Dyma fi'n gweld heddiw, a gwnes i ddileu y briwsion ddoe!
- golwg555.jpg (43.93 KiB) Dangoswyd 5576 o weithiau
Pam nad yw Golwg360 wedi medru datrys hyn ar ol rhyw 5 wythnos? Meddyliwch am y miloedd o Gymry Cymraeg sydd ddim yn deall beth yw briwsion/cookies (ac sydd ddim yn aelodau maes-e!), ac sydd wedi gweld sgrin wen yn unig o'r dechre. A fydd y rhain yn dychwelyd? Anhebygol iawn. Mae'n dechre troi yn ffars.
Dyle nhw wedi tynnu'r wefan yn syth ar ol gweld y shambls, a gwario cwpwl o filoedd i gael gwefan deche wedi ei adeiladu, ac ail-lansio. Does dim pwynt gwario ar y wefan sydd yno ar hyn o bryd, byddai'n wastraff arian. Haws dechre o'r dechre...