Addysg Gydol Oes Caerdydd: cynnig i ddileu'r Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Addysg Gydol Oes Caerdydd: cynnig i ddileu'r Gymraeg

Postiogan cfr » Iau 07 Mai 2009 11:40 pm

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi cynnig i ddileu pob cwrs mewn llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol, hanes ac archaeoleg, cerddoriaeth, athroniaeth, celf, pensaernïaeth, crefydd, ffotograffiaeth a'r Gymraeg yng Nghanolfan Caerdydd ar gyfer Addysg Gydol Oes. Nid cyrsiau ar gyfer dysgwyr ydy cyrsiau'r Gymraeg hyn, ond cyrsiau ar gyfer pobl sy'n gallu siarad yn rhugl. (Dydy'r ganolfan ddim yn dysgu Cymraeg fel ail iaith.) Ar hyn o bryd, mae cyrsiau'r Gymraeg yn cynnwys cyrsiau gloywai iaith ysgrifenedig, sgiliau cyfieithau, llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol.

Maen nhw'n cynnig i gadw cyrsiau mewn dim ond ieithoedd cyfoes (Ffrangeg, Sbaeneg etc), gwyddoniaeth a'r amgylchedd ac astudiaethau cymdeithasol, yn cynnwys busnes a rheoli.

Bydd Cyngor y Brifysgol yn cyfarfod ar 18 Mai i ystyried y mater a phleidleisio.

Deiseb: http://www.ipetitions.com/petition/save ... index.html
Gwefan: http://savehumanitiescardifflifelonglea ... gspot.com/ (yn cynnwys manylion ynglŷn ag at bwy ydych chi'n gallu eu hysgrifennu)
Protest i wrthwynebu'r toriadau: tu allan i'r Prif Adeilad am 4 pm ar 18 Mai (gyferbyn ag Undeb y Myfyrwyr, Park Place, Caerdydd)

Mae'n flin gyda fi achos nad ydw i'n gallu ysgrifennu (neu siarad) Cymraeg yn dda. (Tiwtor athroniaeth ydw i - dim ond ceisio dysgu'r Gymraeg.) Ond ro'n i'n meddwl hoffai pobl wybod, efallai, cyn i fi wella fy Nghymraeg! Gobeithio eich bod chi'n gallu fy nheall fi. Dim gormod o leoedd i siarad Cymraeg yng Nghaerdydd, dw i'n meddwl, a basai cynnig y brifysgol yn golygu un lle llai.

Diolch.
cfr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Sad 02 Mai 2009 11:37 pm

Re: Addysg Gydol Oes Caerdydd: cynnig i ddileu'r Gymraeg

Postiogan HuwJones » Gwe 08 Mai 2009 8:01 am

Mae'r un fath o beth yn digwydd ymhobman... prifysgolion yn trio ditshio eu cyrsiau cymunedol. Ond mae'n ymddangos bod Caerdydd yn fwy sinigaidd a ruthless na'r lleill. Da iawn ti Cfr am bostio'r neges a phob lwc gyda'r deiseb (dwi wedi arwyddo).
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Addysg Gydol Oes Caerdydd: cynnig i ddileu'r Gymraeg

Postiogan Hazel » Gwe 08 Mai 2009 2:26 pm

Mae'n digwydd yn America hefyd. Mae'r amcanion o brifysgolion yn newid - efallai er lles i'r bridfysgol ond er anfantais i'r myfyriwr. Mae'r pynciau dyneddiol yn gymaint o gyfoethogiad! Dydw i ddim wedi eu edifaru nhw.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron