Cardi Bach a ddywedodd:Mae'n fenter newydd gyda lot o raglenni newydd sy'n treial cael eu creu o'r newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg i gystadlu gyda darparwyr newyddion sydd ag adnoddau anferthol, fel BBC NEWS.
Dwi'n cydweld gyda ti i raddau Cardi OND yn anffodus mae'r gwallau a phroblemau mor sylfaenol yn yr achos yma, mae'n amhosib peidio bod yn negyddol. Fel wnes i nodi yn gynharach, doeddwn i ddim am fod yn negyddol o gwbwl, ac mae'r cynnwys i'w weld yn dda, ond beth yw'r pwynt cael cynnwys da os nad wyt ti'n gallu cael mynediad at y cynnwys gan fod y wefan wedi ei adeiladu (yn dechnegol) mor wael! Wir i ti, mae'r ffordd mae wedi cael ei adeiladu mor amhroffesiynol, mae'n anghredadwy i ddweud y gwir.
Cardi Bach a ddywedodd:Rwy'n derbyn fod nifer yn dal i fod yn ddug ynghylch Y Byd
Does gan y feirniadaeth ddim oll i wneud a'r Byd.
Cardi Bach a ddywedodd:ac y dylid fod wedi cael gwared o'r problemau yma cyn lawnsio, ond mae pethau fel hyn o hyd yn digwydd wrth lawnsio rhywbeth newydd, agor rhywle newydd, yn enwedig pan fo amserlen tynn yn cael ei osod gan yr arianwyr, a hynny oherwydd amgylchiadau gwleidyddol sydd ddim yn cyd fynd ag anghenion busnes preifat.
Mae'r materion technegol mae Macsen wedi son amdanynt yn broblem, a ti'n iawn i nodi fod pethe fel hyn yn gallu codi. Ond mae'r mwyafrif helaeth o gwynion yma yn ymwneud a'r modd sylfaenol y mae'r wefan wedi cael ei adeiladu. Hyd yn oed pe byddai'r wefan yn gweithio yn union fel roedd i fod i weithio, byddai dal yn edrych fel rhywbeth o ddiwedd y 90au, a dal yn llawn gwallau sylfaenol.
Cardi Bach a ddywedodd:Byddai busnes preifat sydd yn rheoli gwariant ac amser y gwariant hwnnw byth yn lawnsio rhywbeth cyn eu bont 100% yn barod (ag eithrio digwyddiadau na ellir eu rhagweld), ond pan fo cyfyngder amser yn cael ei osod gan wleidyddion, yna mae pethau fel hyn yn digwydd. Nid esgus mo hyn, mond mod i wedi bod mewn sefyllfa cyffelyb ambell i waith ac yn cydymdeimlo a Chriw Golwg.
Sori Cardi, ond mae 12 mis yn HEN ddigon o amser i adeiladu gwefan safonol o'r math yma. Byddai nifer o aelodau maes-e wedi gallu adeiladu gwefan llawer, llawer gwell na hwn o fewn ychydig fisoedd.
Cardi Bach a ddywedodd:Mae beirniadaeth adeiladol o hyd yn fuddiol, ond mae llid a bytheirio am fethianau yn gynamserol. Dylid cadw ein llid tan ar ol 6 mis, gan roi cyfle i'r fenter ennill ei phlwy a phrofi ei hun yn iawn.
Anghytuno'n llwyr. Mae'n ddyletswydd arnom ni i nodi'r methiannau technegol sylfaenol, a hynny'n syth, fel eu bod yn cael eu cywiro cyn gynted a phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried fod £600,000 o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y prosiect yma. Nid mater o farn, na chwaeth bersonol yw hyn, ond yn hytrach methiannau sylfaenol yn y ffordd mae'r wefan wedi cael ei adeiladu.
Fydde ti'n hapus talu £200,000 i adeiladwr pe byddai dy dŷ yn edrych fel hyn ar y diwedd?