dafydd a ddywedodd:Fe fyddai arddull y testun i gyd yn cael ei reoli mewn un man.. yn y CSS.
Clyw Clyw. Hoffwn wybod pa flas o CMS mae'r safle'n defnyddio. Mae cymaint o rai da mas 'na. Dwi wedi galw amdano o'r blaen, ond eto - dyali'r safle gael ei ail-adeiladu o'r cychwyn. Allai fentro nid yw'r hyn mae Golwg am ei gynhyrchu'n anodd iawn - bydde hyd yn oed fersiwn o WordPress neu TextPattern yn gallu cyflawni hyn.
Dwi wedi creu sawl CMS fy hun ac yn gwybod yn iawn bod angen ache o amser i'w profi er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir. Mae defnyddio rhywbeth fel TP/WP ac ati'n angenrheidiol os ond cannoedd sydd gan gwmni i wario.
O be dwi'n gallu gweld mae'r safle wedi'i greu allan o bits'n'bobs wedi'u coblo at ei gilydd. Gall Tinopolis wario misoedd yn trio patsio'r peth neu galle rhywun fel Dafydd greu safle ardderchog sy'n ticio'r holl bocsys mewn cwpwl o ddiwrnode. Ble 'di'r sens? Balchder?
All unrhyw un argymell G360 fel adnodd newyddion arlein da ar hyn o bryd? Yn sicr mae parhau gyda'r nonsens 'ma'n niweidio enw da (os oes enw da dal yn bodoli) Golwg.