Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 01 Mai 2009 3:50 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Gweithiwr yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn Morrisons

Mae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.

Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr. Ddoe, fe benderfynodd Mr Evans na allai ddioddef y sefyllfa ymhellach a gadawodd ei swydd.


Gweddill y stori yma...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Josgin » Sad 02 Mai 2009 9:19 am

O nabod agwedd pobl Caergybi at y Gymraeg, mae'n siwr mai ceisio diogelu bywyd y gweithiwr oedd rheolwr Morrisons ! .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 03 Mai 2009 9:55 am

Dyma dipyn o "Bolisi Iaith Morrison's":-
Morrison's a ddywedodd:Polisi Iaith Gymraeg -Tachwedd 2008

Cyflwyniad
Mae Morrisons yn falch o gyflawni gwerthiannau gwych a gwasanaeth gwych. Y mae’n un o’n gwerthoedd craidd.

I’n cwsmeriaid a’n staff yn ein siopau yng Nghymru, mae hyn yn golygu gwneud cymaint ag sy’n bosib i gyfathrebu’n ddwyieithog- yn Gymraeg a Saesneg.

Ac mae'r ddogfen gyfan am weld yn:-
http://www.morrisons.co.uk/Corporate/About-Morrisons/Polisi-Iaith-Gymraeg--Tachwedd-2008/
Ymddengys na wyr rheolydd storfa Caergybi am hyn. Neu ai geiriau yn unig heb sylfaen, heb eisiau gweithredu, a geir yma?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 03 Mai 2009 10:17 am

Does na ddim cyfeiriad ebost (neu hyd yn oed ffurflen adborth) i'w gael ar wefan Morrison's, ond rwi'n credu mod i wedi dod o hyd i un, sef:-
customerservice@morrisons.co.uk
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 05 Mai 2009 6:29 pm

Ma hwn wir yn warthus, er bod Morrisons yn trio rhoi rhyw sbin arni. Y gwir amdani, o'r hyn dwi'n deall, yw mai sgwrs rhwng 2 weithiwr oedd hwn, a nad oedd y rheolwr (di-Gymraeg) yhn rhan o'r sgwrs o gwbwl a dim ond yn digwydd pasio ar y pryd. :drwg:

Roedd yn y Daily Post ddoe, ond neb arall wedi rhedeg y stori:
http://www.dailypost.co.uk/news/north-w ... -23533901/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 05 Mai 2009 8:12 pm

Dyma beth ddanfonais i at Forrison's:-
Morrison’s,
An t-Ath Leathann, 05/05/2009
Yorkshire
Dear Mr. Morrison,
Use of Languages in Stores
I note, from your web site, the following:-
Polisi Iaith Gymraeg -Tachwedd 2008
Cyflwyniad
Mae Morrisons yn falch o gyflawni gwerthiannau gwych a gwasanaeth gwych. Y mae’n un o’n gwerthoedd craidd.
I’n cwsmeriaid a’n staff yn ein siopau yng Nghymru, mae hyn yn golygu gwneud cymaint ag sy’n bosib i gyfathrebu’n ddwyieithog- yn Gymraeg a Saesneg.
This would appear to say “Morrison’s is proud to offer great merchandise and great service. It’s one of our core values.
To our customers and our staff in our shops in Wales, this means making as much as possible of communicating bilingually in Welsh and English”.
This is very good, and I was wondering if you could tell me how it works out in practice. For instance, if I were in one of your shops in Wales, would I see bilingual signage and would I get my serving in Welsh? Or, let’s say. If I worked in one of your Welsh shops and came across other Welsh speakers who did, I take it there would be nothing stopping us from speaking to each other in Welsh while working?
However, I was a little disappointed with your web site. While it has a partially-translated section called “Cymraeg”, there seems to be no such section for any other language. For instance, do you offer service in languages such as Cantonese, Panjabi or Bengali where there is a community of such speech? Or, indeed, do you offer anything in Gaelic in your Scottish stores? I must confess to not having noticed any where I stay, near Glenrothes. But maybe it is something you do further north or west – please let me know. Bear in mind, for instance, that both Perthshire and Stirlingshire have schools offering education through the medium of Gaelic, so there is a demand.
Dùrachdan,
(by email)
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Shon » Gwe 08 Mai 2009 12:44 pm

Mi oedd fy nai yn gweithio i Morrisons yng Nghaernarfon ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddudodd o stori tebyg iawn i hyn. Mi oedd cwpl o'i gydweithwyr wedi eu dwrdio am siarad Cymraeg gyda'i gilydd...ond yn ei ôl o oedd un wedi chwerthin mewn syndod ar y ffrae, tra oedd y llall wedi dweud wrth y rheolwr yn berffaith glen (drwy'r Saesneg) os fasa fo'n cael bygythiad felna eto yn y dyfodol 'sa fo'n ei dagu o, wedyn cerdded allan a mynd i'r papurau newydd i egluro pam!

...cafodd nhw ddim trafferth ar ôl hynny am ryw reswm!!
Shon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 26 Medi 2008 10:11 am

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 08 Mai 2009 2:38 pm

Er gwybodaeth:

cymdeithas.org a ddywedodd:Dirprwy Brif-Weinidog yn cefnogi dyn a gafodd ei wahardd rhag siarad Cymraeg ym Morrisons

Mae Ieuan Wyn Jones AC wedi rhoi ei gefnogaeth i ddyn a gafodd ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn ei waith ym Morrisons Caergybi. Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced yfory am 12pm tu allan i'r siop yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg.

Mae Mr David Evans, sydd bellach wedi gadael ei swydd oherwydd na allai ddioddef y sefyllfa rhagor, wedi cysylltu â'i undeb sef 'Union of Shop and Distributive and Allied Workers' ac maen nhw'n cynnal ymchwiliad i'r mater ar ei ran.

Dywedodd Osian Jones, Swyddog Maes y Gogledd (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg):

"Mae'n gwbl sarhaus fod Morrisons yn amddifadu eu staff rhag eu hawliau dynol. Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth greu mesur iaith fydd yn cynnwys yr hawl i weithwyr weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu bydd achosion fel hyn o rwystro'r Gymraeg yn codi eto."

"Galwn ar y Llywodraeth i drosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg i Gymru fel bydd y Llywodraeth yn gallu amddiffyn urddas unigolion fel David Evans yn y gweithle."


Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Rali Fawr yng Nghaerdydd ar Fai 16eg yn galw am drosglwyddo pwerau deddfu llawn dros y Gymraeg o San Steffan i Gaerdydd, ac yn siarad bydd Adam Price AS, Angharad Mair (Wedi 7), Hywel Teifi Edwards a Catrin Dafydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Morrisons Caergybi yn atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 09 Mai 2009 9:04 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai