Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 30 Ebr 2009 8:22 am

Dyna'r enw newydd fydd ar wefan newyddion (h.y. y £200,000) newydd golwg. Mae'n swnio'n ddiddorol iawn. Am y tro 1af bydd gyda ni newyddion o Gymru A'R BYD yn Gymraeg ar y we! Gobeithio bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson, a bod y wefan nid yn unig yn ail adrodd straeon ffynonellau eraill ond yn gwneud bach o waith newyddiadurol ymchwiliol. Mae wir angen hyn arno ni yng Nghymru.

Mae'r elfen o rhyngweithioldeb hefyd yn un diddorol, gyda'r opsiwn i fudiadau, grwpiau, cylchoedd, bandiau ayb greu is-wefannau yn rhada c am ddim.

Disgwyl 'mlaen i'r lansiad ar y 15fed o Fai.

Hwn fydd y cyfeiriad mwy na thebyg - http://www.golwg360.com/

golwg360.jpg
golwg360.jpg (27.14 KiB) Dangoswyd 14678 o weithiau


Mae cloc ar wefan Golwg yn cyfri lawr tan y dyddiad - http://www.golwg.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 14 Mai 2009 6:05 pm

Bydd hwn yn fyw am 12 o'r gloch heno felly???
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 14 Mai 2009 11:05 pm

Mae screenshots gan http://www.metastwnsh.com

Delwedd

Delwedd

Mae fod i fynd yn fyw am 9am bore fory. Dyma beth sydd gan Dafydd Tomos i ddweud ar metastwnsh:

Blwyddyn o waith datblygu a degau o filoedd yn ddiweddarach a dyw e ddim yn edrych fel petai unrhyw ddylunydd wedi bod yn agos at y wefan yma. Gewn ni weld beth yw safon y newyddiaduraeth ond o berspectif datblygu gwefannau mae’r wefan yma yn mynd a ni nôl i oes yr arth a’r blaidd.


Dyma'r ddolen - http://www.golwg360.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 15 Mai 2009 8:34 am

Be chi'n meddwl te?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Gwe 15 Mai 2009 10:36 am

Rhywun arall yn cael trafferth â hwn?
Roedd e'n iawn bore 'ma.

Methu mynd i'r hafan nawr.
Stribyn yn dweud :
Celf | Celf Gweledol | Criced | Gwleidyddiaeth | Rygbi |
a dyna'i gyd!
Dw i'n gallu mynd i'r straeon unigol o hwnnw ond dim nol i'r Hafan.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Gwe 15 Mai 2009 11:20 am

Mae'n gweithio'n well ar Firefox nag ar Safari ond dwi'n dal yn methu mynd i'r Hafan - hyd yn oed trwy roi'r cyfeiriad yn y bar ar dop y sgrin.
Dwi mod yn cael newyddion Cymru (heblaw am y Pab) nawr a Newyddion a Calendr ar y top
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan llygoden fach lwyd » Gwe 15 Mai 2009 12:00 pm

Di bod yn cael yr un broblem - hefyd does dim adran pennawdau newyddion hyd y gwela i, dim ond adrannau pwnc penodol
Rhithffurf defnyddiwr
llygoden fach lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 51
Ymunwyd: Llun 08 Tach 2004 8:09 pm
Lleoliad: yn y wal

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 15 Mai 2009 12:05 pm

Dwi'm isio rhoi dampnar ar bethau ond oes rhywun arall yn meddwl bod ymddangosiad y wefan yn edrych yn, wel, amaturaidd? :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Gwe 15 Mai 2009 12:10 pm

A dw i wedi methu cofrestru.
Ac ar yr adegau prin dwi'n gallu mynd i'r Hafan mae'r fideo felltith 'na'n dechrau chware heb i mi ofyn iddo.
A does dim ffordd i weld o gysylltu â nhw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 15 Mai 2009 12:16 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'm isio rhoi dampnar ar bethau ond oes rhywun arall yn meddwl bod ymddangosiad y wefan yn edrych yn, wel, amaturaidd? :?

Wedi disgwyl gwell Byd Cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron