CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Gwe 01 Mai 2009 9:25 pm

'Dwi'n isda 4 pwnc AS ar hyn o bryd, drwy gyfrwng cwbl Gymraeg, mewn ysgol Gymraeg, ac wedi cwblhau cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg erioed (heblaw Saesneg, yn amlwg) ar fwrdd arholi CBAC.

Fodd bynnag, sefais i arholiad perfformio Cerddoriaeth MU1 yn gynharach yr wythnos hyn, a oedd yn cael ei gynnal drwy wneud perfformiad o flaen arholwr allanol, a'i recordio â thap er mwyn dibenion safoni. Cyn cychwyn yr arholiad "ffurfiol", cefais sgwrs ysgafn yng Nghymraeg â'r arholwr cyn mynd ymlaen i baratoi i berfformio, a dechrau'r tâp. Ond wedyn ge'sh i sioc - trodd i'r Saesneg mwya sydyn, a chario mlaen â defnyddio'r Saesneg drwy gydol yr arholiad. Y rheswm pitw am hyn, esboniodd, oedd nad oedd aelod o'r bwrdd safoni yng Nghaerdydd yn medru'r Gymraeg - o ganlyniad bu'n rhaid defnyddio'r Saesneg.

Dwi ddim yn deall pam ddiawl bod angan troi i'r Saesneg pan fod yr arholwr yn hollol rugl Gymraeg, â'r arholiad perfformio TGAU llynedd wedi'i gynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd! Yn amlwg, do'n i'm yn rhy hapus, a 'di neud i rywfaint yn anghyfforddus, â hynny. Pam na allen nhw ddim darparu cyfieithydd ar y bwrdd safoni er mwyn deallusrwydd yr unig un di-gymraeg yma?

Os 'na rywun ar y maes fanyn di cal profiad tebyg efo ryw arholiad CBAC (neu fwrdd arall) lle ma'r adnoddau wedi bod trwy gyfrwng y Saesneg pan ddyle nhw fod yn Gymraeg yn ddi-amod?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Duw » Gwe 01 Mai 2009 10:36 pm

Mae hwnna'n warthus. Fel cyn-Pennaeth Chweched, dwi erioed wedi clywed am y fath beth. Dylai Pennaeth Cerddoriaeth hala cwyn cryf dros ben i CBAC. Mae'r ysgol yn talu ffortwn i CBAC pob blwyddyn am y 'fraint' o sefyll eu haroliadau. I mi mae CBAC wedi torri ysbryd y cytundeb gan gynnig gwasanaeth israddol.

Yn anffodus, mae ffeindio 'pobl o safon' sy'n foldon arholi/safoni/cymedroli rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem. Serch hynny, byddwn wedi meddwl bo Cerddoriaeth yn un o'r pynciau lle byddai hen ddigon o bobl galluog yn medru ar y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Josgin » Sad 02 Mai 2009 9:17 am

Dylai pennaeth yr ysgol anfon cwyn at CBAC yn syth , ac mi fuasai'n syniad i tithau wneud cais am ystyriaeth arbennig oherwydd amgylchiadau anffafriol.
Mae CBAC yn ddiog gyda Cymreictod - mae nifer o'u staff yn ateb y ffon yn Saesneg , serch y ffaith eu bod yn medru'r Gymraeg.
'Name and shame'yw'r plosi sy'n gweithio gyflymaf , mi ofnaf.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Iau 07 Mai 2009 2:41 pm

Geshi atab am hyn heddiw, a dwi dal ddim yn berffaith hapus 'de:

Ma'n debyg bod yn rhaid i'r arholiad ga'l 'i recordio drwy gyfrwng y Saesneg, yn ychwanegol i'r rhesymau uchod, gan ei bod yn angenrheidiol i'r arholiad gael ei safoni gan fwrdd safoni Prydeinig (Seisnig) yn ogystal â phrif fwrdd CBAC. I radda, dwi'n dallt y rhesymeg yma - ond dal, dos bosib ddylwn i fod yn cael gwneud yr arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac yna cyfieithydd ar yr ochr arall wedyn? Dwi'm yn meddwl 'i fydd o'n werth mynd â'r mater bellach na hyn wan felly 'de. Diolch am y'ch barn chi be'bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan ceribethlem » Iau 07 Mai 2009 3:26 pm

Gwehil Maes Gwyddno a ddywedodd:Geshi atab am hyn heddiw, a dwi dal ddim yn berffaith hapus 'de:

Ma'n debyg bod yn rhaid i'r arholiad ga'l 'i recordio drwy gyfrwng y Saesneg, yn ychwanegol i'r rhesymau uchod, gan ei bod yn angenrheidiol i'r arholiad gael ei safoni gan fwrdd safoni Prydeinig (Seisnig) yn ogystal â phrif fwrdd CBAC. I radda, dwi'n dallt y rhesymeg yma - ond dal, dos bosib ddylwn i fod yn cael gwneud yr arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac yna cyfieithydd ar yr ochr arall wedyn? Dwi'm yn meddwl 'i fydd o'n werth mynd â'r mater bellach na hyn wan felly 'de. Diolch am y'ch barn chi be'bynnag.

Fi ddim yn deall y rhesymeg am safoni ar lefel "Brydeinig" yn golygu fod rhaid gwneud popeth yn Saesneg. Mae pob pwnc arall yn gorfod cael ei drin mewn ffordd tebyg (dybiwn i), felly pam fod angen gwahaniaeth y tro hwn?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Duw » Iau 07 Mai 2009 4:27 pm

Dwi ddim yn deall beth oedd yn cael ei recordio - a oeddet yn gorfod rhoi atebion ar lafar? Bwrdd Safoni Prydeinig? Pwy y'n nhw? Dwi ddim yn derbyn bod yr esboniad hwn yn dderbyniol. Mae CBAC wedi 'addo' arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os nac oeddent yn gallu cyflawni gofynion eu hunain, ni ddylsent fod wedi cynnig y cymhwyster trwy'r Gymraeg yn y lle cyntaf. Pelled allaf weld, eu problem nhw yw hwn a nhw sydd wedi camarwain athrawon a myfyrwyr.

Dwi wedi edrych dros fanyleb Cerddoriaeth 2009 ymlaen a gallu gweld DIM cyfeiriad at "fyrddau Saesneg eu hiaith". Yn fyr, dyma beth rwyf wedi canfod am Uned MU1:

Bydd y perfformiadau (unawdol a/neu ensemble lle bo’n briodol) yn cael eu recordio a’u hasesu’n allanol gan arholwr yn ymweld â chanolfan a benodir gan CBAC. Mae’n ofynnol i’r ymgeiswyr sicrhau fod gan yr arholwr fanylion y rhaglen a llungopïau o’r gerddoriaeth a berfformir yn yr asesiad.
Bydd arholwyr y Bwrdd yn ymweld â chanolfannau i asesu’r uned hon ar ddyddiad penodedig yn ystod Ebrill/Mai.
Er mwyn helpu athrawon ac ymgeiswyr wrth ddewis cerddoriaeth ar gyfer yr uned hon, mae meini prawf ar gyfer asesu perfformio wedi’u darparu. Lluosir y marc a enillwyd am safon y perfformiad gan un o’r rhifau canlynol yn ôl graddfa anhawster y gerddoriaeth mewn perthynas â’r arholiadau cerddoriaeth graddedig (GME).

Repertoire yn ôl Safon Gradd 5 ACG neu’n uwch: x 3
Repertoire yn ôl Safon Gradd 4 ACG : x 2.7
Repertoire yn ôl Safon Gradd 3 ACG neu’n is: x 2.4


Dylai llythyr cryf fynd o'r Pennaeth at CBAC (a phosib at y Cynulliad). Mae CBAC yn gwneud yn dda iawn wrth wasanaethu arholiadau - dylent beidio â phasio eu hanawsterau nhw ymlaen i'r unigolyn. Rhag eu cywilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Iau 07 Mai 2009 5:28 pm

Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn deall beth oedd yn cael ei recordio - a oeddet yn gorfod rhoi atebion ar lafar? Bwrdd Safoni Prydeinig? Pwy y'n nhw? Dwi ddim yn derbyn bod yr esboniad hwn yn dderbyniol. Mae CBAC wedi 'addo' arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os nac oeddent yn gallu cyflawni gofynion eu hunain, ni ddylsent fod wedi cynnig y cymhwyster trwy'r Gymraeg yn y lle cyntaf. Pelled allaf weld, eu problem nhw yw hwn a nhw sydd wedi camarwain athrawon a myfyrwyr.


Wel, yn syml, do's dim unrhyw drafodaeth lafar yn digwydd yn ystod craidd yr arholiad, ond ma' na bwt bach ar ddechrau'r arholiad yn cael ei recordio - yn cynnwys enw, rhif arholiad, enw'r darnau, offeryn, pa ddarn sy'n rhan o'r maes astudiaeth (gweler manylion yn y fanyleb) a pha radd 'di'r darna a.y.y.b. Ond geshi drafodaeth anffurfiol, ysgafn cyn cychwyn yr arholiad yn y Gymraeg, felly ma' hynny'n dweud nad problem yr arholwr oddo. Ond mi ydw i wedi clywed gan bobl erill nad o'dd yr arholwr ma'n un hoffus beth bynnag (trafferthion amrywiol mewn ysgolion eraill).

Ma'n debyg bod y byrddau arholi unigol (e.e. CBAC) yn gorfod cael eu safonu hefyd, gan fwrdd sy'n "rheoli"'r byrddau unigol. Neu rhywbeth tebyg i hynny - ateb ar lafar gan ffynhonell arall ge'sh i. Dwnim os dio rwbath i'w neud fo'r "fanyleb newydd" ma chwaith - gan 'i bod hin debyg ma'n ysgol ni oedd un o'r rhei cynta' yn cynnal arholiadau perfformio o dan y fanyleb newydd, a bod angan rhyw fwrdd i "brofi" system cbac..dwnim. Ma petha chydig yn niwlog i fi'n hun i fod yn onast - ma'n dechra ca'l i sortio ar hyn o bryd gan bod rhei cymhelthdoda yn yr ysgol. Ac y ffaith bod ni'n brysur yn paratoi at arholiada ysgrifenedig wnsos nesa! :( Ro 'i wybod i chi os ddo' i rywfaint yn fwy goleuedig ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Duw » Iau 07 Mai 2009 10:49 pm

ma' na bwt bach ar ddechrau'r arholiad yn cael ei recordio - yn cynnwys enw, rhif arholiad, enw'r darnau, offeryn, pa ddarn sy'n rhan o'r maes astudiaeth (gweler manylion yn y fanyleb) a pha radd 'di'r darna a.y.y.b.


Os dyna'r cyfan a oedd wedi digwydd, posib nid oedd hwn yn fater i fecso'n ormodol amdani. Rwyt wedi dweud bod CBAC hefyd yn cael eu safoni, ac rwyt yn hollol gywir. Mae angen iddyn nhw brofi bod eu systemau a safonau yn gywir a bod eu cyrsiau'n gywerth gyda byrddau arholi eraill - er fel rheol mae enghreifftiau o'u samplau cyfrwng Saesneg yn ddigonol. Os wyt yn teimlo rwyt wedi dioddef oherwydd hyn, cer amdani a gwthia'r Pennaeth i wneud cwyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Ray Diota » Gwe 08 Mai 2009 1:37 pm

Duw a ddywedodd:
ma' na bwt bach ar ddechrau'r arholiad yn cael ei recordio - yn cynnwys enw, rhif arholiad, enw'r darnau, offeryn, pa ddarn sy'n rhan o'r maes astudiaeth (gweler manylion yn y fanyleb) a pha radd 'di'r darna a.y.y.b.


Os dyna'r cyfan a oedd wedi digwydd, posib nid oedd hwn yn fater i fecso'n ormodol amdani. .


wel, pam ffwc bo raid e roi 'i fanylion yn saesneg?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

Postiogan Gwydion - CBAC » Gwe 08 Mai 2009 3:22 pm

Hoffai CBAC ymddiheuro yn yr amgylchiadau hyn - ein polisi clir yw mai yn y Gymraeg y dylid cynnal pob rhan o arholiad cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Gwehil Maes Gwyddno yn cysylltu â phennaeth cerdd yr ysgol i sicrhau ein bod ni'n cael adroddiad swyddogol am yr arholiad hwn. Pan gawn y manylion perthnasol oddi wrth yr ysgol, byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod y system yn gweithio fel y dylai.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwydion - CBAC
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 08 Mai 2009 2:01 pm
Lleoliad: Cymru

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron