Prysor a ddywedodd:Duwcs yndi, lot gwell chwarae teg. Mi ddatblygith petha fel ffontia a ballu yn naturiol rwan. Dim ond drwy drio all unrhyw un weld ynde.
Mae dipyn o rwtshi-rwtsh yno nawr ers yr ailwampio - lluniau ar ben sgrifen a sgrifen mewn llefydd na ddylai sgrifen fod.
Prysor a ddywedodd:Dal i weld yr erthyglau'n fyr a braidd yn ddisylwedd, a'r 'features' am y celfyddydau etc jysd yn grynodeb o'r stori, efo troednodyn yn eich annog i ddarllen y stori lawn yn y cylchgrawn Golwg. Dwi'n siwr na roddwyd arian cyhoeddus i sefydlu gwefan hybu gwerthiant menter fasnachol sydd eisoes yn bodoli. Sefydlu gwasanaeth newyddion Cymraeg newydd oedd o i fod, shwrli?
Ie, o'n i'n disgwyl rhywbeth lot mwy cyffrous - straeon newyddion difyr sy ddim i'w gweld ar y BBC a lot mwy o 'golofnau' a rhyngweithio. Bosib y daw hynny wrth iddyn nhw ddatrys eu problemau.
Prysor a ddywedodd:Ac ers pryd mae 'diagnosio' yn air Cymraeg?
1932 yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.