Tudalen 1 o 1

Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

PostioPostiwyd: Maw 05 Mai 2009 7:23 pm
gan Hedd Gwynfor
Dywed Paul Davies AC:

"Rwy'n cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith mae yng Nghymru y dylid creu deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg, ac yn cefnogi'r alwad fod angen ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith, a chael gwared ar unrhyw gyfyngiadau er mwyn datganoli pwerau llawn ym maes y Gymraeg i Gynulliad Cymru. Mater i'r dyfodol yw trafod cynnwys unrhyw Fesur Iaith, y ddadl ar hyn o bryd ydy ble y dylid creu deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg, a barn Ceidwadwyr Cymru yw mae yma yng Nghymru y dylid gwneud hynny, a dyna pam yr ydym yn cefnogi'r alwad i ddatganoli'r grymoedd yn llawn o San Steffan i Gynulliad Cymru."

Daw hyn lai na phythefnos cyn i Gymdeithas yr Iaith gynnal rali tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd ar Fai 16eg am 2yp. Yn siarad bydd Hywel Teifi Edwards, Adam Price, Angharad Mair a Catrin Dafydd.

Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n wych fod yr wrthblaid yn credu fod angen ehangu sgôp y Gorchymyn. Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu am sawl blwyddyn am ddeddf iaith ac mae'n hymgyrch ni wedi cymryd trywydd newydd ers cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith. Gobeithio gall y Ceidwadwyr roi pwysau pellach ar y glymblaid a phwyso am drosglwyddo'r pwerau deddfu llawn dros y Gymraeg i Gymru."

Re: Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

PostioPostiwyd: Maw 05 Mai 2009 8:49 pm
gan Duw
Cwl - ydy barn rhai ceidwadwyr wedi newid oherwydd eu bod wedi dysgu'r Gymraeg? Hyfryd i'w glywed.

Re: Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

PostioPostiwyd: Mer 06 Mai 2009 2:13 am
gan Gwenci Ddrwg
Newyddion grêt - neis i weld ceidwadwyr arall sy'n cydnabod pwysigrwydd yr iaith. Ar y llaw arall, mae cydnabyddiaeth yn beth dda dim ond os oes na canlyniadau uniongyrchol- IE os ydy pobl yn gweithredu ar ôl iddynt gydnabod.
Cwl - ydy barn rhai ceidwadwyr wedi newid oherwydd eu bod wedi dysgu'r Gymraeg? Hyfryd i'w glywed.

Oedd y gwr na (Paul Davies) yn siarad Cymraeg yn ystod y cyhoeddiad na- neu cyfieithiad oedd y paragraff ym mhost Hedd?

Re: Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

PostioPostiwyd: Mer 06 Mai 2009 4:12 pm
gan Creyr y Nos
Dwi'n meddwl bod y Gymraeg yn iaith gyntaf i Paul Davies.

Re: Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

PostioPostiwyd: Iau 07 Mai 2009 11:43 am
gan Blewyn
D'oedd gen i ddim syniad fod yr awdurdodaeth i benderfynnu ar faterion y iaith Gymraeg yn San Steffan, yn hytrach nag yng Nghaerdydd ! :ofn: Cyweilyddus ynte ?