefannau newyddion BBC/Guardian/Times/Telegraph bob dydd heb drafferth). Doedd e ddim yn deall y pwynt o addasu'r hyn sy'n cael ei ddangos nac yn deall sut i wneud. Pam ddim caniatau pobl i deipio eu côd post neu enw tref i fewn i flwch (fel gwefan tywydd BBC) a dangos newyddion lleol yn seiliedig ar hynny?

iolopjones a ddywedodd:Fy aneliad personol oedd adeiladu rhywbeth allwn ni Gymru fod yn falch ag e o ran dechnoleg, ochr yn ochr a gwefannau y BBC, CNN a'r NYT, gyda eu hadnoddau di-ri.


Mae'n siwr dy fod ti'n gyfarwydd a'r egwyddor KISS - keep it simple stupid. Os nad oes ganddoch chi adnoddau y BBC a CNN, pam trio cystadlu? Gwnewch rhywbeth syml sy'n gweithio ac adeiladwch ar hynny. Mae e braidd yn ffuantus cwyno am ddiffyg cyllid. Gofynna i unrhyw ddatblygwr gwe gwerth ei halen a fe allen nhw fod wedi creu gwefan llawer gwell am ychydig bach o arian ac o fewn ychydig fisoedd. Dwi'n gwneud hynny drwy'r amser ar gyfer cwmnïau bach yng Nghymru sydd a chyllid pitw. Mi fase wedi bod yn syniad defnyddio CMS oddi ar y silff er mwyn cael sylfaen cadarn i weithio arno.

Dwi'n siwr fod tîm Golwg wedi ymroddi'n llwyr i greu tîm newyddiadurol cryf fydd yn gystadleuaeth go-iawn i wasanaethau BBC Cymru a Trinity Mirror. Mae'n biti felly fod eu gwaith wedi ei lesteirio gan ddiffyg arbenigedd a phrofiad o adeiladu gwefan syml, effeithiol a hawdd i'w ddarllen.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron