Tudalen 2 o 2

Re: CBAC yn defnyddio'r Saesneg i arholi cwrs cyfrwng Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 3:41 pm
gan Duw
Ray Diota a ddywedodd:wel, pam ffwc bo raid e roi 'i fanylion yn saesneg?


Cytuno RD, dyle fe ddim - siarad o safbwynt o finne'n camddeall o'n i. Ces i'r argraff bod yr holl arholiad wedi'i chynnal yn y Saesneg - hynny yw taw prawf lle roedd y myfyriwr yn gorfod trafod ei destun trwy'r Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg.

Gobeithio bydd ein ffrind o CBAC yn gallu esbonio pam fod yn rhaid cynnig manylion trwy'r Saesneg? Ydy hyn yn sicrhau bod cymedrolwyr (Saesneg eu hiaith) yn gallu cymedroli POB arholiad wedi'u recordio? Os felly, faint o waith fydde dysgu'r rhifau yn y Gymraeg (ar gyfer rhif ymgeisydd, gradd y darn); enwau offerynnau; cyfieithiad o deitl rhan y maes astudiaeth. Rhy syml?

Yn amlwg, penodi rhywun sy'n gallu deall Cymraeg fydde'n ddelfrydol.