Wi’n cytuno â Sian taw cystrawen y Gymraeg yw’r peth pwysicaf un; pan fo ysgrifenwyr yn mynd yn erbyn symledd teithi’r iaith, wedyn ma’ erthygl papur newydd ne’ beth bynnag yn mynd yn fwrn i’w ddarllen.
O ran geirfa, sdim esgus iwso geiria fel fflio ayb yn Golwg360 pan fo’r wefan i fod yn wefan o newyddion Cymru a’r byd. Wi’m yn erbyn rhai geiriau Saesneg fel lico er bo gas da fi fflio ond mater o gywair a thast yw hi ac ma’n iawn defnyddio’r geiriau hynny mewn pethach anffurfiol fel blogs, negeseuon maes –e, facebook ayb ond nid yn Golwg360 sydd i fod y peth gora gewn ni yn lle papur safonol Cymraeg. Fel mae Hogyn yn gweud, dyw’r Cymry ddim mor dwp a ‘ny ac mae nhw’n deall geiriau creiddiol y Gymraeg fel hedfan, hoffi ac ati.
A gwed y gwir, ma’n gas da fi bobol sy’n gweud bod eu Cymrag nhw’n shit a bod nhw ddim yn diall hyn a hyn – chlywid di byth mo’r Sais yn gweud hynny biti ei Synag ots pwy mor wael mae’n digwdd bod mewn gwirionadd. Ma’r dwli ‘ma i weld yn ddwfwn yn enaid y Cymro.
Tebyg yw’r bobol sy’n brolio bod nhw’n deall y nesa peth i ddim biti compiwtars. Pam bod yn browd o hynny, gwed?