Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 24 Meh 2009 1:25 pm

Pethe'n mynd o ddrwg i waeth! :ofn: Ydy hyn yn golygu fod Golwg wedi bod yn dweud celwydd ynglyn a'r ffordd cafodd arian cyhoeddus ei wario?

Golwg360: £25,000 i TV Everywhere:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 116326.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360

Postiogan Duw » Mer 24 Meh 2009 5:55 pm

Diolch am y bwytwr-briwsion Daf, llawer yn haws na'r ffordd hir-wyntog 'gan law' a roddais i. Yn anffodus mae pethe rhyfedd iawn yn digwydd 'da fi - anghysondeb y wybodaeth a ddengys (nid bai'r sgript - hwn yn clirio'n iawn - jest G360!). Ceillie iddynt - dyna wir y tro ola dwi'n mentro 'na.

Ger llaw pam ydyn nhw wedi tynnu'r cyfeiriad e-bost amlwg i ffwrdd o'r safle? Wedi cael digon o adborth erbyn hyn efallai?

Efallai'r ffordd orau i hala neges glir i g360 yw i gadw draw. Unwaith i'w 'hits' ddisgyn i bron dim, efallai bydd pwysau arnynt i wneud rhywbeth ac i wario arian arni. Rwyn sicr na fydd yr hysbysebwyr am adnewyddu'u tanysgrifiadau wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Golwg360

Postiogan bed123 » Mer 24 Meh 2009 7:26 pm

Helo, diolch am yr help, mae'r safle yn gweithio rwan or diwedd,
diolch eto
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Golwg360

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 27 Meh 2009 10:23 pm

Mae'r Cyngor Llyfrau yn datgelu'n flynyddol faint o ddarllenwyr (neu o leiaf gylchrediad) sydd gan yr holl gyhoeddiadau eraill maen nhw'n noddi megis Barn, Taliesyn, Cristion etc... felly maen naturiol y cawn ni wybod maes o law beth fydd ystadegau Golwg360.

Mi fydd, mi dybiaf yn dra uchel i gymharu a gwefannau eraill Cymraeg maen rhaid, ond faint uwch na'r blogiau Cymraeg mwyaf blaenllaw ag ystyried fod y blogiau hynny yn cael dim nawdd gyhoeddus? Bydd yn ddiddorol hefyd cymharu unique hits wythnosol Golwg360 gyda chylchrediad y cylchgrawn wythnosol. Dwi'n meddwl fod cylchrediad Golwg tua 4,000 (cywirwch fi plis) ac felly i gystadlu a hynny byddai angen i'r wefan gael dros 550 o unique hits 7 diwrnod yr wythnos (tua pum gwaith maint unique hits cyfartalog fy mlog i). Mae cael mwy i ddarllen y wefan nag sydd yn darllen y cylchgrawn yn darged weddol hawdd rwy'n cymryd.

Bydd yn ddiddorol gweld yr ystadegau ar ol 6 mis.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 27 Meh 2009 10:41 pm

Beth yw 'Unique Hits'? Google Analytics dwi'n defnyddio ar gyfer cael ystadegau maes-e. Dyma'r ffigyrau ar gyfer Mis Mai e.e.

18,231 Visits
6,940 Absolute Unique Visitors
95,781 Pageviews
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360

Postiogan Jon Sais » Sul 28 Meh 2009 8:54 am

Unwaith eto yr ydw i wedi bod yn cael trafferth cael mynediad i'r safle Golwg360, yr ydw i wedi clirio'r cookies i gyd ond does dim gwahaniaeth. Mi fydda i'n cadw draw bellach ac yn sticio at safle newyddion y BBC.
Pob hwyl :rolio:
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: Golwg360

Postiogan Kez » Sul 28 Meh 2009 12:48 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Beth yw 'Unique Hits'? Google Analytics dwi'n defnyddio ar gyfer cael ystadegau maes-e. Dyma'r ffigyrau ar gyfer Mis Mai e.e.

18,231 Visits
6,940 Absolute Unique Visitors
95,781 Pageviews


Fi'n credu bod 'unique hits' yn cyfrif person sy'n ymweld a gwefen unwaith yn unig, hyd yn oed os ydynt yn ymweld a'r un wefan un, dau ne gant o weithiau mewn diwrnod. Falla bo nhw'n cyfrif un ymweliad off IPS y cyfrifiadur ma dyn yn iwso.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Golwg360

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 03 Gor 2009 2:51 pm

"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360

Postiogan Ray Diota » Gwe 03 Gor 2009 4:02 pm

llai plis: "Er nad yw Ramsey ddim wedi cael cymaint â hynny o gyfleoedd "
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360

Postiogan sian » Gwe 03 Gor 2009 4:30 pm

Ydi'r make-over lime green yn fwriadol?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai