Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 02 Meh 2009 4:48 pm

Er Gwybodaeth

cymdeithas.org a ddywedodd:Mae'r frwydr dros Fesur Iaith yn parhau y tu mewn i garchar y Parc

Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.

Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno. Gwrthodwyd yr hawl i Ffred fynd â'i Destament Newydd Cymraeg gydag ef o'r llys yn Llanelli, a dywedwyd y byddai Beibl ar gael iddo yn y carchar - ond yn Saesneg yn unig.

Dywedodd Ffred hefyd ei fod wedi gwrthod arwyddo'r ffurflen remisiwn a fyddai'n caniatáu iddo gael ei ryddhau wedi dwy ran o dair o'i ddedfryd, sef 3 diwrnod, gan fod y ffurflen yma hefyd yn uniaith Saesneg, ac mae'n bosib felly na chaiff ei ryddhau tan iddo wneud y ddedfryd yn gyfan. Dywedodd hefyd ei fod wedi gwrthod llanw ffurflen ar gyfer cael bwyd llysieuol, eto ffurflen uniaith Saesneg, ac felly dim ond tato sydd ar gael iddo i'w fwyta.

Darllen Mwy
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Re: Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 03 Meh 2009 2:08 pm

Ydi e allan eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 03 Meh 2009 3:36 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Ydi e allan eto?


Odi.

Ymgyrchydd iaith yn galw am drosglwyddo pob grym deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad

Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw. Yn wyneb ei brofiad yn ceisio cael gwasanaeth Cymraeg yn y carchar preifat hwn, galwodd Mr Ffransis ar y Pwyllgor Craffu fory i fynnu fod POB grym deddfu ym maes y Gymraeg yn cael ei datganoli'n llawn heb unrhyw gyfyngiadau i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn presennol.

Dywedodd Ffred Ffransis:

"Mae'r anhawster i gael unrhyw ffurflenni na gwasanaeth Cymraeg tu fewn i Garchar y Parc yn dangos yn eglur mor wirion yw ceisio llunio Gorchymyn Iaith cymhleth sy'n ceisio cynnwys rhannau cyfyngedig iawn o'r sector preifat. Mae'r carchar hwn yn cael ei drefnu gan gwmni preifat ond ar gyfer y sector cyhoeddus. Byddai ei statws yn aneglur tan y ddeddf, ac un ymhlith miloedd o enghreifftiau o gymhlethdodau potensial yw hyn. Mae'n gwbl amlwg mai'r ateb syml yw trosglwyddo POB hawl deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn Iaith. Wedyn fe ellir cael y ddadl ddemocrataidd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am sut i ddefnyddio'r hawliau hyn. Galwn ar y Pwyllgor Craffu i gyhoeddi hyn yn syml fory."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Postiogan Carlos Tevez » Mer 03 Meh 2009 11:37 pm

fel dywedodd maddwyddgrwyf, ystod gem cymru v estonia, roedd ffransis yn eistedd o flaen ni ac yn gweiddi ei ben i ffwrdd yn saesneg.....mmmmm
"....the name is unimportant...is it ghostbusters 2??!..."
Carlos Tevez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 146
Ymunwyd: Sad 07 Chw 2004 10:58 pm
Lleoliad: Llangwyfan

Re: Carcharu Ffred Ffransis am 5 niwrnod

Postiogan Cardi Bach » Iau 04 Meh 2009 8:56 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Ydi e allan eto?


Odi.


Phew.
O'n i'n becso am eiliad nagodd e am allu pleidleisio yn yr etholiade heddi!
:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron