gan iolopjones » Gwe 15 Mai 2009 7:33 pm
Dyma fi'n rhoi'n llaw i fyny. Fy mai i yw 'cachu360' (da iawn, bois!) - mae'n derm dwi'n ei haeddu heddiw - ond dwi'n gobeithio fydd y prosiect yn ychydig mwy o Deflon (h.y. non-stick).
Ac yn sicr nid yw'n rywbeth mae tim Golwg, sydd wedi mentro llawer mwy na mae neb yn gwybod ar y fenter hon, yn gyfrifol amdan.
Peidiwch a barnu ymgais i wneud gwahaniaeth mawr ar sail y dechnoleg yma, fydd wedi ei sortio yn o fuan.
Y tristwch mwyaf i mi yw darllen y brwdfrydedd ar ben y post yma yn troi - yn digon deg - i fod yn feirniadaeth hallt ar ei waelod. Y ffaith ydi nad oes un ceiniog o'r £200k, na'r £600k wedi mynd ar y dechnoleg. Noddiant cwmnïau masnachol fel Golwg Cyf, Tinopolis, Telesgop a fy nghwmni i, TV Everywhere, sydd wedi bod yn talu am ddatblygu'r dechnoleg. Aeth y grant ar newyddiadurwyr.
Ac dydi o ddim yn brosiect ysgol.
Hyd y gwn i, nid oes prosiect arall yn y byd yn defnyddio AJAX ac yn caniatáu defnyddwyr i adeiladu (pan mae'n gweithio, wrth gwrs) eu gwefan newyddion eu hunain a chyfrannu yn y modd yma. A dyma ond ddechrau..
Fy aneliad personol oedd adeiladu rhywbeth allwn ni Gymru fod yn falch ag e o ran dechnoleg, ochr yn ochr a gwefannau y BBC, CNN a'r NYT, gyda eu hadnoddau di-ri. Duw a wŷr faint o'u £400,000,000 mae'r BBC yn gwario ar /cymru ond rhaid cofio fod y rhan helaeth o'n newyddion yn dod o Loegr ac yn cael ei gyfieithu yng Nghaerdydd ar sail treth ar bob un ohonom, fwy neu lai.
Ond, da'chi’n iawn. Heddiw, fe wnes i fethu yn fy aneliad a gadael tim Golwg i lawr.
Yfory fe awn ati eto...
O ddifri, ac o galon, diolch am eich diddordeb, eich barn, a'ch cyfraniad. Mae'n cadw'r pwysau arnom i wneud yn well. Fel cymuned wnawn wahaniaeth i esblygiad ein diwylliant ac mae'r 'printout' o 'cachu360' yn mynd ar fy wal i’m hatgoffa o’r dyletswydd yma.